Active Tots

Diolch i arian gan Gyngor Dinas Casnewydd drwy gronfa Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru gwerth £5 miliwn, roedd Casnewydd Fyw yn gallu cynnig gweithgareddau a rhaglenni am ddim ar draws chwaraeon, hamdden, theatr, celfyddydau, a diwylliant yn ystod haf eleni ac i mewn i'r Hydref.

Cynhaliwyd nifer o'r gweithgareddau am ddim rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2022 yn amrywio o ddydd Sadwrn crefftus i wersi nofio dwys i blant rhwng 0 a 16 oed a'u teuluoedd.  Un o'r gweithgareddau rhad ac am ddim oedd sesiwn 'galw heibio chwarae meddal' Twdlod Actif i blant 0-5 oed. Roedd y sesiynau Twdlod Actif am ddim yn cynnig chwarae meddal, gemau, chwarae synhwyraidd a chastell bownsio a oedd yn caniatáu i blant ymarfer dringo, cropian, cydbwyso, hopio, sgipio, taflu a dal mewn amgylchedd hwyliog a diogel.

Dywedodd Kerry Griffiths, Rheolwr Perfformiad a Strategaeth Newport Live "Cadw plant ifanc yn hapus ac iach yw nod y sesiynau Twdlod Actif. Gyda chostau byw cynyddol a gyda chyfleusterau tebyg yn cau yng nghanol y ddinas yn ystod y misoedd diwethaf mae teuluoedd wir wedi gwerthfawrogi'r cyfle i'w rhai bach fynychu sesiynau Twdlod Actif am ddim yr Haf hwn. Mae'r sesiynau wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddarparu gweithgareddau fforddiadwy i rieni gyda phlant oed cyn ysgol dros y misoedd nesaf."

Mae sesiynau Twdlod Actif yn dychwelyd i sesiynau â thâl o fis Hydref ymlaen ac yn costio £3.70 y plentyn. Bydd sesiynau'n cael eu cynnal ar ddydd Llun a dydd Gwener rhwng 9:45am a 2pm yng Nghanolfan Casnewydd, a bydd modd eu harchebu drwy app a gwefan Casnewydd Fyw. newportlive.co.uk/GweithgareddauPlantBach, o dderbynfa unrhyw ganolfan hamdden Casnewydd Fyw neu gan ffonio 01633 656757.

Ar ddydd Llun 31 Hydref rydym yn cynnal sesiwn arbennig Calan Gaeaf un tro yn lle ein sesiynau Twdlod Actif arferol. Anogir gwisg ffansi a bydd digon o gemau hwyliog a lluniaeth ar gael a bydd pob plentyn yn derbyn anrheg i fynd adref. Bydd partïon Calan Gaeaf Twdlod Actif yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Casnewydd ar y 31 Hydref am 9:45-11am, 11:15am-12:30pm a 12:45-2pm. Yn addas i blant 6 wythnos i 5 oed gyda chost o £4.75 y plentyn, cynghorir archebu o flaen llaw drwy app a gwefan Casnewydd Fyw ar newportlive.co.uk/GweithgareddauGwyliau, o dderbynfa unrhyw ganolfan hamdden Casnewydd Fyw neu drwy ffonio 01633 656757.

Mae Casnewydd Fyw yn sefydliad elusennol, sy’n golygu bod yr holl arian y mae'n ei wneud yn cael ei fuddsoddi yn y gwasanaethau a'r cyfleusterau y mae'n eu cynnig - felly gall holl gwsmeriaid Casnewydd Fyw helpu'r gymuned leol trwy ymgymryd â’r prosiectau a'r gweithgareddau hyn. 

I gael gwybod rhagor o wybodaeth am weithgareddau Twdlod Casnewydd Fyw, ewch i newportlive.co.uk/GweithgareddauPlantBach neu edrychwch ar @NewportLiveUK ar gyfryngau cymdeithasol am y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf.