Fel sefydliad dosbarthu nid-er-elw ac elusen gofrestredig, mae unrhyw arian dros ben y mae Casnewydd Fyw yn ei wneud yn cael ei ail-fuddsoddi yn y rhaglenni, gwasanaethau a chyfleusterau a ddarparwn. 

Rydym yn gweithio'n galed i weithredu mor effeithlon â phosibl, gan leihau ac amsugno costau cynyddol lle bynnag y gallwn, wrth barhau i ddarparu'r gwasanaethau o ansawdd uchel rydych chi'n eu disgwyl. Fodd bynnag, gyda chynnydd parhaus mewn costau gweithredu a llai o gymorth ariannol, byddwn yn cyflwyno cynnydd mewn prisiau o 1 Ebrill 2026. 

Hyd yn oed gyda'r addasiad hwn, rydym yn hyderus bod ein gwasanaethau yn parhau i gynnig gwerth rhagorol am arian a byddwn yn cefnogi ein haelodau, cwsmeriaid a chefnogwyr bob cam o'r ffordd, ar eu taith iechyd a lles. 

Uchafbwyntiau Casnewydd Fyw 

  • Rydym yn dal yr Achrediad Active Standard, sy’n rhoi hyder i chi fod ein cyfleusterau a'n rhaglenni yn bodloni safonau uchel o ddiogelwch, cynhwysiant ac ansawdd. 
  • Rydym yn falch o fod yn GAMPFA HYROX SWYDDOGOL, ac rydym wedi ehangu ein cynnig ffitrwydd gyda dosbarthiadau Les Mills newydd, gan roi mwy byth o ffyrdd i chi gadw’n egnïol. 
  • Gall aelodau ffitrwydd fwynhau Archwiliadau Iechyd Technogym am ddim sy’n mesur meddwl, corff, cydbwysedd, symudedd, cardio a chryfder, gyda chanlyniadau wedi'u personoli i lywio eich cynnydd. 
  • Mae aelodau'n elwa ar fynediad i archebu’n gynnar ac yn gallu archebu gweithgaredd 7 diwrnod ymlaen llaw; yn hytrach na’r 4 diwrnod o fynediad archebu y mae cwsmeriaid Talu a Chwarae yn ei gael.  
  • Gwelliannau Mawr i'r Cyfleusterau ar draws ein lleoliadau gan gynnwys ail-wynebu’r trac felodrom yn Felodrom Geraint Thomas, gosod llawr newydd yn Neuadd Chwaraeon y Ganolfan Byw'n Actif, uwchraddio'r caeau 3G ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd a'r Ganolfan Byw'n Actif, a gosod taflunydd sinema newydd yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon i wella ein rhaglen sinema boblogaidd.

Darganfyddwch am y ffioedd newydd

Aelodaeth ffitrwydd (Debyd Uniongyrchol Misol)

Aelodaeth ffitrwydd (Cynllun Blynyddol gyda 3 mis am ddim)

Gwersi Tennis

Gwersi Nofio

Sesiynau RhNG a sgwad nofio

 

Prisiau eraill:

Campfa/ dosbarth talu a chwarae - £6.15

Nofio cyhoeddus - £2.60 (iau) / £3.15 (hŷn) / £5.20 (oedolyn)

 

Am unrhyw brisiau eraill, cysylltwch â'n tîm gwasanaeth cwsmeriaid ar 01633 656757.