Mae Casnewydd Fyw a Chyngor Dinas Casnewydd yn cydweithio’n agos i baratoi adeiladau chwaraeon a hamdden y ddinas i ailagor yn ddiogel.
Yn ystod y cyfnod cloi, mae mwy o lanhau wedi’i wneud, mae amserlenni wedi’u diwygio ac mae mesurau ymbellhau cymdeithasol wedi’u rhoi ar waith yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac i sicrhau diogelwch cwsmeriaid a staff.

Gyda phartneriaid rheoli asedau’r Cyngor, Newport Norse, mae gwaith cynnal a chadw a gwaith archwilio arall wedi’i wneud.

Bydd modd defnyddio llawer o’r cyfleusterau yng Nghanolfan Casnewydd, Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd (PChRhC) a’r Ganolfan Byw’n Actif (CBA) o 10 Awst 2020 ymlaen.

Mae hyn yn cynnwys tri phwll Casnewydd Fyw yn PChRhC a CBA yn ogystal â champfeydd, neuaddau chwaraeon ac ardaloedd ymarfer corff i grwpiau wedi’u hehangu yng Nghanolfan Casnewydd. 

Fodd bynnag, nododd y gwaith archwilio cychwynnol bod angen mwy o archwiliadau a gwaith cynnal a chadw brys yng Nghanolfan Casnewydd felly bydd y pwll nofio’n parhau ar gau am tua chwe mis wrth i arolygon gael eu cynnal. 

Lle y bo’n bosibl, caiff rhaglen nofio Canolfan Casnewydd ei hymgorffori yn y pyllau nofio ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd a’r Ganolfan Byw’n Actif.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:  “Rwy’n falch bod y Cyngor wedi gallu gweithio gyda Chasnewydd Fyw fel y gall cyfleusterau chwaraeon a hamdden a weithredir gan yr ymddiriedolaeth ailagor a bydd llawer o’u defnyddwyr yn croesawu hyn. Rwy’n gwybod y bydd llawer o bobl yn siomedig na all y pwll nofio yng Nghanolfan Casnewydd ailagor ond rhaid i ni flaenoriaethu diogelwch pobl wrth i archwiliadau manwl gael eu cynnal.”

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw: “Yn naturiol, rydym yn siomedig na allwn ni ailagor pwll nofio Canolfan Casnewydd nes ymlaen y mis hwn. Fodd bynnag, mae’n hanfodol bod arolygon pellach yn cael eu cynnal ac felly nid oes modd osgoi cadw’r pwll ar gau. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gynnig cymaint o raglen nofio Canolfan Casnewydd â phosibl yn ein pyllau eraill. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein cwsmeriaid yn ôl i'n canolfannau, a'n pyllau eraill, o 10 Awst ymlaen."