Neithiwr, gwnaeth Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon gyflwyno, am y tro cyntaf, eu cyd-gynhyrchiad, Bitcoin Boi, o flaen cynulleidfa lawn yn cynnwys aelodau’r cyhoedd a ffrindiau Glan yr Afon, a gafodd wahoddiad arbennig, a llawer o weithwyr proffesiynol ar draws y gymuned gelfyddydol.

Bitcoin Boi - kirstenmcternan

Cafodd y gwesteion eu cyfarch ar ôl cyrraedd gyda diodydd, bwydydd bach a phecyn croeso Bitcoin Boi cyn i Gemma Durham, Pennaeth Theatr, Celfyddydau a Diwylliant Casnewydd Fyw roi araith groeso. Llongyfarchodd Gemma grewyr y cynhyrchiad, Hannah McPake a Catherine Dyson a diolchodd i'r holl fynychwyr am eu cefnogaeth.  Mynegodd Gemma yr angerdd sydd gan y tîm yng Nglan yr Afon dros ddatblygu'r celfyddydau yng Nghasnewydd a pharhau i egluro eu rhaglen newydd, 'Reflekt', sy'n ceisio hyrwyddo a chynyddu'r nifer sy'n mynychu theatr arloesol.

Bitcoin Boi - kirstenmcternan 1

Mae Reflekt yn rhaglen newydd sydd â’r nod o guradu ystod o berfformiadau i ysbrydoli, torri tir newydd, neu herio, ac i ddenu cynulleidfaoedd celfyddydol a diwylliannol ehangach yng Nghasnewydd. Nod Glan yr Afon yw defnyddio eu rhaglen newydd i gefnogi'r byd celfyddydol yng Nghymru a darparu llwyfan i artistiaid a chwmnïau theatr. Bydd llyfryn cyntaf Reflekt ar gael ym mis Medi a bydd yn cynnwys ystod o berfformiadau gyda'r nod o annog y gynulleidfa i "Fyfyrio/Reflekt".

Bitcoin Boi - kirstenmcternan 2

Teimlai Theatr Glan yr Afon mai Bitcoin Boi oedd y cynhyrchiad perffaith i lansio eu prosiect Reflekt am lawer o resymau, ond yn bennaf gan fod y cyd-gynhyrchiad yn enghraifft berffaith o’r math o theatr y mae Reflekt am ei gefnogi: theatr arloesol wedi’i hysgrifennu, creu a pherfformio gan dalent o Gymru.

Bitcoin Boi - kirstenmcternan 3

‘Ysbrydolwyd Bitcoin Boi gan stori newyddion leol chwedlonol am golli ffortiwn drwy ddamwain. Roeddem am wneud darn am y cwestiynau a godwyd gan y stori hon. Wrth ddatblygu'r sioe, buom yn siarad ag arbenigwyr ym meysydd cryptoarian, cyllid ac yswiriant. Aethon ni i lawer o lefydd rhyfedd ac annisgwyl - y rhuthr aur, llongau môr-ladron, ac iwtopias crypto sinistr yn eu plith. Sylweddolon ni pa mor anghyflawn yw ein dealltwriaeth o'r systemau ariannol sy'n siapio ein bywydau i gyd. Daliwyd ein diddordeb gan bobl yn cynnig ffyrdd amgen, gan ba mor gyflym y gall delfrydau gael eu llygru, a sut y manteisir ar anghydraddoldeb a'n hawydd am fywyd gwell i'n rhannu. Gobeithiwn y bydd Bitcoin Boi yn gwneud i chi ystyried rhai cwestiynau eich hun: Beth ydyn ni'n ei werthfawrogi? Beth ddylen ni ei daflu i ffwrdd? Ac ydy popeth yn swnio'n well mewn iaith Môr-ladron? Mwynhewch y sioe!' Catherine Dyson a Hannah McPake, crewyr Bitcoin Boi

Bitcoin Boi - kirstenmcternan 4

"Rydw i mor falch o'r gwaith y mae'r tîm yma yng Nglan yr Afon wedi ei gynhyrchu gyda Catherine, Hannah, Dyfan a gweddill tîm Bitcoin Boi. Mae pawb wedi gweithio'n eithriadol o galed a dwi'n meddwl ei bod hi'n deg dweud bod hynny’n amlwg. Mae'n ddarn rhyfeddol o theatr ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu bod yn rhan ohono. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn y sioe ond hefyd i bawb sydd wedi dod i'n cefnogi. Edrychwn ymlaen at gyflwyno rhagor o berfformiadau a gwaith anhygoel fel rhan o'n rhaglen 'Reflekt'. Fel tîm, ein nod yw parhau â'n gwaith i adeiladu perthnasoedd, cefnogi artistiaid a datblygu'r celfyddydau yng Nghasnewydd a Chymru.' Gemma Durham, Pennaeth Theatr, Celfyddydau a Diwylliant Casnewydd Fyw.

Bydd Bitcoin Boi yn cael ei berfformio yng Nglan yr Afon ddydd Gwener 28 am 7.30pm a dydd Sadwrn 29 am 2.30pm a 7.30pm.