Newport Mass Vaccination Centre - photo credit Kirsten McTernan.jpgNewport Mass Vaccination Centre 2 - photo credit Kirsten McTernan.jpg

Er bod ei lleoliadau'n cael eu gorfodi i gau oherwydd y cyfyngiadau presennol gan Lywodraeth Cymru, mae Casnewydd Fyw a'i thimau yn dal i weithio'n galed i gefnogi iechyd a lles trigolion y ddinas.

Mae'r ymddiriedolaeth elusennol yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i weithredu canolfan frechu dorfol o Ganolfan Casnewydd. Fel arfer yn ganolfan hamdden sy'n cefnogi cwsmeriaid i fod yn gorfforol actif, mae'r ganolfan ar hyn o bryd yn cynnal y clinig brechu gyda staff Casnewydd Fyw yn cefnogi tîm y GIG. Mae'r cyfraniad hwn wedi arwain at dros 250,000 o bobl sydd bellach wedi cael eu brechu ar draws y bwrdd iechyd.

Yn ogystal, mae Casnewydd Fyw yn cynorthwyo'r frwydr yn erbyn y pandemig ymhellach gyda phrofion Covid-19 yn cael eu cynnal ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd.

Ar ôl cefnogi Rhaglen Adsefydlu Covid-19 gyntaf Cymru yn haf 2020, mae Casnewydd Fyw unwaith eto yn cefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chynllun Atgyfeirio i Ymarfer Corff Casnewydd gydag ail raglen adsefydlu yn ei chyfleusterau. Mae'r rhaglen yn cefnogi ac yn cynorthwyo adferiad cleifion COVID-19 a oedd wedi gorfod cael eu rhoi ar beiriant cymorth anadlu ar ôl iddynt gael eu rhyddhau a'u nod yw helpu cleifion, yn feddyliol ac yn gorfforol gyda'u hadferiad.

Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon, sydd hefyd yn cael ei rheoli gan Casnewydd Fyw, ac sydd wedi bod ar gau ers mis Mawrth 2020, yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd i gynorthwyo Gwasanaeth Crwner Gwent, gan weithredu fel Llys Crwner tra bod y theatr wedi'i chyfyngu rhag agor ar gyfer perfformiadau byw.

Yn y cyfamser, er nad yw'r sefydliad yn gallu croesawu pobl i'w leoliadau, mae Casnewydd Fyw yn dal i weithio'n galed i ddarparu cymorth i drigolion y ddinas. Mae'r tîm ffitrwydd yn cynnig dosbarthiadau ffitrwydd ar-lein a byw gyda gweithgareddau ychwanegol yn cael eu cyflwyno i gefnogi pobl dros 60 oed neu a allai fod angen ymarferion dwysedd ysgafnach. Maent hefyd yn parhau i ddarparu eu hadnoddau Hapus ac Iach Gartref, yn cefnogi defnyddwyr gydag awgrymiadau, fideos, gweithgareddau a dolenni i gadw'n gorfforol actif ac iach yn ogystal â chyfleoedd i fod yn greadigol tra byddant gartref.

Mae timau Datblygu Celfyddydau a Chwaraeon Casnewydd Fyw wedi cyflwyno rhaglen o'r enw Rhannu'r Cariad i gefnogi pobl a allai fod yn fwy ynysig, gan eu hannog i wneud gweithgareddau creadigol a gwella eu lles tra byddant gartref. Bydd hyn yn arwain at arddangosfa o gelf gyhoeddus yn ffenestri'r theatr a'r ganolfan gelfyddydau yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae'r Tîm Datblygu Chwaraeon hefyd yn parhau i ddarparu cymorth a gweithgareddau i bobl ifanc ledled y ddinas, gan gynnwys eu rhaglen Addysg Amgen, gan gefnogi pobl ifanc sy'n ei chael hi’n anodd gweithio mewn amgylchedd ysgol prif ffrwd.

Er nad yw cwsmeriaid yn gallu defnyddio'r cyfleusterau, mae'r canllawiau presennol yn caniatáu i athletwyr elît a phroffesiynol barhau i hyfforddi ac mae Casnewydd Fyw yn cefnogi darpar Olympiaid y dyfodol gyda mynediad i'r trac felodrom, Stadiwm Casnewydd a chyfleusterau eraill er mwyn parhau â’u hyfforddiant. Maent hefyd wedi ehangu eu rhaglen awyr agored i gynnwys gwersylloedd tenis dan 18 oed a mynediad i drac y stadiwm yn unol â'r canllawiau cyfredol.

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw "Er ei bod yn drist na allwn agor ein cyfleusterau i'r cyhoedd ar hyn o bryd, mae'n fraint i ymuno gyda'n cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan i allu cefnogi'r broses hanfodol o gyflwyno brechiadau ledled Casnewydd. Rwy'n hynod falch o'n tîm sydd wedi ymateb i'r her o gyflwyno'r rhaglen frechu ac sy'n chwarae rhan allweddol wrth helpu i ymladd y pandemig.

"Rwyf hefyd yn falch iawn o allu parhau i gefnogi rhaglenni eraill gyda’r defnydd o’n lleoliadau gan gynnwys llys y crwner yng Nghlan-yr-Afon a datblygiad athletwyr elît Cymru.

"Yn y cyfamser, rydym wrth gwrs yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl gartref i fod yn gorfforol actif a chreadigol. Rydym yn gwybod bod y rhain yn hanfodol i iechyd a lles ein cwsmeriaid a'n pobl ar draws y ddinas ac rydym yn gweithio i ysbrydoli pobl i fod yn Hapus ac Iach Gartref, gan ddarparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer corff a chelfyddydol mewn ffordd ddiogel a chyfrifol nes ein bod yn gallu croesawu pobl yn ôl i'n cyfleusterau."

Gan fod Casnewydd Fyw yn sefydliad nad yw’n dosbarthu elw ac yn elusen gofrestredig, mae’r arian a wneir gan y sefydliad yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gwasanaethau a'r cyfleusterau a gynigir gan gynnwys helpu'r gymuned leol drwy gyflawni prosiectau a gweithgareddau.