Mae Celf ar y Bryn yn ŵyl penwythnos sy’n dathlu cymuned greadigol Casnewydd a’i gwaith. Eleni, mae’r digwyddiad yn rhedeg o ddydd Gwener 25 tan ddydd Sul 27 Tachwedd ac mae’n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau creadigol ar draws y ddinas.
Mae'r farchnad gwneuthurwyr Celf ar y Bryn yn dod â chrefftwyr, gwneuthurwyr, artistiaid a busnesau annibynnol at ei gilydd i greu marchnad gymunedol wych, leol. Nod y farchnad yw cefnogi gwneuthurwyr a busnesau lleol drwy hyrwyddo eu gwaith, cynyddu ymwybyddiaeth a hybu eu cyrhaeddiad.
Mae croeso i unrhyw un fod yn rhan o'r digwyddiad, siopa'n lleol a chefnogi'r gymuned. Gyda dewis eang o stondinau, mae'r Farchnad Gwneuthurwyr yn ddiwrnod allan delfrydol - dewch am dro, sbwylio’ch hun neu ddod o hyd i'r anrhegion Nadolig perffaith i anwyliaid!
Felly dewch draw i fod yn rhan o'r hwyl greadigol, mae'r farchnad yn agor am 12pm ac yn cau am 4pm. Bydd y stondinau yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon
Os ydych yn wneuthurwr, arlunydd neu fusnes lleol â diddordeb mewn archebu stondin, e-bostiwch alyson.perry@newportlive.co.uk.