Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn falch iawn o fod yn rhan o Celf ar y Bryn unwaith eto, a gynhelir eleni rhwng 26 a 28 Tachwedd. Bob blwyddyn ym mis Tachwedd mae’r ŵyl benwythnos hon yn dathlu cymuned greadigol Casnewydd a’i gwaith.

Ar ôl cefnogi'r ŵyl yn ddigidol y llynedd gyda thaith wedi’i ffrydio’n fyw o’r celfwaith ledled Casnewydd, gan gynnwys yn ffenestri Glan yr Afon, mae’r ganolfan gelfyddydau yn falch iawn o allu cyflwyno rhaglen llawn gweithgareddau wyneb yn wyneb eleni.

Mae'r rhaglen benwythnos yn cael ei lansio'n swyddogol yng Nglan yr Afon ddydd Gwener 26 o 6pm gyda cherddorion a pherfformwyr lleol yn perfformio ar lwyfan y cyntedd yn rhan o'r digwyddiad misol am ddim, Yn Fyw yng Nglan yr Afon. Mae'r digwyddiad Yn Fyw yng Nglan yr Afon arbennig hwn yn canolbwyntio ar gefnogi talent leol yn ein hardal, a bydd y perfformwyr yn cynnwys y chwaraewr ffidil Kat Batchelor, y canwr gwerin acwstig Ronnie 3 Chords ac enillydd Open Mic UK 2021 Josh Hicks.

Mae Sally-Anne Evans, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Glan yr Afon a threfnydd gweithgareddau Celf ar y Bryn yng Nglan yr Afon, yn dweud: "Mae mor gyffrous i fod yn agor penwythnos Celf ar y Bryn eleni gyda noson o gerddoriaeth a pherfformio byw. Gwyddom fod cynifer o bobl dalentog yn ein hardal leol ac mae'r noson hon yn cynnwys artistiaid a ymatebodd i’n galwad ar y cyfryngau cymdeithasol; rydym yn falch iawn o fod yn rhoi iddynt eu cyfle cyntaf i berfformio yng Nglan yr Afon. Rydym yn enwog am ein marchnadoedd crefftau Celf ar y Bryn ar ddydd Sadwrn sy'n cynnwys cynifer o anrhegion perffaith gan stondinwyr talentog. Yn bendant, collwyd y farchnad hon gan y gymuned y llynedd, felly gobeithiwn y bydd un eleni'n well nag erioed!'

Bydd Glan yr Afon yn rhoi llwyfan i artistiaid a gwneuthurwyr crefftau lleol gyda marchnad grefftau am ddim ar draws ardal cyntedd y theatr ar y dydd Sadwrn rhwng 11am a 4pm. Bydd amrywiaeth o grefftau gwych o waith llaw ar gael i’w prynu cyn tymor yr ŵyl. Bydd yr arddangoswyr yn cynnwys Inside Out Cymru yn gwerthu eitemau bach gan gynnwys gemwaith gwifren ac addurniadau gleiniau a gwaith crosio Mae eu heitemau wedi'u gwneud gan aelodau o’u dosbarth crefftau wythnosol yng Nglan yr Afon, gyda'r holl elw'n cael ei roi yn ôl i'r gweithdai hyn yn y dyfodol.

Ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul, bydd Glan yr Afon yn cynnal amrywiaeth o weithdai am ddim ac y telir amdanynt i bobl o bob oedran. Gall pobl ifanc gymryd rhan mewn Gweithdai Ysgrifennu Dramâu am ddim gan Theatr Iolo. Mae'r sesiynau, a gyflwynir yn y Gymraeg ac yn y Saesneg, yn annog dychymyg plant i adrodd straeon ac ystyried themâu y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt. Mae'r gweithdai hyn yn rhan o weithgareddau Dydd Sadwrn Teg Theatr Iolo i hyrwyddo byd sy'n fwy rhinweddol, teg ac ymwybodol o anghenion pobl trwy'r celfyddydau a diwylliant. I oedolion mae gweithdai Ffeltio â Nodwyddau i greu broetsh adar unigryw gyda'r artist Ruth Packham; a Sesiwn Symud Gofalgar a fydd yn eich arwain drwy gyfres o ymarferion symud a chelf weledol ysgafn, gan ymgorffori'r elfennau sy'n cyd-fynd â'r tymhorau a natur.

Drwy gydol y penwythnos a hyd at ddiwedd y mis, mae Oriel Mesanîn Glan yr Afon yn arddangos yr Archif Posteri Esgidiau Coch. Wedi'i guradu gan Shaun Featherstone, mae'r archif posteri radical hon a arweinir gan artistiaid yn cynnwys amrywiaeth o bosteri sy'n cynrychioli amrywiaeth eang o faterion cyfiawnder cymdeithasol. Nod yr archif yw helpu i ddiogelu hanes cymdeithasol mudiadau ac ymgyrchoedd sy'n cael eu pweru gan bobl drwy gasglu ac arddangos delweddau ysbrydoledig sy'n adlewyrchu anawsterau cyfoes a hanesyddol ar gyfer newid cymdeithasol cynyddol a chydraddoldeb.  

Yn ogystal â'r arddangosfa hon na ellir ei cholli, mae’r darn 'May Love Be What You Remember Most' gan CONSUMERSMITH yn cael ei arddangos gyda phrintiau o'r darn ar gael i'w prynu. Gyda’r ganolfan yn elusen gofrestredig, bydd gwerthu'r printiau hyn yn helpu Glan yr afon i ariannu prosiectau yn y dyfodol gydag artistiaid a'r gymuned i ddod â mwy o bobl at ei gilydd i fwynhau'r celfyddydau a chreadigrwydd.

Dywedodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Casnewydd Fyw sy'n rhedeg Glan yr Afon "Allwn ni ddim aros i fod yn rhan o'r ŵyl gelf wych hon unwaith eto. Mae'n wych y gallwn groesawu pobl yn ôl i'r theatr wyneb yn wyneb i gymryd rhan a mwynhau cerddoriaeth a gweithdai byw am ddim. Mae Casnewydd yn ddinas mor fywiog gyda chynifer o sefydliadau ac artistiaid diwylliannol gwych. Byddwn yn annog pawb i gymryd rhan yn y gweithgareddau sy'n digwydd ledled Casnewydd yn ystod gŵyl Celf ar y Bryn."

Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sy'n digwydd yng Nglan yr Afon yn ystod penwythnos Celf ar y Bryn drwy ddilyn y lleoliad ar y cyfryngau cymdeithasol (Glan yr Afon / @riverfrontarts) neu drwy fynd i’r dudalen we https://www.newportlive.co.uk/cy/Theatr-a-Chelfyddydau/Oriel-Gelf/. Mae amrywiaeth o weithgareddau eraill yn digwydd ledled y ddinas ar gyfer Celf ar y Bryn. Gallwch ddysgu mwy am hyn drwy ddilyn Celf ar y Bryn ar y cyfryngau cymdeithasol yn @aoth_np20.