Mae Krystal S. Lowe, ar y cyd â Theatr Iolo, wedi creu cymysgfa o ddawns a theatr ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc, gyda mynediad i gynulleidfaoedd dall a Byddar wedi'u hintegreiddio greadigol ac yn ddi-dor. Drwy gerddoriaeth R&B a symudiad deinamig, mae Rhythm Rhyfeddol yn archwilio sut rydym yn cysylltu â'r rhai sydd fwyaf annhebyg i ni, gan greu profiad cyffrous a deniadol o'r dechrau i'r diwedd.

Mae Rhythm Rhyfeddol wedi cael ei hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan y dawnsiwr, coreograffydd, awdur a chyfarwyddwr, Krystal S. Lowe, ac fe ddatblygodd y rôl fel Artist Llwyfan Theatr Iolo 2021 - 2023.

Fel artist o Gasnewydd, dechreuodd Krystal ei gyrfa flynyddoedd yn ôl yn Theatr Glan yr Afon, ac mae wedi cefnogi ei gwaith ers hynny. Mae dod â Rhythm Rhyfeddol i Lan yr Afon yn barhad o'u cefnogaeth a'u cysylltiad presennol o'i gwaith.     

Mae Rhythm Rhyfeddol yn sioe theatr ddawns i bobl ifanc 11+ a'u teuluoedd, a berfformir gan Krystal S. Lowe a Liam Wallace, sy'n ddawnsiwr, coreograffydd, ac ymarferydd.  

Mae rhythm yn ddigymell ac yn profi bywyd fel symudiad; a phob sain fel cerddoriaeth. Mae Glas yn hoff iawn o fywyd llyfn a sefydlog; ac mae'n well ganddo i bethau aros yr un fath. Pan mae Rhythm a Glas yn cwrdd ym Mharc Bellevue, mae ganddynt bum diwrnod i weld a yw eu cyfeillgarwch yn werth ei gadw pan ânt yn ôl i'w hysgolion ar wahân.

 

Trwy gerddoriaeth a symud ac anhap bydd y ddau berson ifanc yma yn profi'r anhawster a'r llawenydd wrth gysylltu â rhai sy’n wahanol iddyn nhw eu hunain.

Un fainc, dau berson, a phum diwrnod.

A fyddan nhw'n dod o hyd i ffordd o greu rhywbeth rhyfeddol, rhythm sy'n eu pennau eu hunain?

Bydd y ddau berfformiwr yn siarad wrth ddawnsio, gan ddisgrifio'n greadigol yr hyn sydd

yn digwydd ar y llwyfan. Mae'r disgrifiad sain integredig hwn yn caniatáu i gynulleidfaoedd sy'n

ddall neu'n rhannol ddall brofi'r sioe yn llawn. Adroddir y stori yn weledol hefyd

trwy ddawns a symudiad, sydd hefyd yn caniatáu i gynulleidfaoedd Byddar brofi

pob sioe yn llawn.

 

"Mae Theatr Iolo yn falch iawn o gefnogi Rhythm Rhyfeddol, darn newydd gwych o theatr ar gyfer pobl ifanc, sy'n llawn cerddoriaeth a symudiad. Bu Krystal yn datblygu'r sioe ers sawl blwyddyn fel rhan o'n rhaglen Llwyfan, cynllun sy'n helpu i ddatblygu gwaith newydd i gynulleidfaoedd ifanc. Rydym wrth ein bodd y bydd cynulleidfaoedd ifanc yng Nghymru a Lloegr nawr yn cael y cyfle i weld y sioe newydd gyffrous hon pan fydd yn teithio'r gwanwyn hwn."

-             Lee Lyford, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo

 

"Dechreuodd fy nghysylltiad â Theatr Glan yr Afon yn 2012 wrth i mi berfformio ar eu prif lwyfan gyda Ballet Cymru. Dros y blynyddoedd gwelais y lleoliad yma'n datblygu i fod yn theatr i'r gymuned. Man lle mae amrywiaeth eang o bobl yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u cynrychioli. Am y rheswm hwn, mae mor bwysig i mi barhau i gysylltu fy ngwaith â Glan yr Afon. Mae agor taith Rhythm Ryfeddol 2023 yn Theatr Glan yr Afon yn hynod gyffrous! Rwy'n gobeithio gweld llawer o'r gymuned yno."

-             Krystal S. Lowe, Perfformiwr a Chrëwr

 

Bydd Rhythm Rhyfeddol yn mynd ar daith bythefnos o amgylch lleoliadau yng Nghymru a Lloegr, gan ymweld â Glan yr Afon (Casnewydd), The Dance Space (Brighton), Theatr Clwyd (Yr Wyddgrug), Theatr y Sherman (Caerdydd) a'r Met (Abertyleri).

Archebwch Nawr!

Remarkable Rhythm