Mae Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw wedi lansio Cyrchfannau'r Filltir Ddyddiol mewn ysgolion cynradd ledled Casnewydd a Threfynwy sy'n annog plant i fod yn egnïol wrth 'deithio ar draws y byd'.

Ar hyn o bryd mae 21 o ysgolion cynradd wedi cofrestru ar draws Casnewydd a Threfynwy ar gyfer Cyrchfannau'r Filltir Ddyddiol ac mae 237 o becynnau adnoddau wedi'u dosbarthu.  Mae rhai o'r ysgolion eisoes yn cystadlu i weld pwy all groesi’r byd gyflymaf fel rhan o'r fenter gyda mwy i ymuno dros yr wythnosau nesaf.

Mae Cyrchfannau'r Filltir Ddyddiol yn fenter newydd a lansiwyd gan The Daily Mile Foundation ar ddechrau'r flwyddyn academaidd i hyrwyddo gweithgarwch corfforol mewn ysgolion a gwella iechyd a lles plant ysgol.  Wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad ag athrawon, mae'r cynnwys hwyliog ac ymgysylltiol yn cysylltu â’r cwricwlwm ysgol ac mae'n cydweddu'n hawdd â phob ystafell ddosbarth. Gyda'r nod o gyflawni 100 diwrnod o’r Filltir Ddyddiol, mae dosbarthiadau'n ymdrechu i gwblhau 3-5 diwrnod o’r Filltir Ddyddiol yr wythnos gyda phob Milltir Ddyddiol yn mynd â nhw yn nes at gyrraedd 1 o'r 15 cyrchfan ledled y byd, tra'n cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith disgyblion.

Dywedodd Chloe Powton, Swyddog Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol yng Nghasnewydd Fyw "Rydym am i bob ysgol gynradd yng Nghasnewydd ac ar draws rhanbarth Gwent gael y cyfle i gymryd rhan ym menter Cyrchfannau'r Filltir Ddyddiol.  Mae effeithiau cyfyngiadau’r coronafeirws a chadw pellter cymdeithasol wedi dweud ar weithgarwch corfforol plant, gyda 35% o bobl ifanc dan 16 oed yn gwneud llai o ymarfer corff nag o'r blaen yn ôl arolwg gan Chwaraeon Cymru. Mae'r adborth gan athrawon a phlant wedi bod yn wych, mae wedi bod yn hyfryd clywed cymaint mae'r plant yn mwynhau ymarfer corff a chael hwyl gyda'u ffrindiau.   Byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion, cynghorau a chyrff chwaraeon yng Nghymru dros y misoedd nesaf i gynyddu cyfranogiad yn Y Filltir Ddyddiol."

Dywedodd Sam Thomas, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Millbank "Mae menter Cyrchfan y Filltir Ddyddiol wedi bod yn ffordd wych i'r plant ymgorffori gweithgarwch dyddiol yn eu dysgu. Maent wedi mwynhau cyrraedd, ymchwilio a dathlu pob cyrchfan yn fawr.  Mae cynghorau ysgol a dosbarth wedi cynllunio'n ofalus sut i nodi cyrraedd pob carreg filltir gan roi cyfle pellach i sicrhau bod llais disgyblion yn cael ei glywed. Mae wedi bod yn fenter wych gan yr ysgol gyfan i gymryd rhan ynddi, diolch yn fawr i Casnewydd Fyw am eu cefnogaeth a'u cymhelliant parhaus."

Mae Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw yn darparu cyfleoedd chwaraeon, iechyd a llesiant, cynhwysiant a chyfleoedd cyfranogiad ieuenctid Dyfodol Cadarnhaol i blant, teuluoedd, ysgolion, cymunedau, clybiau chwaraeon a grwpiau lleol ledled Casnewydd.  Maent yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth mewn cymunedau lleol ac i gael mwy o bobl i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol bob dydd tra'n cefnogi lles meddyliol.  Mae'r tîm yn uchel eu parch ymhlith partneriaid yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, ac yn parhau i ddefnyddio chwaraeon fel arf i ymgysylltu ac ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac yn iachach.

Gan fod Casnewydd Fyw yn sefydliad elusennol, mae ei holl gwsmeriaid a'i aelodau yn helpu i gefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau a gweithgareddau cymunedol ledled Casnewydd.   

I gael rhagor o wybodaeth am Y Filltir Ddyddiol ac am ymuno â chyfarwyddiadau ffoniwch 01633 287695 neu E-bost sportsdevelopment@newportlive.co.uk.