Rydym yn chwilio am actor/canwr i ymuno â chast 'Bitcoin Boi', sef drama newydd gyda cherddoriaeth a ysgrifennwyd gan Catherine Dyson ac sy’n cael ei chyfarwyddo gan Hannah McPake, gyda cherddoriaeth gan Dyfan Jones. Mae 'Bitcoin Boi' yn gydgynhyrchiad gyda Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn dilyn camau ymchwil a datblygu llwyddiannus, rydym wrth ein boddau i fod wedi cwblhau creu’r sioe a byddwn yn agor y cynhyrchiad llawn yng Nghanolfan Glan yr Afon a Met Abertyleri yr haf hwn.

Ynglŷn â’r sioe

Mae hi’n gyfnod anodd ac mae’r awyr yn llwyd, ac mae'n frwydr ddyddiol i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae Jade a'i mam Crystal yn breuddwydio am fywyd gwell - y bywyd gafodd ei addo iddyn nhw gan dad Jade, cyn iddo ddiflannu. Tra bod Jade wrthi’n hela ffortiwn ddychmygol mewn gêm fideo, mae Crystal yn cael ei hudo gan gynnig dieithryn dirgel sydd wedi dod i'r dref. Yn y cysgodion, mae Heliwr Bownti yn llechwra. Wrth i'r noson ddatblygu, rhaid i'r ddwy wynebu colled a hiraeth, a dod o hyd i'w ffordd adref. 

Yn rhannol yn stori dylwyth teg fodern ac yn rhannol yn ymgais i hyrwyddo iwtopia crypto newydd, mae'r stori hon sydd wedi’i gosod yng Nghasnewydd yn archwilio themâu galar, gobaith a gwir bris y breuddwydion a gaiff eu gwerthu i ni. 

Maen nhw'n dweud na allwch chi roi pris ar fywyd da.  Maen nhw'n anghywir. 

Am bwy rydym yn chwilio.

Rydym yn chwilio am actor o unrhyw rywedd sydd â sgiliau canu cryf ac sy'n byw’n lleol. Oedran chwarae 18 – 55 i ymuno â'n cast ensemble.  Rydym yn croesawu ceisiadau yn arbennig gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a/neu ar gyrion y gymdeithas gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i artistiaid Du, Asiaidd neu ethnig amrywiol, a/neu anabl.

Dyddiadau a ffioedd allweddol

Ffi: £500 yr wythnos a £150 y dydd am bob diwrnod ychwanegol

Dyddiadau Glan yr Afon Casnewydd: 

Ymarferion yr wythnos sy’n dechrau ar 26 Mehefin, yn dechrau ar 3 Gorffennaf, yn dechrau ar 10 Gorffennaf ac yn dechrau ar 17 Gorffennaf

Cynhyrchiad yr wythnos sy’n dechrau ar 24 Gorffennaf 2023

Dyddiadau Met Abertyleri:

1 a 2 Awst 2023

Gellir anfon ceisiadau at jamie.anderson@newportlive.co.uk a byddant yn cael eu trosglwyddo i'r tîm creadigol. Os ydych eisoes wedi mynegi diddordeb yn y rôl, nid oes angen i chi gysylltu.  Bydd detholiadau sgript yn cael eu hanfon ymlaen Ddydd Mercher 10 Ebrill 2023.

Clyweliad hunan-dâpio fydd hwn.

Dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb: Dydd Llun 8 Mai 2023.

Bydd detholiadau sgript yn cael eu hanfon allan Ddydd Mercher 10 Ebrill 2023

Dyddiad cau ar gyfer tapiau gan gynnwys detholiadau a chân, Dydd Gwener 12 Ebrill 2023.'

Bitcoin Boi Logo.jpg