Er mai dyma fis byrraf y flwyddyn, mis Chwefror oedd mis prysuraf Glan yr Afon ers ailagor ym mis Awst 2021. Roedd y gofodau theatr brysur, gydag amserlen berfformio lawn dop, ac yn sgil cyllid Gaeaf Llawn Lles, a Grantiau Cymraeg yn y Gymuned a Chymorth Ieuenctid Cyngor Dinas Casnewydd, roedd rhaglen gweithdai Glan yr Afon yn byrlymu gydag amrywiaeth o sesiynau newydd ar gyfer pob oedran drwy gydol y mis, gan gynnwys rhaglen orlawn i blant dros wyliau’r hanner tymor.

 

Sioeau

Roedd ffans cerddoriaeth glasurol wrth eu bodd ym mis Chwefror gydag adloniant gan y chwaraewr ffidil Aneurin Jones a berfformiodd yn rhan o Live Music Now yng Nghyngerdd Amser Cinio cyntaf y flwyddyn. Cludwyd cynulleidfaoedd yn ôl i oes aur y 1950au a'r 60au gyda Lipstick on Your Collar, a thalwyd teyrnged i flynyddoedd euraid y band roc Queen yn Supreme Queen. Wrth drafod Supreme Queen, dywedodd un aelod o'r gynulleidfa 'Hollol Wych!!! Teimlo fel bod Freddie yn ôl gyda ni...'

Roedd Glan yr Afon hefyd yn hynod falch o gynnal y 4edd Cystadleuaeth Adloniant Agored Cymru ym mis Chwefror, lle bu 14 o fandiau pres o Gymru a Lloegr ar y llwyfan, yn cystadlu yn yr ornest flynyddol i geisio curo'r pencampwyr Filton Concert Brass, gwledd i bawb a fydd, gobeithio, yn dychwelyd fel digwyddiad blynyddol. Band Tref Pontarddulais gyrhaeddodd y brig eleni.

I gefnogwyr comedi, perodd y clwb comedi dewch â’ch babi, Aftermirth, a’r sioe nos Wener reolaidd i oedolion, y Comedy Shed, lond bol o chwerthin.

Dros hanner tymor, ymwelodd teuluoedd o bob oed â Glan yr Afon i fwynhau Ministry of Science a Pebble on the Beach. Twriodd y Ministry of Science yn ddwfn i fyd gwyddoniaeth i addysgu a diddanu gydag amrywiaeth o arbrofion a berodd i gynulleidfaoedd synnu a rhyfeddu. Roedd Pebble on the Beach yn sioe fwy hamddenol ei naws, gyda chanu, dawnsio a phypedau fynd â chynulleidfaoedd ar daith i lan y môr. Dywedodd un aelod o'r gynulleidfa 'Rhagorol - roedd yr actorion mor fedrus yn meimio fel y byddai hyd yn oed plant ifanc iawn neu'r rhai ag ieithoedd cyntaf ar wahân i'r Saesneg wedi mwynhau.'

 

Sinema

Parhaodd Sinema Glan yr Afon i ddangos rhaglen amrywiol ym mis Chwefror eleni. Ar ddechrau'r mis dangoswyd West Side Story Steven Spielberg, ac wedyn The Matrix Resurrections. I nodi Diwrnod San Ffolant, fe wnaeth yr unig sinema yng nghanol y ddinas ddangos stori garu glasurol Baz Luhrmann Moulin Rouge gyda Nicole Kidman ac Ewan McGregor yn serennu.  Yn ystod y gwyliau hanner tymor cafodd teuluoedd gyfle i fwynhau ffilm newydd sbon Spider-Man: No Way Home  Ar ddiwedd y mis dangoswyd y ddrama gomedi dod i oed o America, Licorice Pizza.

 

Gweithdai

Ar ôl lansiad llwyddiannus ym mis Ionawr, parhaodd gweithdai newydd Glan yr Afon For Crying Out Loud Ceramics a Take a Breath Wellbeing Choir parhau i dyfu mewn niferoedd; a bu aelodau’r côr Cymraeg Canu Casnewydd yn ymarfer yn ddygn cyn eu perfformiad cyntaf ar 1 Mawrth.

Roedd cymysgedd anhygoel o weithdai o bob maeth i bobl ifanc dros yr hanner tymor; o glwb drama i wnïo, o greu posteri protest i glybiau Creu, ac ysgrifennu gyda Sonic Sing Along's. Diolch i gyllid gan Gyngor Dinas Casnewydd a'r Gaeaf Llawn Lles, roedd Glan yr Afon yn gallu cynnig llawer o'r gweithdai hyn am ddim gan roi cyfle i fwy o bobl ifanc ddod i fod yn greadigol.

Yn ogystal â'i gweithdai hanner tymor, cynhaliodd y tiwtor celf Heidi hefyd nifer o weithgareddau cyntedd am ddim Sadwrn Crefftus, sy'n rhoi cyfle i deuluoedd o bob oed greu pethau’n seiliedig ar y Ministry of Science, Pebble on the Beach a rygbi a Dydd Gŵyl Dewi.

 

Oriel Mezzanine

Agorodd arddangosfa newydd sbon gan Kate Mercer o'r enw 'Make Do & Mend yn yr Oriel Mezzanine yn ystod mis Chwefror. Yn brosiect a ddechreuodd ym mis Mawrth 2020 (yn ystod cyfnod clo cyntaf 2020), mae 'Make Do and Mend' yn gyfres o gwiltiau clytwaith sy'n archwilio syniadau o lapio, cynhesu ac amddiffyn. Yn benodol, mae'r cwiltiau clytwaith hyn yn cael eu gwneud o ffabrig cotwm wedi'i ailgylchu, wedi'i ailwampio'n rhywbeth sy'n cynhesu ac yn cysuro'r rhai y maent yn eu lapio.

Mae ffotograffau o amryw o ddarnau hyfryd Kate yn cael eu harddangos ar hyn o bryd, ac anogir y cyhoedd i gael eu hysbrydoli gan waith Kate a chyflwyno eu hymdrechion creadigol eu hunain ar y thema‘ Make Do & Mend.’ Mae rhagor o wybodaeth, a'r cyflwyniadau a gafwyd hyd, yma i'w gweld yn newportlive.co.uk/ShareTheLove.

 

Gweithgareddau Eraill

Ym mis Chwefror, cynhaliodd Glan yr Afon eu ffair deunyddiau celf gyntaf, o'r enw Crafty Clear Out. Ar y diwrnod roedd cyntedd y llawr gwaelod dan ei sang gyda stondinau wrth i artistiaid lleol ddod ag amrywiaeth o ddeunyddiau, cyflenwadau, gwlân, fframiau, paent a mwy i'w gwerthu.  Mae Glan yr Afon yn gobeithio cynnal Crafty Clear Out 4 gwaith y flwyddyn.

Dychwelodd Yn fyw yng Ngan yr Afon ym mis Chwefror gyda noson o gerddoriaeth fyw wedi'i churadu'n arbennig ar gyfer Dydd Miwsig Cymru. Roedd y digwyddiad cerddoriaeth Gymraeg am ddim yn y cyntedd yn cynnwys perfformiadau gan y ddeuawd Roughion a'r cantor a gitarydd Dafydd Hedd.

Dychwelodd prosiect Rhannu’r Cariad ar gyfer 2022, ac eleni yn ogystal â chreu a rhannu pecynnau creadigol a lles i'r rhai yn y gymuned, rhannodd Glan yr Afon y cariad o fewn yr adeilad. Drwy gydol mis Chwefror, cyflwynodd Glan yr Afon o leiaf un Weithred Garedig ar Hap bob dydd i'r rhai a ddaeth drwy’r drysau. Roedd y gweithredoedd hyn yn cynnwys rhoi coffi am ddim, cennin Pedr am ddim, llyfrau i blant, pecynnau gofal crog o deras y Caffi, a llawer mwy!

Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sydd ar ddod yng Nglan yr Afon a chewch wybod sut y gallwch gymryd rhan mewn digwyddiadau neu weithdai sydd yn yr arfaeth ar-lein yn casnewyddfyw.co.uk/Riverfront.