
Mae Dinosaur World Live yn dychwelyd i Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, Casnewydd ym mis Hydref. Ar ôl llwyddiant ysgubol eu hymweliad diwethaf, roedd rhaid dychwelyd!
Mae Dinosaur World Live yn cynnig y trît perffaith, gyda sioe fyw ddifyr ac addysgol a fydd yn swyno'r teulu cyfan. Gan ddefnyddio pypedau trawiadol i ddod â deinosoriaid yn fyw ar lwyfan, mae Dinosaur World Live yn cyflwyno llu o greaduriaid cyn-hanesyddol trawiadol gan gynnwys y cawr bwyta cnawd, ffefryn pob plentyn, y Tyranosawrws Rex, ynghyd â’r Giraffatitan, y Microraptor, y Segnosawrws a’r Triceratops.
Mae newyddion da newydd gael ei ryddhau! Bydd deinosor rhyfeddol (un go iawn efallai) yn crwydro strydoedd Canol Dinas Casnewydd Ddydd Sadwrn 24 Medi. Bydd y diwrnod yn cynnwys 3 chrwydriad: 12:00pm, 12:45pm a 1:30pm yn Friars Walk.
Felly, p'un a ydych chi wedi bod i weld Dinosaur World Live o’r blaen neu os ydych chi'n anturiaethwr newydd herfeiddiol, dewch â'r teulu draw i gael cip slei o'r hyn sydd i ddod ym mis Hydref.
Efallai bod sŵn rhuo i beri braw gan y pypedau hyn ond maen nhw'n berffaith ar gyfer plant 3+ oed.
Peidiwch â cholli’r cyfle!