Bob mis Mawrth, mae pobl ledled y byd yn dod at ei gilydd i ddathlu cyflawniadau menywod ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac i dynnu sylw at y newid sydd ei angen o hyd i sicrhau cydraddoldeb i fenywod.
Unwaith eto eleni, bydd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon Casnewydd yn cynnal diwrnod o ddigwyddiadau am ddim lle mae croeso i bawb ddod at ei gilydd i fwynhau perfformiadau, cymryd rhan mewn gweithdai a chael eu hysbrydoli gan arwyr lleol i nodi'r dathliad byd-eang hwn.
Ochr yn ochr â gŵyl flynyddol Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ddydd Sadwrn 5 Mawrth, mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon a Chasnewydd Fyw hefyd yn gyffrous i gynnal cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol mis Mawrth lle mae menywod cryf ac ysbrydoledig yn arwain y ffordd ac yn camu i'r sbotolau.
Yn gyntaf, digwyddiad am ddim ddydd Gwener 5 Mawrth, sy'n adrodd stori radical menyw flaenllaw, swffragydd, diwydiannwr a dyngarwr: The Many Lives of Amy Dilwyn. Mae'r sioe hon, a ysgrifennwyd o eiriau Amy ei hun fel y gwelir yn ei dyddiaduron, yn adrodd hanes ei bywyd anturus gan ddechrau fel merch i AS radical o Abertawe y’i thynghedwyd i ddod yn wraig a mam i'r gwneuthurwr newid arloesol a oedd cyn ei hamser. Byddem yn falch iawn o'ch croesawu i'r perfformiad. Mae lleoedd am ddim ond yn gyfyngedig, felly sicrhewch eich bod yn archebu eich tocyn ymlaen llaw.
Gall teuluoedd ddod draw i fwynhau Flossy and Boo: The Girl Who Couldn’t Pretend. Bydd llawer yn adnabod Flossy and Boo fel y cwmni theatr cyffrous o fri o Dde Cymru sy’n cael ei arwain gan fenywod ac sydd wedi dod yn ffefryn yma yn Theatr Glan yr Afon ymhlith pobl o bob oed oherwydd ei frand hudolus o adrodd straeon. Y tro hwn mae Flossy and Boo yn dychwelyd gyda stori antur chwim am ferch sy'n ceisio dod o hyd i'w dychymyg. Yn llawn cerddoriaeth fyw a gwreiddiol, cymeriadau hwyl a chyfle i ryngweithio, mae'r sioe hon yn gyfle perffaith i bobl fach ymgolli yn harddwch theatr fyw. Mae'r holl docynnau ar gyfer y sioe hon, sy'n cael ei chynnal ddydd Sul 6 Mawrth, eisoes wedi’u gwerthu! Os oes gan aelodau’r gynulleidfa docynnau, ond nad ydynt bellach yn gallu dod i’r digwyddiad, fe'u cynghorir i gysylltu â Glan yr Afon fel y gellir rhoi’r tocynnau hynny i deulu arall.
Mae Krystal S. Lowe, ffefryn arall yn Theatr Glan yr Afon oherwydd ei gyrfa helaeth yn perfformio gyda Ballet Cymru a Theatr Iolo ochr yn ochr â pherfformiadau o'i gwaith ei hun, yn dychwelyd y mis hwn gyda darn newydd sbon There’s Room For Me Too. Mae Krystal yn creu perfformiadau diddorol a beiddgar sy'n mynd i'r afael â materion cyfoes pwysig. Ar gyfer y perfformiad hwn, mae Ffion Campbell-Davies, artist amlddisgyblaethol a anwyd ac a godwyd yng Nghymru, a chyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain yn ymuno â Krystal.
Mae There’s Room For Me Too yn ddatganiad dwyieithog ar gyfer tegwch a grymuso yn y sector celfyddydau; stori llawer o bobl a adroddir drwy lais un person ydyw. Trwy eiriau a symudiad mae Krystal a Ffion yn rhannu eu gweledigaeth ar gyfer y sector maen nhw'n ei garu.
Cynhelir y perfformiad hwn ddydd Sadwrn 12 Mawrth, 6.30pm. Mae tocynnau yn £10 ac mae consesiynau ar gael. Bydd yr elw a godir o werthu tocynnau i'r perfformiad hwn yn mynd tuag at ariannu bwrsariaethau ar gyfer artistiaid sy’n ystyried eu hunain yn fenywaidd o’r Global Majority.
Bydd pob 'Bwrsariaeth Ein Llais' yn cynnig wythnos o le (gweithle a/neu ofod stiwdio), mentora, a £500, yn ogystal â'r cyfle i rwydweithio o fewn y sector celfyddydau a, thrwy gysylltiad â'r Rhwydwaith Cydraddoldeb i Fenywod, y cyfle i ryngweithio â menywod mewn swyddi arweiniol yng Nghymru hefyd.
Ddiwedd mis Mawrth bydd dau berfformiad o Josephine. Mae'r sioe hon yn archwilio stori ryfeddol Josephine Baker: perfformiwr, ysbïwr ac ymgyrchydd hawliau sifil. Gyda sgôr nwydus wedi’i hysbrydoli gan Ddadeni Harlem, dawnsio chwim Charleston a llond llaw o ffigyrau hanesyddol, mae Josephine yn cymysgu’r gwir gyda'r dychmygol wrth i gynulleidfaoedd ddilyn taith anhygoel un fenyw o slymiau St Louis drwy oleuadau llachar Paris ac i galonnau'r byd.
Daw i'r llwyfan ddydd Llun 21 Mawrth ac mae gan y cyntaf o'r sioeau 60 munud gynulleidfa wahoddedig o ddisgyblion ysgol lleol fydd yn dod draw i fwynhau'r perfformiad am ddim! Mae'r ail yn berfformiad cyhoeddus sy'n dechrau am 6.30pm.
I gael rhagor o wybodaeth a manylion am y digwyddiadau hyn a'r cyfan sy'n digwydd yn Theatr Glan yr Afon drwy gydol mis Mawrth, ewch i casnewyddfyw.co.uk/Riverfront ac i gael gwybodaeth am ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ewch i casnewyddfyw.co.uk/IWD.