Cynhaliodd Casnewydd Fyw eu prif ddigwyddiad teuluol, ‘Chwaraeon yn y Parc’, yr Haf hwn ym Maes Lles Tŷ-du a Pharc Beechwood.

Cynhelir y digwyddiadau yn y gymuned mewn mannau gwyrdd sefydledig, sydd wedi'u lleoli ar draws Casnewydd i roi cymaint o gyfle i gymaint o deuluoedd â phosibl, a mynychodd dros 2,000 o blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr yr haf hwn!

"Rydyn ni'n deall bod rhieni bob amser yn chwilio am rywbeth i'w wneud dros yr haf, ac mae Chwaraeon yn y Parc, gyda chymaint o bethau i'w gwneud, ac am gost isel i deuluoedd, yn ddigwyddiad da iawn i'r calendr, gan y bydd teuluoedd yn dod ac yn aros am y diwrnod cyfan gan fod popeth am ddim ar ôl cofrestru!"

Karl Reed, Pennaeth Chwaraeon Cymunedol a Lles, Casnewydd Fyw

Mae llawer o deuluoedd yn dod yn gynnar i ddod o hyd i lecyn yn y cysgod neu'r haul ac yn aros am y dydd gyda phicnic neu’n defnyddio ein darparwyr arlwyo - mae’r digwyddiadau felly’n rhan annatod o dyddiaduron llawer o rieni dros yr haf!   Mae llawer o weithgareddau hwyl ar gael i blant a theuluoedd am ddim, gan gynnwys cwrs rhwystrau bownsio enfawr a chastell bownsio, pêl-droed, tennis, dartiau targedau aer, a chae pêl-droed aer enfawr; yn ogystal â DJ a cherddoriaeth, peintio wynebau, celf a chrefft, gemau gardd, gweithgareddau i’r blynyddoedd cynnar, a sesiynau blasu chwaraeon gan gynnwys tennis, pêl-droed, pêl foli, rygbi, pêl fasged, pêl-rwyd, bocsio, a beicio! 

Mae'r cyfan yn cael ei gyflwyno gan ein gwirfoddolwyr ifanc, hyfforddwyr cymunedol, a swyddogion datblygu sy'n gwneud gwaith anhygoel, yn y gwres, o osod popeth gyda’r bore i orffen yn hwyr, i gyd gyda gwên ar eu hwynebau, gan ymgysylltu â phreswylwyr, teuluoedd, plant a phobl ifanc!

Mae amrywiaeth o stondinau iechyd, lles a chymunedol hefyd ar gael, ac mae nifer o bartneriaid gwerthfawr wedi cefnogi Chwaraeon yn y Parc eleni, gan gynnwys Pêl Fasged Cymru, Bocsio Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB), Diabetes UK, Ambiwlans Sant Ioan, A1 Bounce, Beechwood Café, a The Glade Café, gan helpu i greu awyrgylch croesawgar bywiog yn y digwyddiadau teuluol.

"Roeddem yn falch iawn o groesawu mwy na 900 o bobl i Faes Lles Tŷ-du a 1200 i Barc Beechwood ar gyfer ein digwyddiad Chwaraeon yn y Parc blaenllaw yr haf hwn. Roedd yn wych gweld cymaint o blant, pobl ifanc a theuluoedd yn mwynhau'r amrywiaeth eang o chwaraeon, gweithgareddau corfforol a chyfleoedd cymunedol sydd ar gael.  Creodd y digwyddiad awyrgylch gwych ac arddangosodd gryfder gwaith partneriaeth ar draws Casnewydd. Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd, ynghyd â'n holl bartneriaid a gwirfoddolwyr a helpodd i wneud y digwyddiadau mor llwyddiannus".

Chloe Powton, Rheolwr Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Cymunedol, Casnewydd Fyw

 

​​​​​​​

Beechwood 4.jpg  Beechwood 5.jpg  Beechwood 6.jpg

 

Beechwood3.jpg  SITP M.jpg Beechwood 1.jpg​​​​​​​​​​​​​​