Ar ôl pencampwriaeth lwyddiannus yn 2019 ac yn dilyn hoe yn y calendr rasio oherwydd pandemig Covid-19, bydd Casnewydd unwaith eto yn cynnal Pencampwriaethau Beicio Trac Ieuenctid ac Iau Prydain yn Felodrom Cenedlaethol Cymru.

Yn ddigwyddiad allweddol yn y calendr seiclo trac, bydd y Pencampwriaethau yn cyflwyno’r raswyr gorau o bob cwr o'r wlad yn cystadlu i ennill y statws Pencampwr Cenedlaethol. Dyma sêr Tîm Prydain Fawr y dyfodol ac mae'n ddigon posib y bydd rhai ohonynt yn mynd ymlaen i gystadlu mewn rasys fel y Tour de France, Gemau'r Gymanwlad a Gemau Olympaidd rhyw ddydd!

Mae'r Pencampwriaethau yn cael eu cynnal o'r 8fed i'r 12fed o Awst yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd. Gwahoddir y cyhoedd i’r Pencampwriaethau i annog y talentau ar y trac. Pris y tocynnau yw £5 am bàs diwrnod, neu gellir prynu pasys wythnosol am £15 y pen oddi ar wefan Casnewydd Fyw.

Dywedodd Steve Miller, Rheolwr Beicio Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas  "Mae'n wych gallu cynnal a threfnu Pencampwriaethau Trac Ieuenctid ac Iau 2022 eto ar ôl cynnal y digwyddiad yn rhwng 2017 a 2019. Mae'r Pencampwriaethau hyn yn mynd i fod yn gyfle gwych i arddangos beth sydd gan ddyfodol y gamp i'w gynnig a gweld dyfodol Beicio Prydain yn cystadlu benben ar ein trac i sicrhau’r Jersi Genedlaethol. Nid yw lefel y rasio yn y digwyddiad hwn erioed wedi ein siomi ac rwy'n siŵr gyda'r cystadleuwyr sy’n cymryd rhan a fyddwch yn cael eich siomi eleni chwaith."

Yn y  Pencampwriaethau Trac Ieuenctid ac Iau mae pobl fel Syr Bradley Wiggins, Jason Kenny a Laura Kenny wedi dod i’r brig yn y gorffennol. Mae’r enillwyr o Gymru hefyd wedi cynnwys Eleanor Barker, Geraint Thomas, Becky James ac Owain Doull.

Mae Casnewydd Fyw yn ymddiriedolaeth elusennol gofrestredig ddielw, sy’n golygu bod yr arian y mae'n ei wneud yn cael ei fuddsoddi i gyd yn y gwasanaethau a'r cyfleusterau y mae'n eu cynnig - felly gall holl gwsmeriaid Casnewydd Fyw helpu'r gymuned leol drwy gyflawni'r projectau a'r gweithgareddau hyn.

I gael rhagor o wybodaeth am Bencampwriaethau Trac Ieuenctid ac Iau  2022, ewch i newportlive.co.uk neu facebook.com/GeraintThomasNationalVelodromeofWales a @WalesVelodrome ar Twitter.