Children playing sports at Sport in the Park 2023

Wrth i ni symud i wythnos olaf gwyliau'r haf, mae Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw wedi ymgysylltu â dros 3,000 o blant a'u teuluoedd. Mae dros 20 o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi'u cyflwyno hyd yma ar gyfer teuluoedd â phlant rhwng 3 a 18 oed ar draws parciau, mannau gwyrdd, ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghasnewydd, yn ogystal ag yng nghyfleusterau Casnewydd Fyw. 

Mae'r gweithgareddau'n cynnwys Teithiau Welis ar gyfer y plant iau, Kicio Pêl, Rygbi Hwb, Merched yn Meddiannu’r Haf ar gyfer plant ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â digwyddiadau Chwaraeon yn y Parc a Chwaraeon Dros Dro i bobl o bob oed - gan sicrhau bod rhywbeth at ddant pawb!

Mae'r ystod eang hon o weithgareddau a digwyddiadau sydd ar gael nid yn unig wedi rhoi cyfle i deuluoedd roi cynnig ar wahanol chwaraeon a gweithgareddau, ond hefyd i gael hwyl a chymdeithasu gyda ffrindiau a phlant eraill yn y gymuned. Unwaith eto, eleni, canolbwyntiodd y tîm ar fynd i'r afael â newyn gwyliau yng Nghasnewydd, gan roi cymorth i deuluoedd sydd angen cymorth yn ystod gwyliau'r ysgol.  Hyd yma, mae dros 360 brecwast, bron i 1,000 o becynnau cinio, yn ogystal â ffrwythau a dŵr, wedi cael eu dosbarthu dros bum wythnos i blant, pobl ifanc a rhieni; derbyniwyd pob un ohonynt yn ddiolchgar iawn a’r angen yn amlwg.

Mynegodd Chloe Powton, Rheolwr Datblygu Chwaraeon Cymunedol a Gweithgareddau Corfforol, ei balchder am lwyddiant y digwyddiadau, gan ddweud, "Mae'r ymgysylltiad rydym wedi'i weld ym mhob un digwyddiad rydym wedi'i drefnu wedi bod yn wirioneddol ryfeddol. Mae gweld plant yn cofleidio gweithgarwch corfforol, yn mwynhau chwaraeon, a chysylltu â'u cyfoedion yn hynod o foddhaol. Mae ein brwdfrydedd dros y digwyddiadau hyn wedi'i wreiddio'n ddwfn yn ein hymroddiad i helpu'r gymuned trwy gynnig profiadau newydd i blant a'u teuluoedd a'u hysbrydoli i archwilio ffyrdd newydd o ymgysylltiad corfforol, gan ymestyn y tu hwnt i'n digwyddiadau hyd yn oed. Mae agwedd ganolog o'n dull gweithredu yn cynnwys darparu brecwast a phecyn cinio, gan ein bod yn cydnabod pryder dybryd yn sgil newyn gwyliau ac rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r broblem. Wrth i ni symud i wythnosau olaf gwyliau'r haf, mae gennym nifer o ddigwyddiadau cyffrous ar y gorwel o hyd, ac rydym yn rhagweld yn eiddgar bosibilrwydd dyddiau heulog o'n blaenau hyd yn oed."

Canmolodd un rhiant y mynychodd ei blant sesiwn Rygbi Hwb y digwyddiad gan ddweud, "Dim ond eisiau dweud diolch am heddiw. Cafodd y bechgyn amser gwych.  Dychwelodd fy mab adref yn llawn cyffro gan adrodd faint yr oedd wedi mwynhau'r diwrnod.  Mae gan bob un ohonyn nhw angerdd dwfn dros rygbi ac yn achub ar unrhyw gyfle i gymryd rhan yn y gamp.  Diolch am gynnig mwy o'r cyfleoedd hyn yn y gymuned."  Rhannwyd teimladau cadarnhaol gan fynychwyr y digwyddiadau Taith Welis a Chwaraeon Dros Dro, gan dynnu sylw at lwyddiant ac effaith y mentrau hyn.

Dwedodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Casnewydd Fyw, "Mae'r ymgysylltu a'r gweithgareddau a ddarperir gan y tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol dros yr haf yn ategu gwaith ac ymroddiad y tîm gydol y flwyddyn i gynyddu lefelau ymgysylltu a chyfranogiad ar draws Chwaraeon a Chelf. Mae pob un ohonynt yn chwarae rhan hynod bwysig wrth wella nid yn unig lles corfforol ond lles meddyliol ac emosiynol hefyd. Mae'r nifer enfawr o gyfranogwyr yn dangos bod gwir angen a dymuniad yn ein canolfannau a'n cymunedau ar gyfer y gweithgareddau hyn.  Fel ymddiriedolaeth elusennol, hoffem ddiolch i'n partneriaid a'n cyllidwyr sydd wedi ein helpu i ddarparu'r gweithgareddau gwych a hwyliog hyn, ac yn bwysig i dîm Casnewydd Fyw am ddarparu haf gwych unwaith eto ac am annog pawb i gymryd rhan."

Mae cyllid a dderbyniwyd gan Chwaraeon Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, ac enwi ond rhai, wedi galluogi Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol a Thîm Datblygu’r Celfyddydau Casnewydd Fyw i ddarparu gweithgareddau gan Ysbrydoli Pobl i fod yn Hapusach ac yn Iachach.

Mae Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw yn estyn eu diolch i'w partneriaid, cyllidwyr, a sefydliadau gan gynnwys Vans Direct, Undeb Rygbi Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, Ysgol Gynradd Maendy , Ysgol John Frost, Cyngor Cymuned Tŷ-du, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Hwb Rygbi Merched Knights a Chlwb Rygbi Hen Fechgyn Ysgol Uwchradd Casnewydd am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad amhrisiadwy wrth helpu i gyflawni ei raglen allgymorth dros yr haf.

Gan fod Casnewydd Fyw yn sefydliad elusennol, mae ei holl gwsmeriaid a'i aelodau yn helpu i gefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau a gweithgareddau cymunedol ledled Casnewydd.   

Mae ychydig dros wythnos ar ôl o'r haf gyda llond llaw o ddigwyddiadau yn dal i gael eu cynnal gan y tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol. I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau a’r gweithgareddau sy’n weddill (llawer ohonynt am ddim) yr haf hwn ewch i casnewyddfyw.co.uk.GweithgareddauGwyliau.

Families on a welly walk in Summer 2023