Mae Casnewydd Fyw, yr ymddiriedolaeth elusennol sy'n cynnig gweithgareddau chwaraeon, hamdden a diwylliannol yng Nghasnewydd, yn croesawu tri aelod newydd i'r bwrdd, Richie Turner, Phil Tilley a David Hayhoe. Bydd y penodiadau newydd hyn yn dod â gwybodaeth ychwanegol i'r bwrdd profiadol, gan gefnogi'r sefydliad i ysbrydoli pobl ledled Casnewydd i fod yn Hapusach ac yn Iachach.

Mae Richie Turner wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau yn y diwydiannau celfyddydau a chreadigol, addysg uwch a'r sector cyhoeddus gan arbenigo mewn arloesi, entrepreneuriaeth ac amrywiaeth. Ar hyn o bryd mae'n rheoli rhaglenni entrepreneuriaeth i raddedigion ym Mhrifysgol De Cymru, sy'n cynnwys y Stiwdio Sefydlu (deorfa ddigidol a diwydiannau creadigol) sydd wedi'i leoli ar gampws Caerdydd, ac mae'n agor ail ddeorfa ar gampws Casnewydd ar hyn o bryd. Mae hefyd yn ddarlithydd ar y cwrs MA Rheolaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn rhan o’i waith ymgynghori diweddar mae wedi gweithio i bob un o'r 4 Cyngor Celfyddydau a'r BFI (sef Sefydliad Ffilm Prydain) yn y DU, gan arwain ymchwil i sefydlu cynllun cerdyn mynediad i'r celfyddydau ledled y DU ar gyfer pob person anabl. Mae newydd gwblhau ymchwil ar gyfer Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i pam mae llawer o bobl anabl wedi ymddieithrio yn y sectorau celfyddydau a threftadaeth ddiwylliannol.

Mae Mr Turner yn edrych ymlaen at ymuno â Casnewydd Fyw ar yr adeg hanfodol hon. Dywedodd "Mae COVID-19 wedi cael effaith ddramatig ar bawb, ond mae llawer o bobl a chymunedau ar draws Casnewydd wedi cael eu heffeithio'n fwy difrifol nag eraill yn y DU. Bydd cefnogi adferiad cymdeithasol ac economaidd drwy well lles, boed hynny'n gwneud ymarfer corff eto neu'n dychwelyd i weld digwyddiad celfyddydol, yn fwy pwysig dros y blynyddoedd nesaf. Edrychaf ymlaen at ymgysylltu â chymuned greadigol Casnewydd i adeiladu gwasanaeth celfyddydol cryfach a mwy amrywiol i bawb."

Hefyd yn ymuno â bwrdd Casnewydd Fyw mae Phil Tilley. Mae Mr Tilley wedi treulio bron i 30 mlynedd yn y diwydiant telathrebu gyda dros 20 mlynedd o brofiad o farchnata cynnyrch yn fyd-eang ac mae bellach wedi ymddeol. Wedi’i leoli yng Nghasnewydd, roedd yn arwain ac yn datblygu timau ledled y byd. Ar ôl iddo ymddeol, ymrwymodd i'r trydydd sector ac mae wedi dod yn aelod o fwrdd Chwaraeon Cymru ac yn ymddiriedolwr elusennol, gan geisio gwella gweithgarwch corfforol a lles pobl yng Nghymru bob amser.

Dywedodd Mr Tilley, "Rwyf bob amser wedi edmygu gwerthoedd a chyflawniadau Casnewydd Fyw ers iddi ddod yn ymddiriedolaeth hamdden ac rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn awr i'w helpu i barhau i dyfu ac i ddod yn ased y gall pobl Casnewydd fod yn wirioneddol falch ohono."

Mae David Hayhoe hefyd wedi’i benodi i fwrdd Casnewydd Fyw. Mae'n gyfrifydd cymwys sydd gyda blynyddoedd lawer o brofiad yn gweithio yn y diwydiant glo yn Ne Cymru, Swydd Efrog, a Swydd Nottingham cyn dychwelyd i Gymru i ymuno â darparwr tai cymdeithasol, cymorth a gofal mawr, yn ddiweddarach fel Cyfarwyddwr Cyllid Grŵp. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn chwaraeon o bob math, yn enwedig pêl-droed ac mae hefyd yn artist amatur brwd.

Byddant yn ymuno â'r bwrdd presennol sy’n cynnwys y Cadeirydd John Harrhy, yr Is-gadeirydd Kevin Ward, Mike Butler, Stephanie Hazelhurst, Katija Dew, Natalie Jakomis a David Mayer. Mae gan y bwrdd gyfoeth o arbenigedd o ran llywodraethu, polisi, strategaeth, data a dadansoddeg, cyllid, y cyfryngau a chyfathrebu, yn ogystal â phrofiad o fewn y sectorau chwaraeon a chelfyddydau a chysylltiadau cryf â dinas Casnewydd yn ogystal â llawer o wybodaeth amdani.

Dywedodd John Harrhy, Cadeirydd Casnewydd Fyw "Rwy'n falch iawn o groesawu tri aelod newydd a'u sgiliau, rydym wedi bod yn ffodus iawn o fod wedi recriwtio aelodau ardderchog yn lle’r aelodau sy'n ymddeol sydd wedi cyfrannu cymaint at lwyddiant Casnewydd Fyw yn ystod ei blynyddoedd ffurfiannol. Mae cyfnod cyffrous o'n blaenau ni yng Nghasnewydd Fyw, gyda llawer i'w wneud, bydd sgiliau'r Bwrdd yn sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda i ymateb i'r her honno.

Mae Casnewydd Fyw yn cefnogi iechyd a lles pobl y ddinas a’r tu hwnt ac yn eu hysbrydoli i fod yn hapusach ac yn iachach. Mae nifer o gampfeydd, pyllau nofio, canolfan tenis yn ogystal ag ystod eang o gyfleusterau chwaraeon eraill. Ochr yn ochr â’r rhain, mae Canolfan Glan yr Afon, canolfan theatr a chelfyddydau ranbarthol sy’n gweithredu ers amser ac sy’n cynnig amrywiaeth o berfformiadau byw, dangosiadau a gweithdai.

Mae Tîm Datblygu Chwaraeon a Chelfyddydau Casnewydd Fyw yn cynnig rhaglenni chwaraeon o safon uchel ledled dinas Casnewydd a’r tu hwnt, i ysgolion, teuluoedd a grwpiau cymunedol eraill.

Ceir gwybodaeth fanylach ar wefan Casnewydd Fyw yn http://www.newportlive.co.uk/cy

​​​​