Mae Ebrill wedi bod yn fis prysur yng Nglan yr Afon. Yn ogystal â’r sioeau ar ein prif lwyfan a chroesawu miloedd o bobl trwy'r drysau dros gyfnod y Pasg, rydym wedi bod yn cynllunio a threfnu llawer o brosiectau newydd yn ogystal â'r hen ffefrynnau sydd i ddod.
Sioeau
Gan barhau â'n hymrwymiad i dyfu a datblygu'r celfyddydau yng Nghasnewydd, ein nod yw trefnu amrywiaeth o genres a mathau o berfformiadau. Ar ddechrau Ebrill, perfformiwyd The Rest of Our Lives gan Jo Fong a George Orange yng Nglan yr Afon. Roedd y sioe yn ddrama wych am ddau fywyd canol oed oedd yn dirywio’n eclectig, yn ddirybudd, yn ddisgwyliadwy ac ar hap. Roedd y perfformiad hwn yn hynod boblogaidd ac wedi gwerthu allan.
Fis yma, cafwyd llawer o gomedi yn ein Prif Theatr a'n Stiwdio. Daeth Jayde Adams, Tom Houghton, Late Night Natterbox gan Dragma, Ceri Dupree a'n nosweithiau Sied Gomedi â channoedd o bobl trwy’r drysau a chawson nhw ddim eu siomi.
Yn y stiwdio, perfformiodd Mackenzie Steed ei gwaith ar y gweill 'That’s My Win!', gafodd ei ddangos yn wreiddiol yn un o'n digwyddiadau Cultivate y llynedd. Roeddem yn falch iawn o weld Mackenzie’n ehangu ei gwaith datblygu. Mae Cultivate yn rhoi cyfle i artistiaid berfformio eu gwaith ar y gweill i gynulleidfa sy'n barod i roi adborth. Ers hynny mae Mackenzie wedi cael cyllid i barhau â'r cam datblygu nesaf a fis yma gwelsom gamau nesaf y perfformiad wrth iddi rannu. Cafodd y perfformiad groeso mawr gan y gynulleidfa ac edrychwn ymlaen at groesawu'r cynnyrch terfynol.
Os hoffech weld mwy o artistiaid newydd yn rhannu eu gwaith, gallwch ddod i Cultivate yr haf ym mis Mai. Mae tocynnau ar gael ar ein gwefan nawr: Casnewydd Fyw | Digwyddiadau
Gwyliau’r Pasg
Fel arfer, rydym yn sicrhau bod gennym raglen yn llawn gweithgareddau yn ystod gwyliau'r ysgol. Dros y Pasg roeddem yn llawn cyffro wrth lansio How To Defeat Monsters (and get away with it). Cyd-gynhyrchiad Flossy a Boo a Theatr Glan yr Afon oedd hwn. Roedd y cynhyrchiad yn brofiad theatr rhyngweithiol, ymdrochol i blant o bob oed ymchwilio a dod o hyd i'r angenfilod cyn i'r bobl ddrwg wneud hynny.
Cafodd yr adeilad ei addurno o'r top i'r gwaelod gyda sticeri angenfilod, roedd straeon am eu gweithgareddau rhyfedd ym mhob twll a chornel o Gasnewydd ac roedd pawb mewn hwyliau chwilio am angenfilod. Ar 1 Ebrill dechreuwyd croesawu'r holl Helwyr Angenfilod dewr a wynebodd yr her. Roedd y cynhyrchiad yn llwyddiant ysgubol, ac roeddem wrth ein boddau yn gweld cymaint o wynebau hapus yn yr adeilad.
Ymunodd Hatch â'r Helwyr Angenfilod hefyd, sef ein grŵp theatr ieuenctid a ddyfeisiodd eu cynlluniau angenfilod eu hunain a rhannu eu perfformiad â chynulleidfa fach breifat. Mae Hatch yn grŵp theatr ieuenctid wythnosol sy'n cael ei redeg gan Tin Shed Theatre Co, mewn Partneriaeth â Glan yr Afon. Yn ystod y sesiynau mae’r plant a'r bobl ifanc yn cael cyfle i ymchwilio ac archwilio sgiliau ym mhob elfen o greu. Mae tri dosbarth i ddarparu ar gyfer grwpiau oedran gwahanol.
Rydym hefyd wedi cynnal nifer o ddosbarthiadau a gweithdai yn cynnwys Tots Disco ac Oh! Clwb Gwnïo Susannah, y ddau bob amser yn llwyddiant ysgubol!
I ganfod mwy am ein gweithdai, ewch i: Gweithdai a Dosbarthiadau | Cymerwch ran yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon (newportlive.co.uk)
Ar draws rhaglenni eraill, mae ymarferion ar gyfer ein prosiect Playhouse wedi dechrau a bydd yn parhau dros y misoedd nesaf tan y perfformiadau ym mis Gorffennaf. Arweinir y prosiect hwn gan Theatr Iolo a'i gefnogi gan ein tîm datblygu cymunedol. Comisiynir dramodwyr proffesiynol bob blwyddyn i ysgrifennu dramâu byrion yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer castiau mawr o blant ysgol. Nod y prosiect yw rhoi cyfle gwych i bobl ifanc gael profiad o theatr fyw. Bydd tocynnau ar gyfer y perfformiadau terfynol ar gael yn fuan i deuluoedd y perfformwyr, ysgolion eraill a allai fod â diddordeb yn y prosiect a'r cyhoedd.
Ar ddechrau'r mis, croesawyd arddangosfa Connor's Creations i'n horiel mesanîn. Mae Connor yn 14 oed gydag awtistiaeth ddwys. Daw ei holl waith celf o’i gof ac mae wedi cael ei arddangos mewn lleoliadau amrywiol yn Ne Cymru. Dim ond y llynedd y dechreuodd ei angerdd tuag at dynnu lluniau a chyn hynny, nid oedd yn gallu dal pin ysgrifennu’n iawn. Bydd arddangosfa Connor yng Nglan yr Afon tan 9 Mehefin 2023.
Ar 15 Ebrill, dathlwyd Diwrnod Syrcas y Byd gyda Circus of Positivity, a gynhaliodd weithdai sgiliau syrcas am ddim trwy gydol y dydd. Roedd yr holl sesiynau wedi gwerthu allan ac fe wnaeth pawb a fynychodd fwynhau'n fawr.
I ddod
Mae Tymor yr Haf bellach wedi dechrau ac mae ein rhaglen newydd ar y gweill. Mae gennym haf yn llawn gweithgareddau wedi'i gynllunio gyda mwy o gerddoriaeth fyw, comedi a sioeau i’r teulu. Mae’r paratoadau ar y gweill ar gyfer agor ein prosiect newydd, Reflekt, yn ein theatr stiwdio, ein cyd-gynhyrchiad newydd, Bitcoin Boi a gweithgareddau hanner tymor mis Mai.