Mae’n bleser gan Lan yr Afon gyhoeddi galwad ar gyfer COMISIYNAU CREADIGOL, sy’n cynnig 3 chyfle i grewyr ifanc (18-25 oed) neu artistiaid sy'n gweithio gyda grwpiau o bobl 16-25 oed, sy'n byw a/neu'n gweithio'n lleol i'r ganolfan gelf ddatblygu corff o waith sy'n ymateb i themâu sy’n rhan o brosiect Llwybr Arfordir Cymru (Y Dyfodol).

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:12 Gorffennaf

Cyfnod hysbysu:15 Gorffennaf

Dechrau'r prosiect: 29 Gorffennaf

Nifer y Comisiynau sydd ar gael: 3

Ffi Broffesiynol: £1500

Sefydliad cynnal: Canolfan Gelf Glan yr Afon / Casnewydd Fyw

Lleoliad: Gall artistiaid ddewis gweithio gartref neu yn eu stiwdio eu hunain gyda chefnogaeth staff Glan yr Afon / Casnewydd Fyw ar-lein, o’n lleoliadau, neu gyfuniad o'r ddau.

 

YNGLŶN Â’R PROSIECT

Llwybr Arfordir Cymru (Y Dyfodol) - https://futurecoastpath.org/about/

Mae Llwybr Arfordir Cymru (Y Dyfodol) yn gyfres flwyddyn o hyd o ddigwyddiadau a gosodiadau creadigol yn archwilio'r effaith y gallai codiad yn lefel y môr ei chael ar arfordir Cymru, a'n perthynas â thir a dŵr.

Mae arweinydd y prosiect, Alison Neighbour, wrthi'n datblygu'r prosiect hwn yng Nghasnewydd a Magwyr ar hyn o bryd, yn creu mapiau, sgorau cerdded, a chanllaw gyda'r gymuned leol, yn ogystal â chysylltu â chymuned yn Sundarbans India mewn cydweithrediad â'r coreograffydd Vikram Iyengar. Cynhaliwyd cam cyntaf y gweithgaredd ym mis Chwefror 2022. Bydd goleudai'n cael eu gosod yng Nghasnewydd a Magwyr rhwng mis Ebrill a mis Hydref 2022 a bydd gweithgareddau cyhoeddus ychwanegol yn cael eu cynnal ym mis Ebrill, Mai, Gorffennaf, Medi a Hydref 2022.

 

Y Comisiwn Creadigol

Mae'r Comisiwn Creadigol ar gyfer cyfnod ymchwil a datblygu â ffocws i gynhyrchu ymateb Creadigol i themâu wedi’u hysgogi gan Lwybr Arfordir Cymru (Y Dyfodol) ac Ymwybyddiaeth o Newid yn yr Hinsawdd. Bydd y gwaith a gynhyrchir o'r prosiect hwn yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn ogystal ag ar-lein.

Mae'r cyfle'n agored i artistiaid sy'n gweithio ar unrhyw ffurf ar gelfyddyd ac er nad yw'n orfodol, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn artistiaid a syniadau sy'n ymateb mewn rhyw ffordd i ddŵr, y tir a mapio lleoedd – er enghraifft, drwy gysylltiadau â phobl, hanesion, tirwedd, natur unigryw arall y lleoedd a'r cymunedau yr ydym yn rhan ohonynt neu’r hyn y mae pobl yn angerddol drosto.

Er mwyn gwneud y cyfle hwn mor hygyrch â phosibl, byddwn yn cynnig hyn fel preswyliad hybrid, sy'n golygu y gall artistiaid ddewis gweithio o gartref neu eu gofodau stiwdio eu hunain, o ofod yn ein lleoliad, neu gyfuniad o'r ddau.

Gall unigolion, cydweithrediadau neu gydweithredfeydd wneud cais a rhaid iddynt fod wedi'u lleoli yn un o'r ardaloedd sy'n gysylltiedig â Gwastadeddau Gwent (sef Casnewydd, Tor-faen, Sir Fynwy a Chaerdydd).

 

CYMORTH

  • Bydd pob artist, cydweithredfa neu gasglwr gaiff eu dethol yn derbyn ffi o £1500 a delir mewn dau randaliad.

  • Cyfleusterau ein hadeilad gan gynnwys gofod stiwdio ac ymarfer.

  • Amser staff i gefnogi eich ymchwil (e.e. sesiynau mentora ac adborth, brocera perthnasoedd â chymunedau neu gymorth gyda cheisiadau am gyllid).

  • Rydym hefyd yn cynnig sesiynau lle gall yr Artistiaid a ddetholir  gwrdd a rhannu syniadau a meddyliau fel rhan o rwydwaith cyfoedion.

 

SUT I WNEUD CAIS:

Yn y ffurflen gais gofynnwn i chi rannu’r canlynol gyda ni:

  • Sut y byddwch yn defnyddio'r cyfle hwn (eich syniad ymchwil); sut y bydd yn datblygu eich ymarfer; a pha gymorth perthnasol rydych chi'n meddwl y gallwn ei ddarparu (300-500 o eiriau)

  • Eich bywgraffiad gydag enghreifftiau o'ch gwaith blaenorol (delweddau, fideos, ffeiliau sain, testunau ysgrifenedig)

  • Eich CV (dewisol)

  • Croesewir ffeiliau sain neu fideo fel dewis amgen i gais ysgrifenedig ond rhaid iddynt fod o fewn 8 munud o hyd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill neu os hoffech awgrymu ffordd o wneud y broses hon yn fwy hygyrch, cysylltwch â Danielle Rowlands - Swyddog Addysg Casnewydd Fyw drwy danielle.rowlands@newportlive.co.uk ​​​​