Portrait of a man with a colourful background with the wording May Love Be What You Remember Most installed on the side of a building.JPG

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae'r artist lleol CONSUMERSMITH yn garedig iawn wedi rhoi caniatâd i Theatr a Chanolfan Gelf Glan yr Afon werthu printiau o'i gelf stryd a ysbrydolwyd gan y cyfnod clo May Love Be What We Remember Most’.

Mae'r printiau'n dangos y darn yn ei gartref gwreiddiol, y stryd lle cafodd ei greu, i adlewyrchu’r ffaith mai fel cofeb safle-benodol ar gyfer y pandemig coronafeirws y cafodd ei greu’n wreiddiol.

Bydd yr arian a godir o werthu'r printiau hyn yn mynd yn ôl i ariannu prosiectau y bydd Glan yr Afon yn gweithio arnynt yn y dyfodol gydag artistiaid a'r gymuned i ddod â phobl yn ôl at ei gilydd i fwynhau'r celfyddydau a bod yn greadigol yn bersonol unwaith eto.

Dywedodd CONSUMERSMITH "Rwy'n credu ei bod yn wych bod Glan yr Afon yn defnyddio fy ngwaith i godi arian i ariannu prosiectau a fydd yn dod ag artistiaid a'r gymuned at ei gilydd. Holl ddiben celf stryd yw ei bod ar gyfer y bobl.'

Ychwanegodd Sally-Anne Evans, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Glan yr Afon 'Mae'n anrhydedd i ni fod yn gartref i'r gwaith celf gwych hwn. Roedd yn ganolog i'n prosiect cymunedol 'Rhannu’r Cariad/Share the Love' a gynhalion ni yn ystod y cyfnod clo a nawr mae'r darn yn mynd i ganiatáu i ni gynnal rhagor o weithgareddau a chyrraedd mwy o bobl nawr ein bod ni ar agor unwaith eto. Fel elusen gofrestredig mae Casnewydd Fyw a Glan yr Afon yn hynod ddiolchgar am roddion a chefnogaeth gyhoeddus i allu gwneud llawer o'r gwaith cymunedol a wnawn ac rydym yn mawr obeithio y bydd y printiau gwych hyn yn boblogaidd fel y gallwn ddefnyddio'r arian a godir i gynnal gweithdai a sesiynau cymunedol gwych. Dangosodd y cyfnod clo fod pobl Casnewydd wrth eu bodd yn bod yn greadigol, a byddem wrth ein bodd yn gallu gwahodd mwy o bobl drwy ein drysau i ymuno â ni ar gyfer prosiectau newydd cyffrous yn 2022.'

Drwy gydol cyfnod cau Glan yr Afon, roedd y gwaith celf yn cael ei arddangos yn ffenestri blaen yr adeilad er mwyn i bawb oedd yn mynd heibio allu ei werthfawrogi.  Mae'r darn yn gofeb i fywydau a gollwyd yn ddiweddar ac yn ystod y pandemig.  Yr henoed, pobl agored i niwed, pobl unig, pobl mewn gofal nad oedd modd ymweld â nhw, roedd hi mor addas bod y gwaith i’w weld yn ffenestr adeilad gafodd ei adeiladu i alluogi pobl i ddod at ei gilydd i gymdeithasu a rhannu llawenydd, ond yn adeilad y bu’n rhaid iddo gau i gadw pobl yn ddiogel.

Bydd y darn yn cael ei arddangos yn oriel llawr cyntaf Glan yr Afon o benwythnos Celf ar y Bryn 26-28 Tachwedd tan y flwyddyn newydd fel y gall ymwelwyr edmygu'r darn bywiog yn uniongyrchol. 

Mae printiau A3 May Love Be What We Remember Most ar gael i'w prynu am £8 yr un o Swyddfa Docynnau Glan yr Afon. Gallwch weld oriau agor y Swyddfa Docynnau a gweld sut arall y gallwch gefnogi Glan yr Afon ar-lein yma.