Mae Casnewydd Fyw wedi cyhoeddi bod eu Cadeirydd, oedd yn un o’r ymddiriedolwyr gwreiddiol, Kevin Ward, wedi ymddeol o'r Bwrdd ar ôl mwy na degawd o wasanaeth gwirfoddol ymroddedig.

Ymunodd Kevin â Bwrdd Casnewydd Fyw adeg ei sefydlu yn 2015 ac mae wedi chwarae rhan ganolog yn nhwf a datblygiad y sefydliad.  Dros y blynyddoedd, mae wedi gwasanaethu fel cadeirydd pwyllgor ac Is-gadeirydd, ac fel Cadeirydd ers 2023.

Wrth siarad am ei benderfyniad, dywedodd Kevin:
"Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint gwasanaethu fel ymddiriedolwr gwirfoddol gyda Chasnewydd Fyw dros yr 11 mlynedd diwethaf. Rwyf wedi bod yn arbennig o falch o wasanaethu fel Cadeirydd dros y tair blynedd diwethaf.

Wrth i amgylchiadau fy nheulu newid, yn enwedig ers dyfodiad fy nwy wyres, rwyf wedi bod yn ceisio lleihau fy ymrwymiadau gwirfoddol a nawr yw'r amser iawn i adael Casnewydd Fyw yn nwylo abl pobl eraill.

Byddaf bob amser yn cefnogi Casnewydd Fyw yn frwd, a'r gwaith rhyfeddol mae’n ei wneud, cyfraniadau anhygoel fy nghyd-aelodau gwirfoddol ar y bwrdd, a phob un o'n cydweithwyr anhygoel ymhob rhan o’r elusen.

Yn benodol, hoffwn rhoi teyrnged i'n Prif Weithredwr, Steve Ward (dim perthynas), sy'n ased anhygoel i Gasnewydd Fyw ac i'n dinas gyfan."

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw:
"Mae Kevin wedi bod yn allweddol o ran llunio Casnewydd Fyw o’r cychwyn cyntaf. Mae ei angerdd dros yr elusen, ein cydweithwyr a'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu wedi bod yn gwbl gadarn.

Mae arweinyddiaeth Kevin fel Cadeirydd wedi helpu i arwain Casnewydd Fyw trwy dwf, newid ac effaith, ac mae ei ymrwymiad fel ymddiriedolwr wedi gwneud gwahaniaeth parhaol i'r elusen.

Ar ran pawb yng Nghasnewydd Fyw, hoffwn ddiolch i Kevin am ei ymroddiad, ei gefnogaeth a'i gyfeillgarwch dros y degawd diwethaf. Mae'n gadael gyda'n diolchgarwch diffuant a'n dymuniadau gorau ar gyfer y dyfodol."

Yn dilyn ymddeoliad Kevin, bydd yr Is-gadeirydd Phil Tilley yn ymgymryd â rôl y Cadeirydd Dros Dro, gan barhau i gefnogi gwaith Casnewydd Fyw ym meysydd chwaraeon, gweithgarwch corfforol, y celfyddydau a diwylliant, chwaraeon cymunedol ac addysg.

Hoffem ddiolch i Kevin am ei gyfraniad pwysig a dymunwn y gorau iddo ar gyfer y dyfodol.

Bydd Casnewydd Fyw yn dechrau broses o recriwtio ymddiriedolwr newydd i ymuno â'r Bwrdd cyn bo hir. Bydd hwn yn gyfle i unigolion sy'n angerddol dros gefnogi cymunedau ledled Casnewydd a’r tu hwnt i chwarae rhan allweddol yn nyfodol yr elusen. Bydd rhagor o fanylion am y rôl a sut i wneud cais yn cael eu rhannu maes o law ar y wefan casnewyddfyw.co.uk