Efallai y bydd llawer o bobl yn gwybod bod Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas wedi cynnal Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol Prydain hynod lwyddiannus 2022 ym mis Awst.
Mae Theatr Glan yr Afon yn parhau â'r thema feicio ac yn falch o groesawu eiconau beicio: sylwebydd Tour De France ITV, Ned Boulting, a'r beiciwr pellter hir, Mark Beaumont, sydd wedi torri sawl record.
Mae Ned Boulting yn newyddiadurwr a chyflwynydd teledu chwaraeon Prydeinig sy'n fwyaf adnabyddus am ei sylwebaeth ar gyfer pêl-droed, beicio a dartiau. Ar ôl blwyddyn i ffwrdd o'r rheng flaen, mae sylwebydd Tour de France ITV, Ned Boulting, yn dychwelyd gyda disgrifiadau bywiog newydd i wefreiddio cefnogwyr beicio.
Mae "Retour de Ned" yn fap ffordd theatraidd anhepgor i unrhyw un sy'n breuddwydio am wisgo'r jersi felen ar y Champs Elysées: canllaw i'r tactegau (pedalu’n gyflymach) a’r heriau (ddim yn pedalu'n ddigon cyflym) y bydd angen eu defnyddio i ennill ras feicio fwyaf y byd. Ar hyd y ffordd, bydd amser i gofio am raswyr gorau’r oes, a’u dynwared yn anobeithiol o wael. Bydd cyfle i ddathlu popeth sy'n Ffrengig am Ffrainc, a phopeth sy'n Tour-aidd am y Tour: pethau fel anwybyddu cadeirlannau'r 12fed ganrif, piso ar ochr y ffordd, gwthio gwylwyr drosodd, pwno protestwyr ac ymddwyn fel hwligan â choesau wedi’u heillio am fis wrth feicio dros gadwyni mynydd cyfan.
Bydd cynulleidfaoedd yn profi taith drwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau mis mwyaf gwirion a mwyaf mawreddog y flwyddyn, wrth i Ned rannu ei gyngor helaeth gwbl annibynadwy ar sut i ennill y Tour de France. Neu os nad hynny, yna o leiaf Sut i'w Wylio ar y Teledu.
Mae 'Retour de Ned' Ned Boulting yn cyrraedd Theatr Glan yr Afon nos Fercher 12 Hydref am 7:30pm. Gellir archebu tocynnau trwy ffonio 01633 656757 a thrwy’r wefan: Newport Live | Events.

Yr ail feiciwr enwog sy'n dod i Gasnewydd i ddweud y cyfan yw Mark Beaumont BEM. Ar hyn o bryd mae Mark yn dal y record am y daith feicio gyflymaf o amgylch y byd; cwblhaodd 18,000 milltir (29,000 km) o amgylch y byd o fewn llai na 79 diwrnod. Bum mlynedd ers ei 'Around the World in 80 Days', mae Mark newydd dorri record arall am y daith feicio gyflymaf o gwmpas NC500 (Llwybr Arfordir y Gogledd 500), a gwblhaodd o fewn llai na 29 awr ddydd Sadwrn 24 Medi 2022.
Mae anturiaethau Mark wedi mynd ag ef i dros 100 o wledydd dros yr ugain mlynedd diwethaf, gan ei wneud yn un o'r athletwyr tra-dycnwch uchaf ei barch ar y blaned. Mae ei daith, 'Faster', yn cyfleu'r awydd i grwydro er mwyn dod o hyd i ddisgyblaethau beicio newydd a lleoedd gwyllt newydd, gan gynnwys y rhai sy'n agosach at gartref. Wrth i Mark droi'n 40 oed, mae'n myfyrio ar yrfa sydd wedi datblygu o epigau troedrydd ei 20au, gan adeiladu bellach tuag at lefel o berfformiad a manylder sy'n ei alluogi i barhau i wthio ffiniau.
Mae Faster gan Mark Beaumont yn dod i Theatr Glan yr Afon nos Fercher 8 Chwefror am 7.30pm. Gellir archebu tocynnau trwy ffonio 01633 656757 a thrwy’r wefan: Newport Live | Events.
