Yn dilyn cais llwyddiannus i’r Gronfa Cadernid Chwaraeon, Chwaraeon Cymru, mae Casnewydd Fyw wedi cael arian er mwyn helpu i gefnogi'r sefydliad i oresgyn yr heriau y mae'n eu hwynebu oherwydd argyfwng coronafeirws.

Mae'r cronfeydd hanfodol hyn yn cael eu defnyddio er mwyn helpu i gefnogi hyfforddiant staff, digideiddio o fewn y sefydliad, a buddsoddi mewn offer ymarfer corff er mwyn gwella'r profiad i gwsmeriaid.

Mae'r gronfa wedi caniatáu i Casnewydd Fyw greu campfa newydd yn y Pwll Rhanbarthol a’r Ganolfan Tenis gydag offer Technogym newydd. Mae hyn wedi creu capasiti ychwanegol yn y gampfa ac mae'n golygu bod gan gwsmeriaid fynediad i beiriannau digidol o'r radd flaenaf mewn amgylchedd diogel sy’n parchu pellter cymdeithasol. Mae'r gampfa hefyd yn cynnwys Biogylchfa, sesiwn ymarfer 45 munud sy'n teilwra ac yn addasu i'r defnyddiwr.

Mae Casnewydd Fyw wedi cyflwyno meddalwedd rhagnodi i'w gwsmeriaid fel rhan o'i ap Iach ac Actif. Mae’r feddalwedd rhagnodi yn caniatáu i hyfforddwyr Casnewydd Fyw gefnogi cwsmeriaid gyda rhaglenni, hyfforddiant ac ymarferion digidol i'w helpu i gyflawni eu nodau ffitrwydd. Mae hyn yn cynnwys cynllun ffitrwydd digidol personol y gall defnyddwyr ei ddefnyddio yn unrhyw le ac sy’n manylu ar y math o ymarferion, faint o bwysau i'w roi ar y peiriannau, nifer yr ailadrodd, setiau, techneg a dilyniant. Bydd demos fideo yn dangos sut i ymarfer yn ddiogel.

Yn ogystal, mae Casnewydd Fyw hefyd wedi gallu cyflwyno hyfforddiant ar-lein i'w weithlu drwy'r llwyfan Reactivate, sy'n golygu bod aelodau'r tîm wedi gallu cael gafael ar adnoddau hyfforddi yn ddigidol ac o bell i sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol ganddynt i'w cadw eu hunain a chwsmeriaid yn ddiogel. Mae hyn law yn llaw â mesurau diogelwch eraill gan gynnwys Cyfarpar Gwarchod Personol a phwyntiau mynediad wedi'u digideiddio i wella diogelwch i bawb yn y cyfleusterau ymhellach ac i gefnogi rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw "Rydym yn hynod ddiolchgar i Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sydd wedi gwneud yr arian hwn yn bosibl. Fel ymddiriedolaeth elusennol, mae'r holl arian a wnawn yn cael ei ailfuddsoddi yn ein cyfleusterau a'n prosiectau yn y gymuned, felly rydym yn gwerthfawrogi'r cymorth hanfodol hwn yn fawr. Rydym wedi buddsoddi'r gronfa'n ofalus i gefnogi mentrau allweddol sy'n sicrhau y gallwn gadw ein cwsmeriaid yn ddiogel a gwella eu profiad tra byddwn yn ein cyfleusterau wrth i ni barhau i ysbrydoli pobl Casnewydd i fod yn Hapusach ac yn Iachach."

 

Mae'r Gronfa Cadernid Chwaraeon yn cynnwys cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol i helpu chwaraeon i ddod allan o'r argyfwng a pharhau i gefnogi pobl yng Nghymru i fwynhau bod yn actif.

 

Gwnaed y gefnogaeth hon yn bosib drwy gyllid gan Gronfa Cadernid Chwaraeon Cymru a, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae hyd at £600 miliwn ar gael i gefnogi cymunedau ym mhob rhan o’r DG yn ystod yr argyfwng Coronafeirws.