Lansiwyd rhaglen beicio cynhwysol newydd yn swyddogol ym Mharc Tredegar ddoe gan Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd, a'r Cynghorydd Deb Harvey, Aelod Cabinet dros Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth. Ymunodd disgyblion o ysgol Maes Ebwy â'r cynghorwyr a gafodd gyfle i fod y cyntaf i fwynhau reidio'r beiciau o amgylch y llwybr yn y parc.

Casnewydd Fyw sy’n cynnal y rhaglen Olwynion i Bawb mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd. Mae'n rhan o fenter a gydnabyddir yn genedlaethol gan yr elusen feicio Brydeinig, Cycling Projects, sy'n croesawu plant ac oedolion ag anableddau ac anghenion gwahanol i gymryd rhan mewn gweithgaredd beicio o safon.

Mae amrywiaeth eang o feiciau ar gael i'w defnyddio yn ystod y sesiynau gan gynnwys cludwr cadair olwyn, beiciau llaw sengl a dwbl, beiciau tair olwyn gorweddol, tandem Roam, beiciau tair olwyn i oedolion a phlant, beiciau tandem â gyriant cefn a beiciau hybrid.

Bydd angen archebu beiciau ymlaen llaw trwy wefan neu ap Casnewydd Fyw neu drwy ffonio 01633 656757 a gall trigolion Casnewydd eu defnyddio am ddim.

Bydd arweinwyr beicio hyfforddedig Olwynion i Bawb wrth law yn ystod sesiynau i gefnogi beicwyr sy'n gwneud eu ffordd ar hyd y llwybr ym Mharc Tredegar. Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i ystod ehangach o bobl fwynhau buddion niferus beicio.

Bydd y rhaglen hefyd yn elwa o osod llwybr teithio llesol newydd yn y parc, a gwblhawyd gan y Cyngor yn ddiweddar. Bydd y llwybr mwy llydan yn ei gwneud yn haws i feicwyr a cherddwyr rannu'r lle yn y parc. 

Dywedodd y Cynghorydd Deb Harvey, Aelod Cabinet dros Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth yng Nghyngor Dinas Casnewydd:  "Rydym yn falch iawn o fod wedi lansio Olwynion i Bawb Casnewydd ar y cyd â'n partneriaid Casnewydd Fyw a Cycling Projects.

"Rydym yn gyngor sydd wedi ymrwymo i gynyddu mynediad i hamdden yn y ddinas. Mae'r rhaglen hon, ynghyd â'n gwaith ar y llwybr teithio llesol newydd, yn gwneud Parc Tredegar yn ddewis deniadol i feicwyr o bob gallu.

"Dylai pob un o'n trigolion allu elwa o deithio llesol a chyfleoedd hamdden. Rwy'n falch ein bod yn gallu cynyddu'r cyfleoedd hynny trwy'r rhaglen gynhwysol hon."

Dywedodd John Harrhy, Cadeirydd Casnewydd Fyw, "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd ar y prosiect gwych hwn. Bydd Olwynion i Bawb Casnewydd yn galluogi mwy o drigolion Casnewydd i gadw’n heini a mwynhau beicio cynhwysol wrth gael hwyl ar yr un pryd. Hoffwn ddiolch i Cycling Projects am eu cefnogaeth a'u harweiniad wrth gyflwyno'r rhaglen hon i Barc Tredegar."

Dywedodd Ian Tierney, Prif Swyddog Gweithredol Cycling Projects, "Mae’r bartneriaeth rhwng Casnewydd Fyw, Cycling Projects a Chyngor Dinas Casnewydd wedi bod ar daith gyffrous gyda'i gilydd i greu cynnig beicio cynhwysol i gymunedau Casnewydd. Bu’n bleser bod yn rhan o'r fenter gyffrous hon a fydd yn rhoi cyfle i bobl o bob gallu feicio a chadw’n heini ar eu telerau nhw. Dymunwn bob llwyddiant i Olwynion i Bawb Casnewydd ac edrychwn ymlaen at barhau â'n partneriaethau gwaith am flynyddoedd lawer i ddod."

Am fwy o wybodaeth ewch i www.newportlive.co.uk/wheelsforall