YMUNWCH AG URBAN CIRCLE, LITTLE PEOPLE UK A GLAN YR AFON AM DDIWRNOD O HWYL CYMUNEDOL NADOLIGAIDD DDYDD SADWRN 18 RHAGFYR
Dewch draw i Lan yr Afon i fwynhau detholiad o stondinau, amrywiaeth o berfformiadau a chrefftau teuluol hyfryd.
Bydd bwrdd gweithgareddau yn cael ei redeg gan Urban Circle, a chewch gyfle i greu llusern Nadoligaidd gyda Naz o Art Clwb. Gwnewch lusern hudolus ac ychwanegwch eich dymuniad Nadolig, rhywbeth i ddisgleirio'ch diwrnod neu ei roi fel anrheg i rywun arbennig.
Cynhelir y diwrnod hwyl nadoligaidd hwn mewn partneriaeth rhwng Glan yr Afon, Urban Circle a Little People UK.
Mae croeso i bob oedran yn y digwyddiad AM DDIM hwn.