Yn ystod hanner tymor mis Hydref, ymgymerodd Mo Williams o Gasnewydd â her ENFAWR ar gyfer Plant Mewn Angen y BBC, a chwblhau marathon CYFAN o amgylch trac rhedeg Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, tra’n dal ei afael ar lwy ac wy!!

Yr her hon o redeg 105 o weithiau o gwmpas y trac oedd y diweddaraf o ymdrechion Mo i gwblhau llu o heriau gwallgof ar ran yr elusen dros y blynyddoedd, gan gynnwys rhedeg rhwng pob Greggs yng Nghaerdydd yn 2025.

 

Eleni mae Mo eisoes wedi rhagori ar ei darged codi arian, gan sicrhau dros 200% o'i darged gwreiddiol o £1000, camp wych arall.

"Hoffwn ddiolch i bawb wnaeth fy helpu," dywedodd Mo. "Mae hyn yn cynnwys fy ngwraig Emma, cydweithwyr a ffrindiau o Sinemâu Cineworld, RUNNewport a Wholesome Health a Fitness; y rhedodd lawer ohonyn nhw gyda fi a fy atal rhag mynd yn orffwyll.

Diolch yn fawr iawn i Casnewydd Fyw am hwyluso'r digwyddiad. Mae Stadiwm Casnewydd yn gyfleuster gwych, a dylen ni fod yn falch ei bod hi yn ein dinas."

 

"Mae'n anrhydedd i ni allu cefnogi'r achos gwych hwn, drwy ddarparu'r lleoliad" dywedodd Andrea Ovey, y Cyfarwyddwr Datblygu Busnes. "Mae'n gyflawniad gwych gan Mo ac fel sefydliad sy'n ysbrydoli pobl i ddod yn hapusach ac yn iachach, rydyn ni'n cefnogi’r her hon yn frwd!"

 

 

Am wybod cyfrinach am lwyddiant Mo?.... roedd yr wyau i gyd wedi'u berwi ymlaen llaw!!

 

Os hoffech gyfrannu, ewch i:

 

https://www.justgiving.com/page/mo-williams-9

 

79b2808e-f33e-4920-87c8-caa1d2153f0a.jpeg