People holding hands during Newport walk for Dementia

 

Yn dilyn llwyddiant parhaus Taith Gerdded flynyddol Casnewydd ar gyfer Dementia; Unwaith eto, bydd Clwb Pêl-droed Casnewydd a Casnewydd Fyw yn ymuno i godi ymwybyddiaeth ac arian hanfodol i Gymdeithas Alzheimer’s, gyda'r digwyddiad swyddogol yn cael ei gynnal yn Theatr a Chanolfan y Celfyddydau Glan yr Afon ddydd Sul 24 Ebrill.

Cynhaliwyd taith gerdded 2021 yn rhithwir gyda'r cyfranogwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan ar unrhyw adeg yn ystod mis Ebrill a chwblhau '3k Your Way'. Er gwaethaf yr amgylchiadau heriol, cododd y cyfranogwyr dros £8,500 (gan gynnwys cymorth rhodd) ar gyfer Cymdeithas Alzheimer's Cymru.

Oherwydd y llwyddiant hwn a'r adborth gwych a gafwyd gan bawb a gymerodd ran, bydd cyfranogwyr unwaith eto'n cael eu hannog i gerdded '3k Your Way', gan ymrwymo i gerdded 3 cilometr mewn amrywiaeth o heriau personol, er enghraifft bob dydd Sul, bob dydd neu hyd yn oed redeg y 3k ar unrhyw adeg yn ystod mis Ebrill 2022, bydd cofrestru'n agor heddiw gyda'r Daith Gerdded Casnewydd swyddogol ar gyfer Dementia  yn cael ei chynnal ar 24 Ebrill 2022 yn Theatr Glan yr Afon am 11am.

Gydag oddeutu 2,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghasnewydd, a 50,000 yn byw gyda dementia yng Nghymru, bydd yr arian a godir gan y daith yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gefnogi teuluoedd yr effeithir arnynt gan y clefyd. Mae hyn hefyd yn cefnogi ymrwymiad Casnewydd i fod yn ddinas sy’n deall dementia, gan helpu i leihau’r stigma a gysylltir â dementia, a helpu’r rhai sy’n byw gyda’r cyflwr i deimlo’n hyderus, eu bod yn cael eu deall a’u cefnogi fel rhan werthfawr o gymdeithas a’r gymuned leol.

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw , "Ar ôl cyfnod mor heriol, rydym wrth ein bodd y byddwn yn gallu croesawu Taith Gerdded i Ddementia Casnewydd yn ôl fel digwyddiad awyr agored i'r ddinas, a gynhelir yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.  Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw gweithgarwch corfforol, felly mae annog pobl i fynd allan i'r awyr agored a chwblhau eu 3 cilometr mor bwysig i les meddyliol a chorfforol.  Mae'n bartneriaeth ardderchog gyda Chlwb Pêl-droed Sir Casnewydd i gefnogi'r rhai sy'n byw gyda Dementia, rwy'n falch iawn y gallwn gynnal hyn ar Lan yr Afon unwaith eto eleni."

Dywedodd cyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Casnewydd, Kevin Ward:  "Rydym yn llawn cyffro i barhau â'n partneriaeth â Chymdeithas Alzheimer’s Cymru a Casnewydd Fyw i ddod â Thaith Gerdded dros Ddementia Casnewydd yn ôl am flwyddyn arall.

"Codwyd mwy o arian y llynedd na’r digwyddiad cyntaf, a oedd yn ymdrech wych o ystyried nad oedd cyfranogwyr yn gallu cerdded gyda'i gilydd oherwydd cyfyngiadau Covid.

"Mae dadl bwysig yn cael ei chynnal ynghylch y cysylltiadau posibl rhwng pêl-droed a dementia, ac mae'n iawn bod CPD Casnewydd, fel clwb pêl-droed proffesiynol, yn cefnogi ymdrechion i helpu sefydliadau fel Cymdeithas Alzheimer’s Cymru i godi ymwybyddiaeth ac arian."

Dywedodd Andrew Hall, Codwr Arian Cymunedol Cymdeithas Alzheimer's Cymru "Mae wedi bod yn bleser cefnogi Clwb Pêl-droed Casnewydd a Chasnewydd Fyw a gweld cymaint o bobl yn dod at ei gilydd i anrhydeddu neu gofio am eu hanwyliaid a chodi arian y mae mawr ei angen ar gyfer Cymdeithas Alzheimer. Mae'r pandemig wedi bod yn drychinebus i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia, gyda gwasanaethau’r Gymdeithas Alzheimer ledled y DU, fel ein llinell gymorth Dementia Connect, yn cael eu defnyddio dros chwe miliwn o weithiau ers dechrau'r cyfnod clo ym mis Mawrth 2020.

Bydd pob punt a godir gan Gerdded dros Ddementia Casnewydd yn helpu i gefnogi tua 50,000 o bobl yng Nghymru sy'n byw gyda dementia, yn gwella gofal, ariannu ymchwil a chreu newid parhaol.  Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb am gymryd rhan ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at 2022." 

Dywedodd John Harrhy, Cadeirydd Casnewydd Fyw "Hoffwn ddiolch yn fawr iawn a llongyfarch pawb a gymerodd ran mewn digwyddiadau blaenorol ac a gododd arian i Gymdeithas Alzheimer's Cymru.

"Rydym wrth ein bodd ein bod wedi llwyddo i gadarnhau y bydd digwyddiad 2022 yn croesawu pobl i gerdded 3 cilometr yn eu ffordd nhw, ac i ymuno â ni ar gyfer y daith gerdded o amgylch Casnewydd ar 24 Ebrill. Rydym mor ddiolchgar i bawb sy'n cymryd rhan ac rydym mor falch o fod yn gweithio unwaith eto gyda Chymdeithas Alzheimer’s Cymru a Chlwb Pêl-droed Casnewydd i helpu i godi arian hanfodol a chefnogi'r rhai yr effeithir arnynt gan ddementia."

I gofrestru ar gyfer 'Taith Gerdded Casnewydd dros  Ddementia – 3k Your Way' ac i ymgymryd â'ch her codi arian drwy gerdded, loncian neu feicio ewch i www.newportlive.co.uk/events neu ddilyn y ddolen: Casnewydd Fyw | Digwyddiadau 

Mae cofrestru yn costio £5 y pen, yna anfonir mwy o wybodaeth at bawb sy'n cymryd rhan, gan gynnwys ffurflen noddi, dolen Just Giving Page a map y llwybr, bydd croeso cynnes o 10.30am ar ddiwrnod y digwyddiad.

Os hoffech wirfoddoli eich amser i gefnogi cerddwyr ar y diwrnod drwy fod yn un o'n gwirfoddolwyr sy'n gwneud y digwyddiad yn bosibl, anfonwch e-bost at y tîm drwy press.office@newportlive.co.uk

Bydd yr holl elw o'r codi arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi Cymdeithas Alzheimer Cymru o ganlyniad uniongyrchol i'r bartneriaeth ag Glwb Pêl-droed Sir Casnewydd a Newport Live.

 

Alzheimers Society.jpgNewportLiveLogoBlack-01.pngNewport County logo.gif