Cyllid ar gyfer projectau newydd yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon
Yn dilyn cais llwyddiannus i Gronfa Sefydlogi i Sefydliadau Cyngor Celfyddydau Cymru, mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon wedi derbyn cyllid i helpu i gefnogi’r theatr pan fydd ar gau.
Caiff y cyllid hollbwysig ei ddefnyddio i gefnogi’r theatr pan fydd ar gau, i greu projectau gydag artistiaid eraill a chymuned Casnewydd ac i baratoi’r theatr ar gyfer ei hailagor pan ganiateir gwneud felly.
Bydd Glan yr Afon yn lansio rhaglen o ddosbarthiadau, gweithdai a deunyddiau addysgol ar-lein gan ddatblygu rhaglen gyfredol y theatr sy’n cynnwys dawns, cerdd, drama a dosbarthiadau ffitrwydd sy’n seiliedig ar gelf. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid yn ogystal â chomisiynu artistiaid lleol a gaiff eu cefnogi gyda’r cyfle i fanteiso ar gyfleusterau Glan yr Afon i helpu i gynnig eu rhaglen gyfredol ar-lein ac i ddatblygu gwaith newydd.
Hefyd bydd rhan o’r cyllid yn cael ei ddefnyddio i uwchraddio a digideiddio systemau tocynnau’r theatr i wella diogelwch a lleihau cysylltiad rhwng cwsmeriaid a staff yn ogystal ag i ddatblygu hyb celfyddydau ar wefan Casnewydd Fyw. Bydd hyn yn hyrwyddo’r gweithgareddau celfyddydau ehangach sy’n digwydd yn y gymuned a bydd yn adnodd i bobl Casnewydd ddod o hyd i wybodaeth a gweithgareddau i’w helpu i fod yn greadigol, gwella eu hiechyd corfforol a meddwl a chefnogi ffordd iachach o fyw.
Dywedodd Alan Dear, Pennaeth Theatr, Celfyddydau a Diwylliant yn Casnewydd Fyw sy’n gyfrifol am redeg Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, “Rydym yn hynod ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am ein galluogi i gael y cymorth ariannol hwn. Bydd hyn yn ein galluogi i greu projectau celfyddydau cyffrous ar gyfer ein cymund ac ar y cyd â hi tra byddwn ni ar gau yn ogystal â’n helpu i ailagor yn ddiogel pan fyddwn ni’n gallu."
Cafwyd y cyllid hwn gan Gronfa Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru a, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae hyd at £600 miliwn ar gael i gefnogi cymunedau ym mhob rhan o’r DU yn ystod argyfwng y coronafeirws.
Os ydych yn artist lleol sydd am ddysgu mwy neu sydd am fod yn rhan o broject, cysylltwch ag Alan Dear yn alan.dear@newportlive.co.uk