
Ar ôl llwyddiant ysgubol Gŵyl Ffilmiau Caribïaidd Windrush (WCFF) gyntaf yng Nghasnewydd, mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn falch iawn o barhau â rhaglen o ffilmiau a ddewiswyd yn benodol i arddangos y cymynroddion cyfoethog y mae'r genhedlaeth Windrush wedi'u rhoi i Brydain.
I'r rhai sy'n newydd i'r Ŵyl, lansiwyd y WCFF yn 2020 gyda'r nod o ymgysylltu ac addysgu cynulleidfaoedd am gyfraniadau'r genhedlaeth Windrush a'u disgynyddion trwy ddangos ffilmiau, trafodaethau, cyfweliadau a gweithdai. Y genhedlaeth 'Windrush' yw'r rhai a gyrhaeddodd y DU o wledydd y Caribî rhwng 1948 a 1973. Mae pob ffilm yn yr ŵyl yn
Cymerwch olwg ar yr hyn fydd yn cael ei ddangos:
The art of oppression 42 munud
Cyfarwyddwr Patricia Francis 2021
Mae'r ffilm hon yn sôn am 3 artist benywaidd sy’n cael 3 wythnos yr un i greu gwaith celf yn ystod y cyfnod clo. Mae'r menywod yn ddiwylliannol amrywiol ac yn defnyddio eu celfyddyd i siarad am ymylu a gorthrwm. Mae llais yn bwysig yn y ffilm hon, mae'r cyfarwyddwr yn rhoi swmp a phrimasiaeth i brofiadau byw'r menywod ac i'r hyn maen nhw'n ei ddatgelu wrth greu eu celf.
Black Exodus 2091 18 munud
Cyfarwyddwr: Daniel Bailey
Mae Black Exodus yn ddelweddiad o sut mae'r gymuned ddu yn edrych pan fyddwch chi'n ei gwahanu oddi wrth orthrwm hiliol. Gan ddefnyddio cyfoeth a phoen eu gorffennol i beiriannu eu dyfodol, mae artist creadigol yn trafod yr hyn sydd ei angen i greu Wtopia Ddu sy'n canolbwyntio ar rôl iacháu, ysbrydolrwydd, cymuned, genedigaeth a marwolaeth a'r angen am dderbyn rhywedd cwiar yn y Gymuned Ddu.
Gifts from Babylon.
Cyfarwyddwr: Bas Ackermann, Amadou A Silah, Babucar Manka, Modou Joof
Mae Gifts from Babylon yn ffilm fer sy'n archwilio effaith seicolegol mudo Affrica-UE drwy lens mudwr o Gambia sy’n dychwelyd. Mae'r ffilm yn cipio'r gwrthdaro personol sy'n codi pan fydd Modou, ffoadur sy’n cael ei allgludo, yn dychwelyd i'w famwlad ar ôl byw yn anghyfreithlon yn Ewrop am bum mlynedd. Yn dioddef o ôl-fflachiadau dwys o'i daith ymfudol anghyfreithlon, mae'n meddwl beth sydd wedi dod ohono.
''Rydym yn falch iawn o weithio gyda Cinema Golau ac o arddangos y ffilmiau hyn sydd wedi ennill canmoliaeth'', Danielle Rowlands, y Swyddog Addysg a Chyfranogiad yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon.
Archebwch nawr: Theatr a’r celfyddydau | Golwg ar y digwyddiadau Theatr a Chelfyddydau sy’n dod i Gasnewydd Fyw