Bilingual Black History Month wording over a green, red and yellow background

Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn falch o fod yn gweithio gyda Caribbean Heritage Cymru ac Urban Circle i ddathlu Hanes a Diwylliant Pobl Dduon ddydd Gwener 29 Hydref mewn digwyddiad Yn Fyw yng Nglan yr Afon ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon.

Yn perfformio yn y digwyddiad am ddim bydd y cerddor o Gasnewydd, Matthew Scott, sydd â dros 30 mlynedd o brofiad yn teithio'n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd ei berfformiad yn cymysgu canu enaid, ffync a’r felan.

Hefyd yn perfformio drwy gydol y noson bydd pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol talentog o Urban Circle, sefydliad elusennol celfyddydau ieuenctid annibynnol Casnewydd sydd wedi gweithio ym maes celfyddydau gyda phobl ifanc ers dros 10 mlynedd. 

Wrth siarad am y noson, dywedodd Sally-Anne Evans, swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Glan yr Afon "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad Yn Fyw yng Nglan yr Afon hwn wrth i ni ganolbwyntio ar Hanes a Diwylliant Pobl Dduon.  Mae ein partneriaid, Caribbean Heritage Cymru ac Urban Circle yn creu gwaith gwych ac edrychwn ymlaen at noson wych o ddathlu.   Bydd Matthew Scott yn bendant yn creu cyffro ac mae gweld talent anhygoel drwy Urban Circle bob amser yn bleser.  Mae'n rhoi cyfle i bobl ddod at ei gilydd i ddathlu ond hefyd i fyfyrio ar yr hyn y mae angen i ni ei wneud er mwyn parhau i symud ymlaen gyda chamau cadarnhaol i sicrhau cyfle cyfartal." 

Dywedodd Marilyn Bryant-Jones, Cadeirydd Caribbean Heritage Cymru y canlynol am y noson "Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu gyda'n ffrindiau a'n cymuned. Dewch i ymuno â ni wrth i ni ddod at ein gilydd i fwynhau cerddoriaeth wych. Byddwn hefyd yn rhoi Gwobr Arbennig i swyddog cymorth cymunedol sydd wedi gwneud mwy na’r gofyn yn ei waith."

Dywedodd Loren Morris o Urban Circle "Mae ein pobl ifanc wedi bod yn brysur yn ymarfer ac mae gennym dalent anhygoel yng Nghasnewydd. Maent wedi gweithio'n galed ar rai o'n digwyddiadau hyfforddi drwy gydol y pythefnos diwethaf ac mae hyn yn rhoi cyfle i ddathlu a rhannu gyda'n cymunedau."

Mae Yn Fyw yng Nglan yr Afon yn ddigwyddiad cerddoriaeth, barddoniaeth a pherfformio byw am ddim a gynhelir ar lwyfan cyntedd llawr gwaelod Theatr Glan yr Afon ddydd Gwener olaf pob mis rhwng 6 a 10pm. Mae'r sesiynau hyn yn dathlu ac yn hyrwyddo cerddorion a pherfformwyr lleol ac yn rhoi cyfle iddynt berfformio o flaen cynulleidfa mewn lle hamddenol ac anffurfiol. Ymhlith perfformwyr y gorffennol mae Krystal S Lowe, Niques, Selena Jerome, The Honest Poet, Wahda Placide ac Araby.

Hefyd, bydd Theatr Glan yr Afon yn dangos rhaglen ddogfen cerddorol Summer of Soul (… Or When The Revolution Could Not Be Televised) ddydd Iau 28 Hydref i ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon. Mae Ahmir “Questlove” Thompson, wrth ddangos ei ddarn cyntaf o waith fel gwneuthurwr ffilmiau’n cyflwyno rhaglen ddogfen bwerus ac ysbrydoledig sy’n hanner ffilm gerddorol ac yn hanner cofnod hanesyddol sy’n seiliedig ar ddigwyddiad epig yn dathlu hanes, diwylliant a ffasiwn pobl dduon.

Mae Yn Fyw yng Nglan yr Afon yn parhau ddydd Gwener 26 Tachwedd gyda noson arbennig yn nodi dechrau penwythnos Celf ar y Bryn a dydd Gwener 17 Rhagfyr gyda digwyddiad Nadoligaidd. Gallwch weld popeth sy'n dod yn Theatr Glan yr Afon, gan gynnwys Yn Fyw yng Nglan yr Afon a'r rhaglen sinema lawn yn https://www.newportlive.co.uk/cy/lleoliadau/Canolfan-Theatr-a-Chelfyddydau-Glan-yr-Afon/.