Mae rhaglen rheoli pwysau newydd i helpu pobl sy'n cael trafferth colli pwysau wedi ei hail-lansio yng Nghasnewydd.
Mae'r rhaglen 12 wythnos, sy'n gydweithrediad rhwng Casnewydd Fyw a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, wedi'i chynllunio i ddarparu dull 'cynhwysfawr' o reoli pwysau. Cafodd y rhaglen lansiad answyddogol y llynedd, ac mae'n ail-lansio eto eleni gyda llwybrau ychwanegol ati.
Bydd pobl yn cael eu hatgyfeirio i’r rhaglen gan eu meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall, neu gallant atgyfeirio eu hunain a derbyn cymorth un-i-un wythnosol, rhaglenni ffitrwydd personol, archwiliadau iechyd rheolaidd, ac addysg maeth.
Bydd rhan gyntaf y rhaglen yn dechrau ym mis Mai 2026 a bydd yn cael ei chyflwyno yn y Canolfan Tennis a Nofio Ranbarthol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, Spytty.
Stephani Hall, Cydlynydd Ffordd o Fyw Egnïol a Lles Casnewydd Fyw, meddai: "Mae'r rhaglen Rheoli Pwysau yn ffordd wych o wella iechyd a lles trigolion a chymunedau Casnewydd.
"Wrth gwrs, mae gennym y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff ar waith yma eisoes yn Casnewydd Fyw ac mae hyn yn ychwanegiad arall at hynny – gan alluogi mesurau a chamau gweithredu penodol iawn i wella pwysau pobl pan fydd hynny wedi dod yn rhwystr i iechyd da, lefelau gweithgaredd, a lles cyffredinol. Mae'n wych bod pobl yn gallu hunangyfeirio erbyn hyn hefyd, ac ar y pwynt hwnnw byddan nhw’n cael eu hasesu am eu cymhwysedd ar gyfer y rhaglen."
Bydd cyfranogwyr yn cael ymgynghoriad cychwynnol sy'n cynnwys asesiad ffitrwydd, archwiliad iechyd, a sefydlu rhaglen, cyn dechrau'r rhaglen 12 wythnos.
Bydd archwiliadau iechyd yn cael eu trefnu drwy gydol y rhaglen i fonitro cynnydd a darperir gweithdai i helpu i reoli materion fel ysfeydd, bwyta emosiynol, ac arferion ffordd o fyw hirdymor.
Bydd yna hefyd fforymau galw heibio a sesiynau grŵp a fydd yn digwydd yn rhithwir ac wyneb yn wyneb i helpu i gynnal ymgysylltiad cyfranogwyr.
Ar ddiwedd y rhaglen, bydd cyfranogwyr yn cael adolygiad terfynol a'u hannog i barhau â'u taith gyda gwahanol raglenni, gweithgareddau ac aelodaeth yn Casnewydd Fyw.
Dywedodd Andrea Ovey, cyfarwyddwr datblygu busnes Casnewydd Fyw: "Yn Casnewydd Fyw rydym yn ymdrechu i wneud ffitrwydd, lles a chwaraeon yn hygyrch i bawb.
"Rydym yn cynnal llawer o wahanol raglenni a gweithgareddau i gynorthwyo gyda hyn - yn ogystal â'n hystod o aelodaeth ffitrwydd.
"Rydym wedi cyffroi i lansio'r rhaglen Rheoli Pwysau ac edrychwn ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd y rhaglen hon yn ei chael ar ein cymuned."