Mae Casnewydd Fyw yn falch o gefnogi her codi arian unigryw yn Stadiwm Casnewydd, wrth i'r rheolwr codi arian lleol a rheolwr Cineworld, Mo Williams, baratoi i gwblhau marathon gwahanol er budd BBC Plant Mewn Angen.
Ar ddydd Gwener 30 Hydref, bydd Mo yn ymgymryd â'r her ryfeddol o redeg marathon llawn o amgylch y trac yn Stadiwm Casnewydd, her a wnaed yn bosibl drwy gefnogaeth a gwaith hwyluso Casnewydd Fyw. Er mwyn gwneud y gamp hyd yn oed yn fwy heriol, bydd pob cam o'r 26.2 milltir yn cael ei gwblhau tra’n cydbwyso ŵy ar lwy.
I gwblhau'r marathon, bydd angen iddo orffen 105.5 lap o drac y stadiwm heb ollwng yr ŵy, gan brofi ei ddygnwch a’i allu i ganolbwyntio i gefnogi achos sy'n agos at ei galon.
Mae'r her yn rhan o gefnogaeth barhaus Cineworld i BBC Plant Mewn Angen, elusen sy'n helpu plant a phobl ifanc sy'n wynebu ystod eang o heriau ledled y DU.
Wrth sôn am yr her, dywedodd Mo:
"Yn ystod y cyfnod rydw i wedi bod yn ymwneud â BBC Plant Mewn Angen, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weld yn uniongyrchol yr effaith gadarnhaol y mae'r arian sy’n cael ei godi yn ei chael ar fywydau plant a phobl ifanc. Rwy'n credu'n angerddol bod y gwaith maen nhw'n ei wneud yn hynod bwysig ac yn rym go iawn er daioni. Yr her hon yw fy ffordd i o helpu i godi ymwybyddiaeth ac arian hanfodol i gefnogi hyd yn oed mwy o bobl ifanc sydd ei angen fwyaf."
Mae BBC Plant Mewn Angen yn credu bod pob plentyn yn haeddu'r cyfle i ffynnu. Trwy ariannu prosiectau a sefydliadau lleol, mae'r elusen yn cefnogi plant a phobl ifanc sy'n profi tlodi, heriau iechyd meddwl, galar, ac amrywiaeth o anawsterau eraill.
Er gwaethaf yr angen cynyddol am gymorth, dim ond tua un o bob chwech o sefydliadau sy'n gwneud cais am gymorth y gall BBC Plant Mewn Angen ei ariannu ar hyn o bryd. Mae pob rhodd yn helpu i ariannu mwy o brosiectau lleol ac yn sicrhau bod plant agored i niwed yn cael mynediad at oedolion dibynadwy, mannau diogel, a chyfleoedd sy'n newid bywydau.
Mae cefnogaeth Casnewydd Fyw i'r digwyddiad yn tynnu sylw at ei ymrwymiad i hyrwyddo mentrau iechyd, lles a chymunedol ledled y ddinas. Trwy ddarparu mynediad i Stadiwm Casnewydd, mae Casnewydd Fyw yn helpu i greu llwyfan ar gyfer her ysbrydoledig sy'n cyfuno penderfyniad, ysbryd cymunedol a chodi arian ar gyfer achos pwysig.
"Rydyn ni'n falch o gefnogi Mo a'r ymdrech ragorol hon i godi arian ar gyfer BBC Plant Mewn Angen Mae'n ysbrydoledig gweld rhywun yn mynd i'r fath ymdrech i wneud gwahaniaeth. Mae'n fraint bod Stadiwm Casnewydd yn gallu chwarae rhan fach yn helpu i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer achos mor bwysig. Dymunwn bob lwc i Mo ac yn annog y gymuned i gefnogi Mo a’r achos gwych hwn." Dywedodd Andrea Ovey - Cyfarwyddwr Datblygu Busnes
Anogir aelodau o'r cyhoedd i ddangos eu cefnogaeth, cymeradwyo'r her, a chyfrannu i helpu BBC Plant Mewn Angen i barhau â'i waith hanfodol i gefnogi plant a phobl ifanc ledled y DU.
I gyfrannu a chefnogi'r her, ewch i: https://tinyurl.com/yzfnxwbc