Rydym yn chwilio am Reolwr Llwyfan Cwmni i gefnogi'r gwaith o lwyfanu pantomeim Theatr Glan yr Afon a Chanolfan y Celfyddydau, Robin Hood.
Dyddiadau’r sioe: 14 Tachwedd 2022 - 7 Ionawr 2023
Ffioedd: 2 x wythnos ymarfer wedi'u talu ar £618.92 yr wythnos a 6 wythnos wedi'i dalu ar £787.95 yr wythnos. Gellir talu £200 yr wythnos mewn cynhaliaeth lle mae’r cartref 25 milltir neu fwy o'r lleoliad.
Trosolwg o’r Rôl:
Rheolwr Llwyfan y Cwmni (RhLlC) sy'n arwain Adran Reoli Llwyfan y pantomeim ac sy’n gyfrifol am les y cwmni a darparu cefnogaeth ehangach ar draws pob adran o gynhyrchiad Robin Hood. Ynghyd â'r Rheolwr Cynhyrchu, y RhLlC sy'n gyfrifol am redeg y cynhyrchiad yn llyfn.
Mae'r rôl yn cynnwys gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Datblygu Creadigol sef Cynhyrchydd Creadigol y pantomeim, y Rheolwr Technegol, y Rheolwr Cynhyrchu, y Cyfarwyddwr a’r tîm Cynhyrchu.
Mae'r RhLlC yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal safon y cynhyrchiad unwaith iddo agor.
Rheolwr Llinell:
Dylai'r RhLlC adrodd i'r Rheolwr Datblygu Creadigol a'r Rheolwr Technegol.
I'r cyfeiriad arall, mae cyfrifoldeb rheoli llinell gan y RhLlC dros y Tîm Rheoli Llwyfan.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:
· I ddarparu rheolaeth effeithiol i'r holl staff o dan reolaeth llinell y RhLlC.
· Meithrin amgylchedd gweithio diogel, rhagweithiol i'r cwmni cyfan.
· Sicrhau bod pob diwrnod gwaith yn digwydd yn unol ag amserlen y cynhyrchiad a sicrhau bod y cwmni cyfan yn gweithio o fewn eu horiau ac yn cael egwyl yn unol â hynny.
· Goruchwylio rheoli perfformiad.
· Bod yn bwynt cyswllt cyntaf i holl aelodau'r cynhyrchiad.
· Cynnal deialog reolaidd gyda'r Rheolwr Datblygu Creadigol a'i gadw'n ymwybodol o unrhyw faterion yn ymwneud â pherfformiad ac ymarfer.
· Gweithio gyda'r Rheolwr Datblygiad Creadigol a'r tîm yng Nglan yr Afon i weithio o fewn cyllideb y cynhyrchiad
· Ymgymryd â dyletswyddau rheoli llwyfan o fewn y sioe fyw
Contractau a Chyllid:
· Delio gydag unrhyw faterion cytundebol neu undebol a all godi, ar y cyd â'r tîm yn Casnewydd Fyw.
· Sicrhau gweithredu telerau cyflogaeth i bob actor a staff rheoli llwyfan yn unol â'r cytundeb contract perthnasol.
· Cynnal perthynas waith o fewn y cwmni actio a rheolwyr llwyfan yn unol â'r cytundebau undeb perthnasol.
· Rheoli Arian Mân
Ymarfer a Pherfformiad
· Goruchwylio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau rheoli llwyfan gan gynnwys sefydlu ymarferion a pherfformiadau a’u rhedeg yn esmwyth.
· Gweithio gyda'r Is-reolwr Llwyfan ar derfyn pob dydd i sicrhau y dosberthir amserlen gryno ar gyfer y diwrnod canlynol.
· Rheoli'r tri lle ymarfer gan sicrhau eu bod i gyd yn daclus ac yn barod i'r cwmni ar ddechrau pob diwrnod.
· Goruchwylio trefn effeithiol ac effeithlon i alwadau’r Cwmni o dan y cytundeb undeb perthnasol
· Sicrhau bod gofynion y cynhyrchiad yn cael eu bodloni mewn modd amserol a bod pob adran yn cael gwybod am yr hyn sy'n ofynnol a pha bryd.
· Cysylltu â'r Rheolwr Datblygu Creadigol a'r adran farchnata i drefnu cyhoeddusrwydd a galwadau'r wasg.
· Cysylltu â’r Adran Wisgoedd i drefnu galwadau wardrob a ffitiadau.
· Gweithio gyda'r tîm cynhyrchu i sicrhau bod yr amserlen dechnegol yn cael ei bodloni.
· Rhedeg yr ymarferion technegol a gwisg a sicrhau y cedwir at yr amserlenni.
· Bod yn bresennol ar gyfer pob ymarfer technegol a gwisg.
· Goruchwylio cynnal a chadw (atgyweirio a chynnal a chadw i bropiau / set ac ati)
Iechyd a Diogelwch:
· Ynghyd â'r Rheolwr Cynhyrchu, rheoli amgylchedd gweithio glân, effeithlon a diogel i weithio ynddo sydd wedi ei reoli’n dda yn yr ardaloedd hynny a ddefnyddir gan y rheolwyr llwyfan ac aelodau'r cwmni, gan sicrhau eich bod yn gyfarwydd â pholisïau Covid cyfredol Llywodraeth Cymru a Casnewydd Fyw.
· Sicrhau bod yr holl waith a wnaed gan yr Adran Rheoli Llwyfan yn cydymffurfio â pholisi ac arferion Iechyd a Diogelwch ac â Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch gyfredol, gan adolygu asesiadau risg ar gyfer y cynhyrchiad a'r ddogfennaeth sy'n gysylltiedig â hwy.
Cyfrifoldebau Cyffredinol:
· Cysylltu ag adrannau eraill i sicrhau cyfathrebu da a rhediad llyfn y pantomeim.
· Cyflawni unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill yn ôl yr angen.
I wneud cais, anfonwch CV ynghyd â llythyr eglurhaol yn nodi eich sgiliau a'ch profiad ar gyfer y rôl at Jamie Anderson yn jamiedavidanderson@outlook.com erbyn Dydd Llun 7 Tachwedd 2022.
Am drafodaeth anffurfiol am y cyfle, e-bostiwch Jamie ar yr e-bost uchod.