Bws Casnewydd yn cyhoeddi gwasanaeth bws newydd i'r ddinas

Mae Bws Casnewydd, prif weithredwr gwasanaethau bysus yng Nghasnewydd, wedi cyhoeddi y bydd gwasanaeth newydd yn cael ei ychwanegu at eu rhwydwaith ym mis Awst.

Bydd y gwasanaeth 45 newydd yn cysylltu Canol Dinas Casnewydd â Chanolfan Tennis a Nofio Ranbarthol Casnewydd Fyw a Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd yr RSPB, sydd hefyd yn gweithredu ar hyd East Docks Road, sy'n cynnig cyswllt cyfleus rhwng hamdden a natur.

Gan ddechrau ar 11 Awst, bydd y gwasanaeth yn darparu saith taith y dydd i'r Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol, gyda phedair o'r teithiau hyn yn ymestyn i'r Gwlyptiroedd o ddydd Llun i ddydd Gwener a thair taith ar ddydd Sadwrn. Bydd bysus yn stopio y tu allan i'r Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol ac ym maes parcio'r Gwlyptiroedd, gan ei gwneud hi'n hawdd bod yn egnïol neu archwilio'r awyr agored heb y drafferth o yrru neu barcio.

Fel rhan o lansio’r gwasanaeth newydd, mae Bws Casnewydd hefyd wedi cyhoeddi y bydd y gwasanaeth yn rhad ac am ddim am yr wythnos gyntaf, gyda'r gwasanaeth hefyd yn cael ei gynnwys yn eu cynnig 'Teulu am Bum Punt' yn ystod gwyliau'r ysgol.

Dywedodd Alex Clarke, Rheolwr Masnachol Bws Casnewydd, "Daw lansio’r gwasanaeth newydd ar ôl cyfarfod â sawl grŵp cymunedol yng Nghasnewydd a gododd hyn fel ardal nad oedd wedi cael ei wasanaethu'n uniongyrchol gyda gwasanaeth bws yn hanesyddol. Rydym yn gobeithio y gall yr amserlen ddatblygu wrth i fwy o bobl ddefnyddio'r gwasanaeth."

 

Mae Casnewydd Fyw yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau fforddiadwy, gan gynnwys sesiynau nofio am ddim i blant dan 17 oed, dros 60 oed a'r lluoedd arfog. Yn ogystal, rhaglen gyffrous o weithgareddau gwyliau'r haf i gadw plant a phobl ifanc yn egnïol ac yn gysylltiedig.

Ychwanegodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes yng Nghasnewydd Fyw, "Rydyn ni wrth ein bodd i weld y gwasanaeth bws newydd hwn yn cael ei lansio, gan ei gwneud hi'n haws fyth i'n cymuned gael mynediad at gyfleusterau Casnewydd Fyw a Gwlyptiroedd hardd Casnewydd. Mae'r fenter hon yn cefnogi ein cenhadaeth a rennir i helpu pobl i fyw bywydau iachach, mwy egnïol. Rydym yn hynod ddiolchgar i Bws Casnewydd am eu hymrwymiad i wella cysylltiadau trafnidiaeth lleol a helpu preswylwyr i gysylltu â hamdden a natur."

Mae 2025 yn nodi pen-blwydd Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd yr RSPB yn 25 oed ac mae ardal a oedd unwaith yn dir diwydiannol diffaith, bellach yn hafan i fywyd gwyllt ac yn symbol o wydnwch natur. Bydd gwasanaeth 45 yn ategu'r gwasanaeth presennol sy'n ymateb i'r galw yn yr ardal ymhellach.

Dywedodd Kirsty Lindsay, Rheolwr Safle Gwlyptiroedd Casnewydd yr RSPB "Rydym yn llawn cyffro i groesawu gwasanaeth bws rheolaidd i Wlyptiroedd Casnewydd yr RSPB, gan ei gwneud hi'n haws nag erioed i bobl ymweld â'r warchodfa natur hardd hon a’i mwynhau. Wrth i ni ddathlu 25 mlynedd o amddiffyn a chysylltu pobl â natur, mae'r gwasanaeth newydd hwn yn ychwanegiad gwych - yn enwedig wrth helpu i wella hygyrchedd i bawb. Mae'r opsiwn teithio newydd hwn yn cefnogi mynediad mwy cynhwysol, cynaliadwy i natur. Rydym yn gobeithio gweld llawer ohonoch yn defnyddio'r gwasanaeth i archwilio'r Gwlyptiroedd a phrofi'r bywyd gwyllt syfrdanol ar garreg eich drws."

Am fwy o fanylion am lwybr y gwasanaeth, ei amserlen a gwybodaeth am brisiau, ewch i www.newportbus.co.uk