Mae Bywydau Pobl Dduon yn Bwysig 

Nid yw Casnewydd Fyw yn goddef rhagfarn ar sail hil ac rydym yn sefyll yn gadarn gydag ymgyrch #blacklivesmatter a’r rhai sy’n brwydro yn erbyn anghydraddoldeb.

Rydym yn cynnal projectau chwaraeon a chelfyddydol â’r bwriad o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac yn gweithio i gefnogi’r cymunedau amrywiol ledled ein dinas. Mae gennym gyfrifoldeb i’r gymuned ac rydym yn gwrando er mwyn gwneud newidiadau ystyrlon.

Os oes gennych chi unrhyw adborth neu sylwadau yr hoffech eu rhannu am ein gwasanaethau neu gyfleusterau, rydym yn gwrando ac yn eu croesawu yn enquiries@newportlive.co.uk

Newport Live's Black Lives Matter Statement