Mae partneriaeth unigryw o wasanaethau yng Nghasnewydd wedi cael gwobr genedlaethol am y cymorth y mae'n ei gynnig i blant lleol amrywiol eu hethnigrwydd.

Mae’r darparwyr chwaraeon a gweithgarwch corfforol ieuenctid cymunedol Positive Futures, ysgolion cynradd lleol, ffigurau a sefydliadau cymunedol allweddol, Cyfiawnder Ieuenctid Casnewydd, yr heddlu, Chwaraeon Cymru a hyd yn oed bocswyr proffesiynol wedi ymuno i ffurfio rhwydwaith cymorth cryf y gellir ymddiried ynddo ar gyfer plant lleol i'w hamddiffyn rhag, a'u dargyfeirio oddi wrth, y dylanwadau niweidiol a chamfanteisiol niferus a all eu hwynebu.

Daethpwyd â'r partneriaid ynghyd i ddechrau gan Levelling the Playing Field, prosiect sy’n weithredol ledled y DU ac sy'n defnyddio chwaraeon a gweithgarwch corfforol i fynd i'r afael â gorgynrychiolaeth plant ethnig amrywiol yn y system cyfiawnder ieuenctid.

Darperir Levelling the Playing Field gan rwydwaith o sefydliadau ledled Gwent, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Llundain a De Swydd Efrog. Mae'n brosiect gwerth £1.7m a ariennir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Marathon Llundain ac a gyd-reolir gan y Gynghrair Bwrdd Chwaraeon a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.

Levelling the Playing Field yw'r prosiect mwyaf o'i fath i gael ei gynnal erioed yn y DU, yn uno pobl a sefydliadau sy'n defnyddio chwaraeon a gweithgarwch corfforol i ennyn ymgysylltiad plant a sicrhau newid cadarnhaol mewn cymunedau amrywiol ethnig. Mae'r prosiect yn rhannu arfer da, yn hyfforddi staff rheng flaen ac yn helpu ei holl bartneriaid i ddangos eu heffaith er mwyn gallu cynyddu a datblygu polisi, arfer a buddsoddiad yn y dyfodol.

Mae gwaith partneriaeth Casnewydd wedi cael ei wobrwyo gyda gwobr 'Partneriaeth Gymunedol y Flwyddyn' yng ngwobrau agoriadol Levelling the Play Field, a gynhaliwyd yng Decathlon Surrey Quays yn Llundain ar ddydd Sadwrn 16 Gorffennaf.

Mae rhwydwaith Casnewydd wedi sefydlu amserlen lawn o sesiynau chwaraeon i blant yng nghymunedau amrywiol ethnig y ddinas, Maendy a Pillgwenlli. Mae'r sesiynau hyn yn cynnwys pêl-droed, rygbi, sglefrfyrddio a bocsio sydd wedi bod yn boblogaidd iawn, yn enwedig gan fod yr enillydd medal aur lleol yng Ngemau'r Gymanwlad Sean McGoldrick yn aml yn galw heibio i ysbrydoli'r bobl ifanc.

Gellir crynhoi athroniaeth partneriaeth Casnewydd fel 'cysylltiad cyn cywiro'; mewn geiriau eraill, mae angen i chi gysylltu ac adeiladu perthynas ddibynadwy gyda phob plentyn cyn i chi allu hyd yn oed ystyried cywiro eu hymddygiad.

Chwaraeon a gweithgarwch corfforol sy'n caniatáu i'r cysylltiadau hynny gael eu hadeiladu. Mae chwaraeon – a gyflwynir mewn mannau diogel a gan wynebau diogel – yn rhoi llwyfan lle mae perthnasoedd ac ymddiriedaeth yn datblygu. Dim ond pan enillir yr ymddiriedaeth honno y gall staff sesiynau ddechrau deall pa broblemau y mae plant yn eu hwynebu a defnyddio'r rhwydwaith i helpu.

"Mae Levelling the Playing Field yn creu tir cyffredin lle gall pobl  ddod ynghyd a chefnogi plant, oherwydd mae angen newid sylweddol," meddai Lucy Donovan, Rheolwr Datblygu Positive Futures.

"Mae'r bartneriaeth yn camau yn ei blaen yn gadarn i sicrhau bod penderfynwyr a llunwyr polisi yn ymwybodol o'r materion y mae pobl ifanc yn eu hwynebu ac ar hyn o bryd mae'n pwyso am newid cymdeithasol a systemig i sicrhau y gellir diwallu anghenion. Gyda'n gilydd, rydym yn atal plant a phobl ifanc amrywiol o ran eu hethnigrwydd rhag cael eu colli 'yn y system' ac yn eu helpu i ddod o hyd i'w lle yn ein cymuned gyffredin."

Un arloesedd nodedig fu cael aelod o staff y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Matt Elliott, yn rhan annatod o dîm Positive Futures i greu a chynnal cysylltiadau yn ystod y cam ataliol cyn i blentyn fynd i fyd o droseddu a chamfanteisio.

Mae Matt wedi dod yn wyneb cyfeillgar a chyfarwydd i'r plant (ac nid dim ond am ei fod yn edrych yn hynod debyg i reolwr Lerpwl Jurgen Klopp!). Mae presenoldeb Matt yn ychwanegu cysondeb at fywydau ac arferion dyddiol pob plentyn. Maen nhw’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo, a gall siarad â rhieni/gofalwyr, cynnig arweiniad a helpu i ddelio â materion wrth iddyn nhw godi.

Mae hyn yn wahanol iawn i’r gefnogaeth fympwyol oedd yn dueddol o fod ar gael yn y gorffennol, lle'r arweiniodd cyllid tymor byr a chwalfa’r gwasanaethau ieuenctid at weld darpariaeth chwaraeon yn mynd a dod – oedd yn golygu bod perthnasoedd dibynadwy naill ai erioed wedi’u creu neu wedi eu torri’n sydyn ac yn niweidiol.

Esboniodd Justin Coleman, Prif Swyddog Gweithredol y Gynghrair Chwaraeon (sy'n rheoli Levelling the Playing Field mewn partneriaeth â'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid): "Mae partneriaeth aml-asiantaeth Casnewydd yn gweithio mor agos gyda'i gilydd mae'n teimlo fel teulu.

"Maen nhw’n defnyddio dull partneriaeth gyfathrebol felly pan fydd sefyllfa gofal cywirol neu gritigol yn codi, mae nhw mewn sefyllfa ragweithiol i allu cyfathrebu, datrys a chefnogi o sawl safbwynt. Mae'r person ifanc yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi gan gymuned ofalgar gyfan, ac mae’r gefnogaeth honno’n real iawn.  Maen nhw’n cael eu hymgysylltu cyn bo angen 'cysylltiad cyn cywiro' hyd yn oed.

"Mae ymchwil yn dangos bod hyn yn wahanol i ddull partneriaeth strategol, gan fod honno’n tueddu i ffurfio oherwydd problem, yn hytrach na chael ei ffurfio cyn i'r broblem ddod i'r amlwg."

I gael rhagor o wybodaeth am bartneriaeth Casnewydd, cysylltwch â 01633 656757 neu e-bostiwch marketing@newportlive.co.uk neu lucy.donvan@newportlive.co.uk