
Mae British Cycling yn falch o gyhoeddi y bydd Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol 2023 yn cael eu cynnal unwaith eto yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, yng Nghasnewydd, rhwng dydd Iau 26 a dydd Sul 29 Ionawr.
Bydd beicwyr gorau Prydain yn mynd benben am gyfle i ennill crysau coch, gwyn, glas pencampwyr cenedlaethol, gydag amaturiaid ochr yn ochr ag arwyr Olympaidd a Pharalympaidd mewn ymgais am ogoniant.
Digwyddiad y llynedd oedd y cyntaf i gael ei gynnal y tu allan i Fanceinion ers 1994, a gwelwyd pobl fel Jack Carlin sydd â medal arian, deiliad presennol Record Awr y Byd, Dan Bigham, a'r enillydd medal triphlyg yng Ngemau'r Gymanwlad, Neah Evans, yn mynd â theitlau cenedlaethol adref.
Roedd athletwyr Cymru yn arbennig o ddisglair ar eu trac cartref, gyda medal aur i sgwad sbrint tîm y dynion a sgwad sbrint tîm y merched, yn ogystal â medal aur yn y ras bwyntiau i Josh Tarling ac arddangosfa anhygoel o gyflymder a phŵer gan Rhian Edmunds yn y sbrint.
Dywedodd y pencampwr dwbl o bencampwriaethau 2022, Rhian Edmunds:
"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at gael rasio yng Nghasnewydd eto yn y Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol. Roedd dod o Gasnewydd ac ennill dau grys cenedlaethol ar fy nhrac cartref yn arbennig iawn y llynedd - does dim byd tebyg i dorf Gymreig i'ch gyrru chi adref ac ni allaf aros i geisio cadw fy nheitlau eleni, ochr yn ochr â fy nghyd-aelodau yn Nhîm Cymru."
Bydd rhagor o fanylion am docynnau, yr amserlen a sut y gall cefnogwyr wylio'r digwyddiad o'u cartrefi yn cael eu cadarnhau maes o law.
Dywedodd Pennaeth Chwaraeon a Digwyddiadau Mawr British Cycling, Jonathan Day:
"Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Gasnewydd ym mis Ionawr ar ôl pencampwriaeth mor llwyddiannus yn gynharach eleni. Unwaith eto, rydym yn hynod o ddiolchgar am gefnogaeth Casnewydd Fyw, Cyngor Dinas Casnewydd, a chydweithwyr yn Beicio Cymru wrth ddod â'r pencampwriaethau cenedlaethol i Gymru am yr eildro, gan arddangos y gorau o rasio trac Prydeinig.
"Gyda Phencampwriaethau Beicio’r Byd yr UCI y flwyddyn nesaf nawr ar y gorwel, bydd cefnogwyr yn gallu gweld cystadleuaeth o safon anhygoel o uchel, ac fel pob amser bydd hi'n gyfle gwych i sêr yfory wneud argraff."
Dywedodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Casnewydd Fyw:
"Gan weithio gyda'n partneriaid yng Nghyngor Dinas Casnewydd a British Cycling, rydym wrth ein boddau o gael y cyfle i gynnal y digwyddiad elitaidd hwn unwaith eto. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r gorau o feicwyr a chefnogwyr beicio Prydain i Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghymru ac i fod yn rhan o hanes wrth iddo ddigwydd."
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Beicio Cymru, Anne Adams-King:
"Mae Beicio Cymru'n llawn cyffro o weld y Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol yn dod yn ôl i Gymru a Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol. Roedd yn ddigwyddiad gwych yn 2021, ac rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn denu cymuned leol Casnewydd ac yn helpu i ysbrydoli pobl iau i gael tro ar feicio trac."