Y Diweddariad ar Coronafeirws - 25 Mawrth

Oherwydd y sefyllfa sydd ohoni gyda’r coronafeirws, mae lleoliadau Casnewydd Fyw bellach ar gau ac ni fyddant ar agor i'r cyhoedd nes bod y Llywodraeth yn cyhoeddi canllawiau yn dweud ei bod yn ddiogel gwneud felly.

Oherwydd ein gweithlu llai a mynediad cyfyngedig at ein systemau, o Ddydd Iau 26 Mawrth 2020, ni fydd llinellau ffôn Casnewydd Fyw ar gael oni chlywir yn wahanol.

Os bydd angen i chi gysylltu ag aelod o’r tîm Casnewydd Fyw, anfonwch e-bost at enquiries@newportlive.co.uk a bydd rhywun yn dod yn ôl atoch cyn gynted ag y bo modd.

Mae cyfryngau cymdeithasol Casnewydd Fyw yn cael ei fonitro ar sail lai.

Yn ystod ein cyfnod ar gau, caiff unrhyw aelodaethau gan gynnwys iechyd a ffitrwydd, tennis neu raglen nofio integredig neu wersi nofio gyda Chasnewydd Fyw eu rhewi’n awtomatig ac ni chymerir taliadau debyd uniongyrchol.

Cysylltwyd â chwsmeriaid sydd â thocynnau i berfformiadau i ddod yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon drwy e-bost a ffôn. Os nad ydych wedi clywed gennym eto, gellir dod o hyd i fwy o fanylion yma

Gofynnwn am eich amynedd a'ch dealltwriaeth ar hyn o bryd. Mae eich holl adborth cadarnhaol wedi ein calonogi’n fawr, ac rydym yn hynod ddiolchgar. Diolch o galon i chi gyd ac edrychwn ymlaen at yr adeg y gallwn eich croesawu yn ôl i Gasnewydd Fyw.