Mentor Dysgu Rhan Amser

Gradd 3 - SCP 15-17 pro rata 

 (£17,553 - £18,401)

35 awr yr wythnos am 42 wythnos y flwyddyn 

 

Mae Casnewydd Fyw yn ymddiriedolaeth arobryn nid er elw sy’n ymwneud â chwaraeon, hamdden a diwylliant; ac yn Elusen gofrestredig y DU sydd â hanes ardderchog o ddarparu rhaglenni ymgysylltu arloesol a darparu gwasanaethau i'n cymunedau sy'n 'ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac yn iachach'.

O fewn Tîm Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol uchel ei barch Casnewydd Fyw, rydym yn ceisio recriwtio ymgeiswyr eithriadol i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen Addysg Amgen yn weithredol, datblygu perthynas waith gyda phobl ifanc a chefnogi anghenion addysgol, cymdeithasol ac emosiynol disgyblion sydd wedi’u hatgyfeirio. 

Bydd croeso i blant a phobl ifanc sy'n cael eu hatgyfeirio, byddant yn ddiogel, yn cael eu cefnogi a'u hannog gan y tîm Addysg Amgen, gydag arweinyddiaeth ragorol yn cael ei darparu bob amser.  Bydd ffocws allweddol ar wella presenoldeb addysgol a lefelau cyrhaeddiad addysgol, yn ogystal â datblygu a gwella’n bersonol iechyd a lles corfforol ac emosiynol plant a phobl ifanc. Wrth wraidd ein hymgysylltiad fel tîm bydd defnyddio offer datblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel bachyn i ymgysylltu ac ysbrydoli. 

Rydym yn chwilio am rywun sydd yn drefnus a brwdfrydig iawn, sy'n angerddol am wella bywydau plant a phobl ifanc, gyda chefndir mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol, Addysg Amgen neu Addysg gyda dealltwriaeth a phrofiad da o weithio mewn rhaglenni fel ein rhai ni.

Mae'r rôl yn gofyn am lefel uchel o ddealltwriaeth o sut i gefnogi anghenion plant a phobl ifanc sydd wedi ymddieithrio, strategaethau ymddygiad a diogelu.  Yn ogystal â datblygu amgylchedd dysgu a mentora diddorol i bawb sy'n cymryd rhan.  

Os ydych yn weithiwr proffesiynol iawn, blaengar, yn gallu gweithio'n gyflym o fewn tîm a sefydliad uchelgeisiol – yna mae'n ddigon posibl mai chi yw'r hyn rydym yn chwilio amdano a byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych!  Mae hwn yn gyfle perffaith i ddatblygu a thyfu ymhellach o fewn rhaglen sydd eisoes yn uchel ei pharch. 

Byddai'n ofynnol i chi weithio 35 awr yr wythnos gyda rhywfaint o hyblygrwydd, yn ystod y dydd yn bennaf gyda rhywfaint o waith gyda'r nos ac ar benwythnosau lle bo angen; a byddech wedi'ch lleoli yn un o'n cyfleusterau Casnewydd Fyw gyda'r tîm ehangach, gan reoli rhaglenni ar draws Dinas Casnewydd. Mae'r swydd yn un cyfnod penodol tan 31ain Gorffennaf 2021.

Mae’r swydd wedi’i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) ac mae’n amodol ar wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) llwyddiannus.

I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch ag ymholiadau Casnewydd Fyw ar 01633 656757 a gofynnwch am gael siarad â Richard Dale, Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol neu e-bostiwch richard.dale@newportlive.co.uk.

Proses Ymgeisio

Gallwch lawrlwytho ffurflen gais a disgrifiad swydd o wefan Casnewydd FYW www.casnewyddfyw.co.uk neu fel arall, maent ar gael trwy wneud cais mewn e-bost i jobs@newportlive.co.uk.

Dychwelwch y ffurflenni cais cyflawn i jobs@newportlive.co.uk.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher 22 Ionawr 2021                     

Cynhelir cyfweliadau ar: 29 Ionawr 2021

 

Disgrifiad Swydd

APPLICATION FORM