Gwnaeth Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw lansio digwyddiadau Chwaraeon am Ddim i blant, pobl ifanc a theuluoedd yr haf diwethaf, ac maen nhw’n digwydd eleni eto, yn addo bod yn llwyddiant mawr. Bydd y digwyddiadau teuluol sy'n ffocysu ar gymunedau’n cael eu cynnal dros wyliau'r ysgol, ochr yn ochr â chyfres boblogaidd Chwaraeon yn y Parc a gweithgareddau gwyliau eraill i blant, yn rhai chwaraeon a chelf.

Bydd y gyfres o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal mewn parciau a mannau agored yng Nghasnewydd gydag amrywiaeth eang o chwaraeon a gweithgareddau corfforol hwyliog ar gael am ddim i blant rhwng 3 a 14 oed. Bydd byrbrydau iach, ffrwythau a dŵr ar gael, gan gefnogi teuluoedd Casnewydd yn ystod y gwyliau fel rhan o'r ymgyrch Llwgu yn Ystod y Gwyliau genedlaethol.

"Gwnaethon ni dreialu ein Digwyddiadau Chwaraeon AM DDIM y llynedd ar ôl i reoliadau a rheolau COVID gael eu llacio ac roedden nhw’n llwyddiant mawr. Gan ddefnyddio mannau gwyrdd lleol a chyfleusterau ysgolion, bu modd i ni chwalu llawer o rwystrau i blant a theuluoedd gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Rydyn ni hefyd yn gallu helpu mynd i'r afael ag angen bwyd dros y gwyliau drwy ddarparu pecynnau bwyd iach, ffrwythau a dŵr i'r plant a chyfle i fod yn actif a chael hwyl gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau." eglurodd Chloe Powton – Rheolwr Datblygu Chwaraeon Cymunedol a Gweithgarwch Corfforol  Mae'r digwyddiadau Chwaraeon hyn yn cyd-fynd berffaith gyda chynlluniau uchelgeisiol Casnewydd Fyw ar gyfer yr haf, ac yn bosibl diolch i gyllid gan gronfa Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru.

"Mae gennym galendr gwych o ddigwyddiadau drwy gydol yr haf, ledled ein canolfannau ac mewn parciau a chymunedau ar hyd a lled y ddinas. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld yr effaith gadarnhaol y caiff y rhain ar bobl ledled y ddinas ac edrychwn ymlaen at eich croesawu. Mae'r rhan fwyaf o'n digwyddiadau am ddim, gydag eraill yn â ffi fach; mae timau Casnewydd Fyw wedi gweithio'n galed iawn i gynnwys rhywbeth at ddant pawb wrth i ni ymdrechu i ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac yn iachach," esboniodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Casnewydd Fyw. "Gallwch ddysgu mwy am ein rhaglen gweithgareddau gwyliau ar ein gwefan a gallwch hefyd archebu drwy ap Casnewydd Fyw. Byddwch yn actif, cymerwch ran a mwynhewch yr haf gyda Casnewydd Fyw!"

Mae'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnig gan Casnewydd Fyw dros yr haf yn ategu gwaith drwy gydol y flwyddyn i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol plant, pobl ifanc ac oedolion a’u hymgysylltiad â’r celfyddydau, a gwella eu lles meddyliol ac emosiynol. Mae cyllid a dderbyniwyd gan Chwaraeon Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a phartneriaid a rhanddeiliaid eraill wedi galluogi timau Casnewydd Fyw i drefnu gweithgareddau chwaraeon, hamdden, theatr, celf a diwylliant i gefnogi lles a gweithgareddau corfforol a meddyliol, a sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hysbrydoli, a bod teuluoedd sydd angen cymorth yn cael eu cefnogi.

Mae Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw yn darparu cyfleoedd chwaraeon, iechyd a lles i blant, teuluoedd, ysgolion, clybiau chwaraeon a chymunedau ledled Casnewydd.  Maent yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth drwy annog pobl i fod yn fwy corfforol egnïol a chefnogi lles meddyliol pobl. Mae'r tîm yn uchel eu parch ymhlith partneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac yn parhau i ddefnyddio chwaraeon fel offeryn i ymgysylltu ac ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac yn iachach.

Gan fod Casnewydd Fyw yn sefydliad elusennol, mae ei holl gwsmeriaid a'i aelodau yn helpu i gefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau a gweithgareddau cymunedol ledled Casnewydd.   

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau chwaraeon hyn a digwyddiadau eraill yr haf hwn ewch i newportlive.co.uk/ChildrensHolidayActivities, e-bostiwch sportsdevelopment@newportlive.co.uk, neu ffoniwch 01633656757.