
Mae project Llwybr Arfordir (Dyfodol) Cymru yn dod i ben ym mis Hydref gyda rhaglen o ddigwyddiadau cyhoeddus rhad ac am ddim, gan gynnwys ymdaith goleuni, gweithdai creu lluserni, teithiau cerdded a rhagor.
Ym mis Ebrill 2022, ymddangosodd Goleudai yng Nghors Magwyr a Glanyrafon, Casnewydd, gyda phob golau’n cysylltu ni yng Nghymru gyda’n cyfeillion ym Mae Bengal drwy gyfrwng data llanwol byw.
Mae’r goleudai’n ymgorfforiad o ddyfodol ein glannau ac yn tynnu sylw at y cynefin a’r cymunedau sy’n bodoli yn y gofod bregus hwn rhwng glannau’r gorffennol a glannau’r dyfodol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cymunedau wedi cerdded gyda’i gilydd o’r man lle y mae ymyl y traeth ar hyn o bryd at y man lle y bydd ymyl y tir yn y dyfodol, ac wedi dogfennu, rhannu straeon, a chynnal sgyrsiau am ddyfodol y lle hwn wrth i ni geisio cydnabod ac addasu i’n glannau newidiol.
Ar Ddydd Gwener, 21 Hydref, caiff y cyhoedd eu croesawu i ymgynnull wrth Pont SDR yng Nghasnewydd i gymryd rhan mewn taith gerdded milltir o hyd dan olau llusernau ar hyd yr Afon Wysg yn dilyn y llanw uchel, cyn cwrdd yn Community House Heol Eaton am fwyd, celf a sgwrs. Ar Ddydd Sadwrn, 22 Hydref, bydd ymdaith goleuni arall yn digwydd o Gors Magwyr i’r môr fur, cyn digwyddiad cymunedol yn Sgwâr Magwyr. Bydd cyfle hefyd i weld ffilmiau wedi’u creu gan gyfranogwyr gweithdai ar Ynys Sagar ym Mae Bengal, lle teimlir yn fwy croyw effeithiau lefelau’r môr yn codi.
I baratoi ar gyfer yr ymdeithiau golau, croesewir y cyhoedd i gymryd rhan mewn gweithdai creu llusernau rhad ac am ddim ar 11 Hydref yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cors Magwyr, Gwent, neu greu eu llusernau eu hunain i ddod i’r ymdaith, wedi eu creu o ddeunyddiau’r cartref a chan ddefnyddio’r canllaw ar-lein.
Gellir dod o hyd i fanylion llawn y digwyddiadau ar wefan Llwybr Arfordir (Dyfodol) Cymru fan hyn.