Ers 2010 mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon wedi dod â gŵyl y Sblash Mawr i strydoedd Casnewydd. Mae'r digwyddiad penwythnos o hyd yn dod â pherfformwyr stryd, cerddoriaeth fyw, celf a chrefft ynghyd, a chymaint mwy o adloniant rhyfeddol.
Eleni, dychwelodd yr ŵyl ddydd Sadwrn 22 a dydd Sul 23 Gorffennaf am benwythnos arall o wallgofrwydd hudolus ac mae'n deg dweud, roedd yn llwyddiant ysgubol.
Er gwaetha'r glaw di-baid ar y dydd Sadwrn a orfododd rhai digwyddiadau i symud, ni chanslwyd yr un o'r gweithgareddau a drefnwyd; parhaodd yr ŵyl fel y cynlluniwyd ac roedd pawb mewn hwyliau da. Mae tîm Glan yr Afon wedi diolch yn fawr iawn i noddwyr yr ŵyl, Friars Walk, am letya'r ŵyl o dan ganopi'r ganolfan siopa, lle ymgasglodd artistiaid ac ymwelwyr o flaen adeilad Debenhams i fwynhau, tra’n aros yn gynnes a sych.
Fe wnaeth The Place, sy'n cael ei redeg gan Tinshed Theatre Company, hefyd achub y dydd trwy gynnig eu safle i Defying Gravity Academy a fu'n perfformio drwy'r dydd yn eu hystafell ddigwyddiadau. Perfformiodd y dawnswyr ifanc hyn ag angerdd i gynulleidfa enfawr a oedd, yn llythrennol, yn byrstio allan o’r drysau. Rhaid sôn yn arbennig am eu gwisgoedd disglair - roedden nhw’n hyfryd, ac roedd yr amrywiaeth a nifer y newidiadau yn drawiadol!
Daeth Bws Balchder Casnewydd hefyd yn llwyfan i lawer o'r actau a gafodd eu bwcio i berfformio tu allan ar Lan yr Afon ar Lwyfan y Teras. Fel mae’n digwydd, mae bws yn lleoliad clyd perffaith i wrando ar alawon a chyd-ganu!
Er i lawer o'r gweithgareddau gael eu symud, fe frwydrodd rhai perfformwyr yn erbyn yr elfennau a pherfformio yn y glaw. Roedd Helo Buoys gan Kitsch & Sync â'u trefniant morwyn ddi-ddingi, a welwyd hefyd gan filoedd ar Facebook, a Gary and Pel yn cynnig reidiau mewn pedalo Alarch 7-troedfedd yn ddwy act a oedd yn gwbl addas i’r tywydd gwlyb.
Cliciwch yma i wylio'r fideo: https://fb.watch/m1TXW-3s0j/
Pan ddaeth dydd Sul, roedd yr awyr yn las i groesawu diwrnod newydd o adloniant. Roedd yr haul yn gwenu, felly gallai'r rhaglen fynd yn ei blaen fel y cynlluniwyd ac roedd yr actau ar grwydr o amgylch strydoedd y ddinas, yn diddanu pawb. Yn gwneud llawer o sŵn ac yn denu llawer iawn o sylw roedd y band pres Wonderbrass. Gyda chymysgedd o jazz, pop, ffync a hwyl, daeth y ffrwydrad hwn o sain â strydoedd Casnewydd yn fyw.
I lawr ger glan yr afon, wrth ymyl cerflun y don goch, roedd y Llwyfan Dathlu a oedd yn croesawu cerddorion lleol, grwpiau dawns i blant, corau lleol a llawer mwy. Roedd y llwyfan hwn yn amlygu'r dalent syfrdanol sydd gan Gasnewydd ac yn dathlu'r gymuned gelfyddydol leol. Yn croesawu pawb i'r llwyfan a diddanu'r gynulleidfa rhwng y perfformwyr roedd yr artist lleol a’r cyflwynydd am y penwythnos, Mackenzie Steed. Mae Mackenzie yn wyneb cyfarwydd yn Theatr Glan yr Afon - dechreuodd fel aelod o'r Cwmni Ifanc ar gyfer un o'u pantomeimiau blynyddol cyn symud i ddatblygu ei gwaith ei hun trwy’r rhaglen Meithrin. Rhoddodd Mackenzie wên ar wyneb pawb drwy gydol y penwythnos!
Mae'n deg dweud, daeth y penwythnos â gwên i filoedd o wynebau. O driciau hud a pherfformwyr syrcas i straeon a cherddoriaeth fyw, heb anghofio’r gliter - allai pobl o bob oed ddim peidio â chael eu tynnu i mewn i’r awyrgylch ewfforig.
Yn ogystal â'r llawenydd pur y mae'r ŵyl yn ei gynnig i unigolion, mae hefyd yn bwysig cofio'r effaith gadarnhaol y mae'n ei chael ar ddinas Casnewydd gyfan. Mae’r Sblash Mawr nid yn unig yn dod â miloedd o ymwelwyr i ganol y ddinas, mae'n arddangos dyfnder y dalent greadigol ledled y ddinas, yn cefnogi artistiaid lleol ac yn cynnig cyfleoedd a gweithgareddau creadigol am ddim i'r gymuned leol.
Dywedodd Gemma Durham, Pennaeth Theatr, Celfyddydau a Diwylliant Casnewydd Fyw, 'Rydym yn hynod falch o'r ŵyl flynyddol yr ydym wedi'i chreu. Mae gweld y wynebau hapus yn y torfeydd a theimlo'r cyffro yn ein hatgoffa ni i gyd pam rydyn ni'n gweithio mor galed i sicrhau bod yr ŵyl yn dychwelyd bob blwyddyn. Ni fyddai’r Sblash Mawr yn bosibl heb waith caled tîm Glan yr Afon, gwirfoddolwyr, y gymuned leol a'r gefnogaeth gan noddwyr ein digwyddiadau a'n partneriaid. Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran a phawb a ddaeth draw."
Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn gallu cynnig digwyddiad mor ysblennydd i'r gymuned leol am ddim. Maent yn hynod ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru, Bws Casnewydd, Friars Walk, AGB Casnewydd ac Arts & Business Cymru sydd i gyd wedi gwneud yr ŵyl yn bosib; ac i Gyngor Dinas Casnewydd, Gwesty'r Mercure, pob gwirfoddolwr a phartner, Le Pub a Tinshed Theatre Co. am eu cefnogaeth barhaus.
Os aethoch chi i’r Sblash Mawr eleni, byddai tîm Glan yr Afon wrth eu bodd yn clywed eich barn. Dyma'r ddolen i'w harolwg adborth ar yr ŵyl - mae ond yn cymryd 5 munud.