Cyflwynwyd Finlay Tarling i feicio trac yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas cyn gynted ag yr oedd yn ddigon hen i fynd ar y byrddau. O'r dyddiau cynnar hynny yn sesiynau trac Casnewydd Fyw ar ddydd Sadwrn a gweithgareddau Clwstwr Clwb Beicio Cymru, daeth Fin yn bresenoldeb cyfarwydd a phoblogaidd yn gyflym iawn yn y felodrom.

Roedd yn gystadleuydd rheolaidd yn ein Cynghrair Trac y Gaeaf, lle dangosodd hyder, penderfynoldeb a thalent rhyfeddol yn ifanc iawn. Roedd yn gallu cymysgu â beicwyr profiadol oedd yn oedolion, a’u curo yn aml iawn. Roedd yn amlwg i bawb oedd yn ei wylio bod gan Fin rywbeth arbennig iawn.

Aeth Fin ymlaen i gael ei ddewis ar gyfer Llwybr Perfformiad Beicio Cymru a rhaglenni talent British Cycling, gan barhau i symud ymlaen drwy'r gamp gydag ymroddiad ac angerdd. Ar lefel genedlaethol, daeth yn Bencampwr Cenedlaethol Dan 16 yn y Ras Ymlid Unigol a Madison yn 2022, cyflawniadau oedd yn golygu cymaint i bob un ohonom, a oedd wedi gweld ei daith yn dechrau yma yng Nghasnewydd.

Arweiniodd y perfformiadau hynny ato’n cael ei ddewis ar gyfer timau Prydain Fawr, lle cynrychiolodd ei wlad ac enillodd fedalau ym Mhencampwriaethau Trac Ewrop ac Iau y Byd. Enillodd hefyd aur y ras ymlid i dimau i Dîm Cymru ym Mhencampwriaethau Trac Cenedlaethol Prydain 2024. Roeddem yn hynod falch o wylio talent Fin yn mynd ag ef ar lwyfan y byd, gan wybod y gwaith caled, yr angerdd a'r cymeriad y tu ôl i bob llwyddiant.

Ond yn anad dim, bydd Fin yn cael ei gofio nid yn unig am yr hyn a gyflawnodd ar y beic, ond am y person yr oedd e. Roedd yn wirioneddol garedig, yn gynnes ac yn annwyl iawn i’r rhai o'i gwmpas. Daeth â gwên enfawr, synnwyr digrifwch gwych a angerdd gwirioneddol at ei gamp i'r felodrom bob tro y daeth trwy'r drysau.

Roedd ei dalent yn ddiamheuol, ond hefyd ei ostyngeiddrwydd, ei ymrwymiad a'r argraff gadarnhaol a adawodd ar bawb a weithiodd, hyfforddodd a beicio ochr yn ochr ag ef.

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw, "Bydd pob un ohonom yng Nghasnewydd Fyw yn gweld eisiau Fin yn fawr. Mae ein meddyliau gyda'i deulu, ei ffrindiau, ei gyd-chwaraewyr, ei hyfforddwyr a phawb y cafodd eu bywydau eu cyffwrdd ganddo, ar yr adeg anodd hon. Rydym yn teimlo'n freintiedig o fod wedi chwarae rhan fach yn ei daith, a byddwn yn ei gofio gyda balchder, cynhesrwydd ac anwyldeb mawr."

Fel teyrnged barhaol i Fin, mae ei deulu a’i ffrindiau wedi lansio ymgyrch codi arian i helpu i sicrhau bod angerdd Fin am feicio a'r ysbrydoliaeth a roddodd i eraill yn parhau i gael effaith gadarnhaol am flynyddoedd i ddod. Os hoffech gyfrannu, gallwch wneud hynny yma: https://gofund.me/4b4b0bf51

Fin Tarling.jpg

Credyd llun: Carl Downing