Performer Krystal S Lowe crouching on The Riverfront's stage

Y mis Mawrth hwn mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn falch iawn o fod yn cefnogi'r perfformiwr lleol Krystal S Lowe wrth iddi gyflwyno ei darn newydd There’s Room for Me Too am y tro cyntaf yng Nglan yr Afon ddydd Sadwrn 12 Mawrth.

Mae There’s Room For Me Too yn ddatganiad dwyieithog dros degwch a grymuso yn y sector celfyddydau. Stori llawer o bobl ydyw a adroddir trwy lais dau berson. Trwy eiriau a symudiad mae Krystal S. Lowe a Ffion Campbell-Davies yn rhannu eu gweledigaeth ar gyfer y sector maen nhw'n dwlu arno. Bydd y perfformiad yn cael ei ddehongli trwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain.

Bydd yr elw a godir o werthu tocynnau i'r perfformiad hwn yn mynd tuag at ariannu o leiaf dwy fwrsariaeth ar gyfer artistiaid o'r Mwyafrif Byd-eang sy’n ystyried eu hunain yn fenywaidd.

Bydd pob 'Bwrsariaeth Ein Llais' yn cynnig wythnos o le (lle gweithio a/neu le stiwdio), mentora gyda chymorth gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, £500, a’r cyfle i rwydweithio o fewn sector y celfyddydau.

Dywedodd Krystal S Lowe, 'Mae There’s Room for Me Too yn waith sydd mor agos ata i. Rwyf wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn dwyn ynghyd brofiadau menywod Du yn y celfyddydau i ysgrifennu'r gerdd/araith/datganiad hwn. Nid yw'r gwaith hwn yn ymwneud â mi a'm profiadau yn unig ond casgliad o brofiadau o allgáu. Fy ngobaith yw y bydd y gwaith hwn yn gwneud mwy na thaflu goleuni ar allgáu yn sector y celfyddydau ond y bydd yn sbarduno trafodaethau a chamau i hyrwyddo newid.

Rwy'n hynod ddiolchgar i'r tîm creadigol a'r sefydliadau sydd wedi fy nghefnogi'n ddihunan yn y gwaith hwn.

Trwy ffioedd tocynnau a rhoddion ariannol, ein nod yw gallu cynnig bwrsari i o leiaf ddau artist o’r Mwyafrif Byd-eang sy’n ystyried eu hunain yn fenywaidd i gymryd cam bach tuag at ail-gydbwyso'r annhegwch yn y sector.’

Ar y sioe, mae Rhaglennydd Glan yr Afon Leah Roberts yn ychwanegu 'Rydym yn llawn cyffro i fod yn cefnogi Krystal gyda'r sioe hon. Mae Krystal wedi perfformio yng Nglan yr Afon nifer o weithiau yn y gorffennol gyda sioeau Ballet Cymru a Theatr Iolo a'i gwaith ei hun yn ein digwyddiadau Sblash Mawr ac Yn Fyw yng Nglan yr Afon. Mae hwn yn ddarn hollol wych o waith yr ydym wedi bod yn ffodus o fod wedi gweld pytiau ohono wrth i Krystal weithio arno ac yn awr rydym yn aros i'w berfformio'n llawn yma yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae There’s Room for Me Too yn cael ei gynnal yn Theatr Stiwdio Glan yr Afon ddydd Sadwrn 12 Mawrth, 6.30pm. Mae tocynnau ar gael nawr trwy ffonio 01633 656757 neu ar-lein yn https://www.newportlive.co.uk/en/events/c98dc618-1f89-ec11-80e5-00505601006a/