
Bu Tîm Chwaraeon Cymunedol a Lles Casnewydd Fyw yn darparu amrywiaeth enfawr o weithgareddau gwyliau dros yr haf i deuluoedd â phlant 3-18 oed. Roedd y gweithgareddau'n cynnwys Gwersylloedd Pontio gydag ysgolion uwchradd, Cerdded mewn Welis am y blynyddoedd cynnar, Cicio Pêl a Chlwb Ffitrwydd yr Haf i bobl ifanc, a digwyddiadau Chwaraeon Untro/Chwaraeon yn y Parc ar gyfer pob oedran – yn wir, roedd rhywbeth ar gynnig i bawb!
Roedd y rhaglen gweithgareddau Chwaraeon Cymunedol a Lles yn cyd-fynd ag amrywiaeth ehangach o weithgareddau haf, gan gynnwys rhai am ddim a rhai â chymhorthdal, a ddarparwyd gan Casnewydd Fyw dros yr haf. Cynhaliwyd digwyddiadau a gweithgareddau ar draws parciau, mannau gwyrdd, ac ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Casnewydd yn ogystal â chyfleusterau Casnewydd Fyw ac ymgysylltwyd â dros 3,800 o blant, pobl ifanc a theuluoedd, gan ddarparu 1,600 o becynnau bwyd iach, byrbrydau, a dŵr.
Dywedodd Chloe Powton, Rheolwr Datblygu Chwaraeon Cymunedol a Gweithgarwch Corfforol, "Roedd yn wych gweld cynifer o blant, pobl ifanc a theuluoedd yn dod draw i'r digwyddiadau i roi cynnig ar amrywiaeth o wahanol chwaraeon a gweithgareddau, cael hwyl a chymdeithasu gyda ffrindiau a phlant eraill yn y gymuned. Roedd y cymorth a gawsom gan gronfa Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, Cartrefi Dinas Casnewydd, Cartrefi Melin, Pobl a Linc Cymru, yn ogystal â chlybiau chwaraeon lleol a sefydliadau cymunedol, yn ein galluogi i gynyddu ein lefel o ddarpariaeth a hefyd gyfeirio mwy o bobl at gyfleoedd lleol i helpu i oresgyn unrhyw rwystrau i gymryd rhan."
"Ffocws mawr i'n tîm eto eleni oedd helpu i fynd i'r afael â newyn yn ystod y gwyliau yng Nghasnewydd, gan gefnogi teuluoedd yr oedd angen ychydig o gymorth arnynt yn ystod y gwyliau. Llwyddwyd i ddosbarthu 1,600 o becynnau bwyd iach, ffrwythau a dŵr dros 4 wythnos, i blant, pobl ifanc, a rhieni ac roedd yr holl eitemau hyn yn cael eu derbyn â diolchgarwch mawr gan ei wneud yn amlwg pa mor fawr oedd yr angen amdanynt."
Meddai un rhiant yr aeth ei phlant Chwaraeon yn y Parc ar Faes Lles Tŷ-du ar 24 Awst, "Mae mor wych eich bod yn talu un pris yn unig (£6 i 2 blentyn) a chael mynediad i gynifer o weithgareddau i blant - nid yw fy un i wedi stopio drwy'r dydd - cymaint felly doedden nhw ddim am adael i gael hufen iâ! Dwi mor ddiolchgar am ddigwyddiadau fel hyn sydd, yn ogystal â chynnig ffordd fforddiadwy o ddiddanu plant o bob oed, yn rhoi cyfle hefyd i rieni gael awyr iach ac ymarfer corff."
Mae'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnig gan Casnewydd Fyw dros yr haf yn ategu gwaith drwy gydol y flwyddyn i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol plant, pobl ifanc ac oedolion, cynyddu eu hymgysylltiad â’r celfyddydau a gwella eu lles meddyliol ac emosiynol. Mae cyllid a dderbyniwyd gan Chwaraeon Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, ac enwi ond rhai, wedi galluogi Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol a Thîm Datblygu’r Celfyddydau Casnewydd Fyw i ddarparu gweithgareddau i annog pobl i gadw’n heini, i ysbrydoli pobl ifanc ac i gefnogi teuluoedd y mae angen cymorth arnynt.
Mae Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw yn darparu cyfleoedd chwaraeon, iechyd a lles i blant, teuluoedd, ysgolion, clybiau chwaraeon a chymunedau ledled Casnewydd. Maent yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth drwy annog pobl i gadw’n heini’n fwy a chefnogi lles meddyliol pobl. Mae'r tîm yn uchel eu parch ymhlith partneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac yn parhau i ddefnyddio chwaraeon fel offeryn i ymgysylltu â phobl a’u hysbrydoli i fod yn hapusach ac yn iachach.
Gan fod Casnewydd Fyw yn sefydliad elusennol, mae ei holl gwsmeriaid a'i aelodau yn helpu i gefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau a gweithgareddau cymunedol ledled Casnewydd.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau a’r gweithgareddau sy’n weddill (mae llawer ohonynt am ddim neu wedi cael cymhorthdal) yr haf hwn ac yn ystod mis Medi, ewch i newportlive.co.uk/HolidayActivities.