
Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn falch iawn o gydweithio gyda Catherine Dyson, Hannah McPake a Dyfan Jones i ddod â drama newydd gyda chaneuon o'r enw Bitcoin Boi i theatr stiwdio Glan yr Afon ym mis Gorffennaf.
I gyd yn adnabyddus i gynulleidfaoedd Glan yr Afon am eu rhan mewn cynyrchiadau eraill yn y lleoliad, mae Catherine Dyson (Transporter), Dyfan Jones (Robin Hood) a Hannah McPake (Gagglebabble), ynghyd â chast o berfformwyr talentog o Gymru yn gweithio gyda'i gilydd am y tro cyntaf i ddod â Bitcoin Boi yn fyw.
Mae tîm Glan yr Afon wedi cefnogi Bitcoin Boi o gychwyn y prosiect. Dechreuodd Catherine, Hannah a Dyfan eu gwaith yn 2020 ac ers hynny maent wedi dod â thîm medrus iawn at ei gilydd i ddod â'r cynhyrchiad yn fyw.
Mae hi’n gyfnod anodd ac mae’r awyr yn llwyd, ac mae'n frwydr ddyddiol i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae Jade a'i mam Crystal yn breuddwydio am fywyd gwell - y bywyd gafodd ei addo iddyn nhw gan dad Jade, cyn iddo ddiflannu. Tra bod Jade wrthi’n hela ffortiwn ddychmygol mewn gêm fideo, mae Crystal yn cael ei hudo gan gynnig dieithryn dirgel sydd wedi dod i'r dref. Yn y cysgodion, mae Heliwr Bownti yn llechwra. Wrth i'r noson ddatblygu, rhaid i'r ddwy wynebu colled a hiraeth, a dod o hyd i'w ffordd adref.
Yn rhannol yn stori dylwyth teg fodern ac yn rhannol yn ymgais i hyrwyddo iwtopia crypto newydd, mae'r stori hon sydd wedi’i chreu yng Nghasnewydd yn archwilio themâu galar, gobaith a gwir bris y breuddwydion a gaiff eu gwerthu i ni.
Maen nhw'n dweud na allwch chi roi pris ar fywyd da. Maen nhw'n anghywir.
Mae'r ddrama'n cynnwys caneuon a gyfansoddwyd gan Dyfan Jones gyda geiriau gan Catherine Dyson, wedi'u hysbrydoli'n drwm gan gerddoriaeth electro yr 80au a dechrau'r 90au. Dyluniwyd y ddrama gan Ashley Phillps a Mari Hullett, gyda’r dyluniad goleuadau gan Joe Price, a’r dyluniad delweddau / tafluniadau gan Nic Finch.
Mae Glan yr Afon yn edrych ymlaen at gynnal nosweithiau hwyl allan i gynulleidfaoedd, gyda stori afaelgar, caneuon gwych ac elfennau gweledol dyfeisgar. Addas i bawb 12+ oed (gweler gwefan Glan yr Afon ar gyfer unrhyw rybuddion cynnwys).
Dywedodd yr awdur, Catherine Dyson a'r Cyfarwyddwr, Hannah McPake, 'Rydym wrth ein bodd o fod yn creu'r sioe hon gyda Glan yr Afon, yn enwedig fel y sioe gyntaf yn eu rhaglen Reflekt, gan gyflwyno'r stori gyffrous hon sydd wedi’i chreu yng Nghasnewydd.'
Bydd Bitcoin Boi ar y llwyfan yng Nglan yr Afon o ddydd Iau 27 – 29 Gorffennaf a bydd yn symud i The Met yn Abertyleri ar gyfer perfformiadau ar 1 a 2 Awst.
Hoffai Theatr Glan yr Afon a’r tîm creadigol y tu ôl i Bitcoin Boi ddiolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am ei gyllid a’i gymorth ac am wneud y cynhyrchiad yn bosibl.