Rhys Thomas and Matthew Creel.jpg

Mae tîm Dyfodol Cadarnhaol Casnewydd Fyw yn gweithio gydag elusen newydd, Tidy Butt, i gefnogi eraill i oresgyn heriau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.

Mae cyn-chwaraewr Rygbi Cymru rhyngwladol, Rhys Thomas, yn gennad Tidy Butt ac yn gweithio ar y cyd â’r sylfaenydd Matthew Creel i hyrwyddo’u neges am iechyd meddwl, gan godi ymwybyddiaeth a rhannu dulliau o gefnogaeth y gallent nhw gynnig i grwpiau.

Ddoe, yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, rhannodd Rhys ei stori bwerus yn cyfeirio at ei broblemau iechyd meddwl ei hun a’i gaethiwed i sylweddau o flaen cynulleidfa a wahoddwyd o sectorau chwaraeon, iechyd a chymunedol i ddeall sut mae’r sefydliadau hynny’n gallu cael gafael ar gymorth ar gyfer pobl ifanc ac oedolion sy’n ymgysylltu â’u rhaglenni, yn ogystal â staff sy’n gweithio yn y sector.

Mae Tidy Butt yn canolbwyntio ar heriau iechyd meddwl y gallwn ni i gyd eu hwynebu, yn enwedig dynion rhwng 16 a 40 oed, ac maent yn edrych ar gynyddu eu cynnig a gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion ledled Casnewydd a Gwent a allai elwa o drafod eu hiechyd meddwl a’u strategaethau ymdopi. 

Cynhaliwyd y digwyddiad a’i chefnogi gan dîm Dyfodol Cadarnhaol Casnewydd Fyw. Mae Dyfodol Cadarnhaol yn rhaglen cynhwysiant cymdeithasol sy'n seiliedig ar chwaraeon ac a gyflwynwyd yng Nghasnewydd dros y 14 mlynedd diwethaf. Mae'r rhaglen yn defnyddio chwaraeon fel cyfrwng i ymgysylltu â phobl ifanc, yn bennaf y rhai 10-19 oed, o fewn cymunedau mewn cyfleusterau cymunedol lleol, a thrwy broses atgyfeirio gan amrywiaeth o asiantaethau partneriaeth.

Dywedodd Lucy Donovan, Swyddog Datblygu Dyfodol Cadarnhaol: “Rydyn ni ar hyn o bryd yn gweithio mewn partneriaeth â Tidy Butt, elusen sydd newydd gael ei sefydlu gyda’r nod o gefnogi pobl ifanc ac oedolion gyda’u hiechyd meddwl. Hoffem roi llwyfan iddyn nhw rannu eu cyflwyniad a'u cynlluniau â phartneriaid perthnasol o fyd chwaraeon, iechyd a chymunedol ar draws Gwent. Rydym yn ffyddiog y bydd y pecyn a ddarperir ganddyn nhw yn ychwanegu gwerth a chefnogaeth ar raglenni sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a sut i gefnogi pobl. Rydyn ni’n gweld llawer o bobl ifanc ac oedolion yn ei chael hi’n anodd gyda’u hiechyd meddwl o ganlyniad i’r pandemig, felly mae’n amser da nawr i godi proffil Tidy Butt.

Dywedodd Matthew Creel, sylfaenydd Tidy Butt, “Rydyn ni wir yn edrych ymlaen at gael y cyfle i gyflwyno cynnig Tidy Butt i ystod o bartneriaid a gwasanaethau. O ganlyniad, gobeithiwn y gallwn ni gysylltu ag eraill i gynnig cefnogaeth ynghylch iechyd meddwl a lles.”

I ddysgu rhagor am Tidy Butt ewch i www.tidybutt.co.uk