Daeth deugain o sefydliadau cymunedol ar lawr gwlad at ei gilydd yn Sioe Deithiol Datblygu ac Ariannu Clybiau Casnewydd Fyw i archwilio cefnogaeth ymarferol ar gyfer creu sefydliadau cryfach, mwy cynhwysol.
Dan arweiniad tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw, cynhaliwyd y digwyddiad ar 27 Hydref yng Nghanolfan Mileniwm Pilgwenlli, gan ddod â sefydliadau cymunedol wyneb yn wyneb â rhanddeiliaid a siaradwyr gwadd.
Wedi'i chyflwyno fel rhan o brosiect ACN Way, croesawodd y sioe deithiol sefydliadau sydd eisoes yn rhan o'r rhaglen ochr yn ochr â'r rhai sy'n awyddus i ddysgu mwy am y gefnogaeth, yr offer a'r adnoddau sydd ar gael i'w helpu i ddatblygu.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys heriau sy'n bwysig i sefydliadau ar lawr gwlad: cryfhau llywodraethu a strwythurau sefydliadol, ysgrifennu ceisiadau ariannu, datblygu cynlluniau marchnata, dod yn fwy cynhwysol, cefnogi datblygu'r gweithlu a mynd i'r afael â materion a phryderon yn ymwneud â chyfleusterau.
Mae clybiau ar lawr gwlad yn ganolog i fywyd cymunedol, gan gynnig cyfleoedd i fod yn egnïol, meithrin cyfeillgarwch ac ymdeimlad o berthyn. Mae cefnogi eu datblygiad yn helpu gwirfoddolwyr i ddatblygu’r sgiliau, yr hyder a'r sylfeini sefydliadol sydd eu hangen i gadw'r cyfleoedd hyn ar gael a chroesawu mwy o bobl. O lywodraethu cadarn i gyllid ac ymarfer cynhwysol, gall cymorth ymarferol helpu clybiau i ddod yn fwy gwydn, fel y gallant barhau i ddod â chymunedau at ei gilydd am flynyddoedd i ddod.
Ymhlith y rhanddeiliaid a'r siaradwyr gwadd roedd Cyngor Dinas Casnewydd, Chwaraeon Cymru, GAVO, Cymdeithas Chwaraeon Cymru, CGGC, Chwaraeon Anabledd Cymru, Criced Cymru, Sported, y Cynghorydd Mark Spencer, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Gymunedau a Chwaraeon ac Undeb Rygbi Cymru.
Roedd gwneud y digwyddiad yn hygyrch yn ystyriaeth allweddol. Gan gydnabod bod llawer o sefydliadau cymunedol yn dibynnu ar wirfoddolwyr a allai ei chael hi'n anodd cymryd amser oddi wrth eu hymrwymiadau, cadwodd y tîm y diwrnod mor fyr â phosibl a darparu gweithgareddau i blant, lleoedd parcio yn y lleoliad, cinio a lluniaeth.
Dywedodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Casnewydd Fyw: "Y tu ôl i bob sefydliad ar lawr gwlad mae pobl sy'n rhoi eu hamser, eu hegni a'u gofal i'w cymuned. Mae llawer yn wirfoddolwyr, sy'n cyflawni'r ymrwymiad hwnnw o amgylch gwaith a bywyd teuluol. Rydyn ni eisiau iddyn nhw wybod nad oes rhaid iddyn nhw wynebu'r heriau o redeg sefydliad ar eu pennau eu hunain.
"I ni, roedd y sioe deithiol hon yn ymwneud â mwy na chyllid a chyngor. Roedd yn ymwneud â gwneud amser i'r bobl hynny, eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u cysylltu â phartneriaid a all helpu. Gall hyd yn oed pethau ymarferol, fel darparu gweithgareddau i'w plant, wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydyn ni eisiau ei gwneud hi'n haws iddyn nhw barhau i wneud yr hyn sydd mor bwysig, dod â phobl at ei gilydd a helpu mwy o bobl i deimlo eu bod yn perthyn."
Trwy ddod â chefnogaeth at ei gilydd mewn un lle a lleihau rhwystrau ymarferol i fynychu, rhoddodd y sioe deithiol gyfle i sefydliadau ar lawr gwlad archwilio cymorth gyda'r heriau bob dydd o redeg a datblygu eu sefydliadau.
