CYNORTHWYYDD HAMDDEN ACHLYSUROL
Gradd 2 PCG 11 – 14 / £15,514 - £16,558 pro rata
Mae Casnewydd Fyw yn ymddiriedolaeth arobryn nid er elw sy’n ymwneud â chwaraeon, hamdden a diwylliant; ac yn Elusen gofrestredig y DU sydd â hanes ardderchog o ddarparu rhaglenni a gwasanaethau arloesol i'n cymunedau a’n trigolion sy'n 'ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac yn iachach'.
Rydym yn dymuno recriwtio unigolyn sydd â Chymhwyster Achub Bywyd Cenedlaethol addas ar gyfer swydd Cynorthwyydd Hamdden i weithio ochr yn ochr â'n tîm presennol.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd sy'n cwmpasu'r ddau safle yn y Ganolfan Tenis a Nofio a Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas a bydd yn helpu i sicrhau bod pawb sy’n ymweld â lleoliadau Casnewydd Fyw yn cael profiad o amgylchedd croesawgar a diogel sy'n addas at y diben, gan arwain at y mwynhad mwyaf posibl ac awydd i ddychwelyd i leoliadau.
Mae’r swydd wedi’i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) ac mae’n amodol ar wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) llwyddiannus.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch ag ymholiadau Casnewydd Fyw ar 01633 656757 a gofynnwch am gael siarad â Carl Williams, Rheolwr Cyffredinol, neu e-bostiwch carl.williams@newportlive.co.uk.
Mae manylion ymgeisio ar gael yn Gymraeg ar gais.
Y Broses Ymgeisio
Gallwch lawrlwytho ffurflen gais a disgrifiad swydd isod neu fel arall, maent ar gael trwy wneud cais mewn e-bost i jobs@newportlive.co.uk
Dychwelwch y ffurflenni cais wedi ei cwblhau i jobs@newportlive.co.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul 13 Mehefin 2021
Cynhelir cyfweliadau r y safle yn ystod yr wythnos yn cychwyn: Dydd Llun 21 Mehefin 2021
*Bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn prawf yn y pwll