Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw yn annog plant i gadw’n heini yn yr awyr agored yn ystod hanner tymor mis Chwefror gyda chyfres o Deithiau Cerdded mewn Welis

Lansiodd Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw Deithiau Cerdded mewn Welis yn ystod gwyliau hanner tymor mis Chwefror, gweithgarwch cynhwysol llawn am ddim ar gyfer plant 3-5 oed a’u teuluoedd a oedd yn defnyddio parciau a mannau gwyrdd yng Nghasnewydd a’r cyffiniau i annog plant i gadw’n heini yn ystod gwyliau’r ysgol. 

Cymerodd dros 30 o blant a'u rhieni ran yn y Teithiau Cerdded mewn Welis ym Mharc Beechwood ac Amffitheatr Rufeinig Caerllion yn ystod gwyliau hanner tymor mis Chwefror. Roedd y sesiynau'n cynnwys taith gerdded anifeiliaid 5-10 munud o amgylch y parc ac yna gemau chwaraeon a gweithgareddau corfforol wedi’u dylunio i helpu i ddatblygu sgiliau symud sylfaenol plant. Rhoddwyd pecyn gweithgareddau am ddim i bob plentyn a ddaeth i un o'r teithiau cerdded i fynd ag ef adref sy’n annog teuluoedd i gadw’n heini gyda'i gilydd.

Dywedodd Brittany Cloke, Swyddog Datblygu Chwaraeon Cymunedol a Gweithgareddau Corfforol yng Nghasnewydd Fyw, "Yn ddiweddar cwblhaodd Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw gyrsiau hyfforddi Lefel 3 a 4 SKIP-Cymru am sut i gefnogi sgiliau corfforol plant yn well. Crëwyd a lansiwyd y Teithiau Cerdded mewn Welis ar sail dysgu a chanfyddiadau'r tîm o'r cwrs, yn enwedig yr angen i blant ifanc gael eu dysgu sut i symud yn dda yn gynnar yn eu datblygiad gan y bydd hynny’n sylfaen iddynt fod yn fwy actif yn gorfforol trwy gydol eu hoes a fydd yn cael budd cadarnhaol ar eu hiechyd meddwl a chorfforol. Mae'r fenter wedi bod yn llwyddiant mawr ac rydym wrthi'n cynllunio cyfres o Deithiau Cerdded mewn Welis i'w cynnal yn ystod gwyliau'r Pasg."

Roedd teuluoedd a aeth ar Deithiau Cerdded mewn Welis mis Chwefror yn llawn clod ar gyfer y gweithgarwch am ddim a oedd ar gynnig a’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Dîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw i annog plant ieuengaf Casnewydd i fod yn fwy actif yn gorfforol.

Dywedodd un rhiant yr aeth ei phlentyn ar un o'r Teithiau Cerdded mewn Welis, "Maen nhw'n weithgareddau ardderchog oedd yn ein hannog ni fel teulu i fynd allan o'r tŷ er gwaetha'r tywydd a gwneud rhywbeth actif yn gorfforol. Bonws oedd y pecyn gweithgareddau. Byddwn yn sicr yn cadw llygad am weithgareddau tebyg yn y dyfodol!"

Mae Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw yn darparu cyfleoedd chwaraeon, iechyd a lles, cynhwysiant a chyfleoedd cyfranogiad ieuenctid Dyfodol Cadarnhaol i blant, teuluoedd, ysgolion, cymunedau, clybiau chwaraeon a grwpiau lleol ledled Casnewydd.  Maent yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth mewn cymunedau lleol ac i gael mwy o bobl i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol bob dydd wrth gefnogi lles meddyliol.  Mae'r tîm yn uchel eu parch ymhlith partneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac yn parhau i ddefnyddio chwaraeon fel offeryn i ymgysylltu ac ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac yn iachach.

Gan fod Casnewydd Fyw yn sefydliad elusennol, mae ei holl gwsmeriaid a'i aelodau yn helpu i gefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau a gweithgareddau cymunedol ledled Casnewydd. 

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau Teithiau Cerdded mewn Welis, ffoniwch 01633 656757 neu e-bostiwch brittany.cloke@newportlive.co.uk